1Yna Iudith a ddywedodd wrthynt hwy, clywch fi yn awr ô frodyr, cymmerwch y pen hwn a chrogwch ef ar y fan vchaf o’n mur ni.
2A phan oleuo y borau, ac y cyfodo yr haul ar y ddaiar cymmerwch bob vn eich arfau rhyfel, ac eled pob gŵr cadarn allā o’r ddinas, a gosodwch dywysog arnynt hwy, megis pe byddech chwi ar fedr myned i wared i’r maes at wiliadwriaeth yr Assyriaid, ond nac ewch chwi i wared.
3Yna hwynt a gymmerant eu harfau, ac a ânt iw gwerssyllau, ac a godant dywysogion llu yr Assyriaid, ac hwy a redant i babell Holophernes, ond ni’s cafant ef: yna ofn a syrth arnynt hwy, a hwynt a ffoant o’ch gŵydd chwi.
4Felly chwi, a holl drigolion ardaloedd Israel ai herlidiwch hwynt, ac ai sethrwch hwynt ar hŷd eu ffyrdd.
5Ond cyn i chwi wneuthur y pethau hyn gelwch i mi Achior yr Ammoniad, fel y gwelo efe, yr adwaeno yr hwn a ddiystyrodd dŷ Israel, a’r hwn ai hanfonodd ef attom ni i farwolaeth.
6Yna hwynt a alwasant Achior o dŷ Ozias, pan ddaeth efe, a gweled pen Holophernes yn llaw rhyw ŵr o gynnulleidfa y bobl, efe a syrthiodd ar ei wyneb, ai yspryd ef a ballodd.
7Pan godasant hwy ef i fynu, efe a syrthiodd wrth draed Iudith, ac a ymgrymmodd ger ei bron hi, ac a ddywedodd: bendigedic ydwyt ti trwy holl bebyll Iuda, a thrwy yr holl genhedloedd, pwy bynnac a glywant dy enw di a gynhyrfir.
8Yn awr gan hynny mynega i mi yr hyn a wnaethost yn y dyddiau hynn: yna Iudith a fynegodd iddo ef yng-hanol y bobl yr hyn oll a’r a wnaethe hi, er y dydd yr aethe hi allan, nes iddi hi lefaru wrthynt hwy.
9A phan orphennodd hi lefaru y bobl a floeddiasant â llef vchel, ac a roddasant lef lawen yn eu dinas.
10Pan welodd Achior yr hyn oll a’r a wnaethe Duw Israel, efe a gredodd i Dduw yn hollawl, ac a enwaedodd gnawd ei ddienwaediad: ac efe a gyssylltwyd at dŷ Israel hyd y dydd hwn.
11A phan gyfododd y wawr, hwynt a grogasant ben Holophernes allan o’r mûr, a’r holl wŷr a gymmerasant eu harfau, ac a aethant allan yn finteioedd i fylchau y mynydd.
12A phan welodd yr Assyriaid hwynt, hwyntau a anfonasant at y tywysogion, a’r llywawd-wŷr, ac at eu holl bennaethiaid.
13A hwy a ddaethant at babell Holophernes, ac a ddywedasant wrth yr hwn oedd ar ei eiddo ef oll, deffro yn awr ein harglwydd ni: canys y caeth-weision a feiddiasant ddyfod i wared yn ein herbyn ni i ryfel, fel y difether hwynt yn gwbl.
14Yna yr aeth Bagoas i mewn, ac a gurodd wrth ddrws y babell: o blegit efe a dybiodd ei fod ef yn cyscu gyd ag Iudith.
15Pan nad attebodd neb, efe a agorodd, ac a aeth i mewn i’r stafell, ac ai cafodd ef yn gorwedd ar y llawr yn farw, ai ben wedi ei ddwyn ymmaith oddi wrtho ef.
16Am hynny efe a waeddodd â llef vchel, ag ŵylofain, ac â griddfan, ac â bloedd ddirfawr ac a rwygodd ei ddillad.
17Yna efe a aeth i’r babell lle y bydde Iudith arferol o aros, ac ni’s cafodd hi, am hynny efe a neidiodd at y bobl, ac a waeddodd,
18Y caeth-weision hyn a wnaethant ddirdra, vn wraig o’r Hebræaid a wnaeth wradwydd i dŷ brenin Nabuchodonosor: canys wele Holophernes ar y ddaiar ai ben heb fod ganddo.
19Pan glybu tywysogion llu yr Assyriaid hyn, hwynt a rwygasant yn y fan eu dillad, ai meddyliau hwynt a gythryblwyd yn ddirfawr: ac yr oedd llefain, a gweiddi mawr iawn o fewn y gwerssylloedd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.