2.Petr 1 - William Morgan Bible 1588 original edition

PENNOD. I.Yn gymmeint a darfod i feddiant Duw roddi iddynt bob peth yn perthyn i fuchedd, y mae efe yn eu hannog i ffoi rhag llygredigaeth chwantau y byd. 10 Ac i wneuthur eu galwedigaeth yn ddiogel trwy weithredoedd da, a ffrwythau ffydd. 14 Y mae efe yn coffau am ei farwolaeth ei hun, 17 Gan yspysu bod yr Arglwydd Iesu Grist yn wir Fab Duw, megis ac y gwelse efe ei hun ar y mynydd.

1Symon Petr gwasanaethwr, ac Apostl Iesu Grist, i’r rhai a freiniasant gyffelyb werthfawr ffydd a ninnau, trwy gyfiawnder ein Duw a’n achubwr Iesu Grist

2Grâs i chwi, a thangneddyf a amlhaer, trwy adnabyddiaeth Duw, ac Iesu ein Harglwydd,

3Megis y rhoddes ei dduwiol allu ef i ni bôb peth a berthynant i fywyd, a duwioldeb, trwy ei adnabyddiaeth ef yr hwn a’n galwodd ni i ogoniant a rhinwedd.

4Gan hyn rhoddi i ni addewidion rhagor-fawr gwerth fawr, fel y gallech trwy y rhai hynny fod yn gyfrannogion o dduwiol anian, wedi diangc o’r llwgr yr hwn sydd yn y byd trwy drachwant.

5Ac am hyn rhoddwch gwbl o’ch diwydrwydd, cyssylltwch yng-hŷd â’ch ffydd rinwedd ac yng-hyd, â rhinwedd gŵybodaeth:

6Ac yng-hyd â gwybodaeth, gymmedrolder, ac yng-hyd â chymmedrolder, ammynedd, ac yng-hyd ag ammynedd duwioldeb,

7Ac yng-hŷd a duwioldeb, caredigrwydd brawdol: ac yng-hŷd â charedigrwyod brawdol, cariad.

8Canys os byddwch â’r pethau hyn cennych, ac yn aml hwynt, peri a wnânt na boch na segur na diffrwyth yng-wybodaeth ein Harglwydd Iesu Grist.

9O blegit y nêb ni byddo y rhai hyn ganddo, dall ydyw, ac ni wel ddim o bell, yn gollwng tros gof ei lanhau o’i hên bechodau.

10Am hynny, fy-mrodyr byddwch yn fwy diwyd i wneuthur eich galwedigaeth a’ch etholedigaeth yn siccr: canys o gwnewch chwi hyn ni lithrwch chwi byth.

11Canys felly y trefnir i chwi fforddiad yn helaeth i dragywyddol deyrnas ein Harglwydd a’n Achubwr Iesu Grist.

12Am hynny nid esceulusafi eich coffhau chwi byth am y pethau hyn, er eich bod chwi yn gyfarwydd, ac yn siccr yn y gwirionedd presennol.

13Canys yr ydwyf yn tybied fod yn iawn i mi, tra fyddwyf yn y tabernacl hwn, eich cyffroi gan ddwyn ar gôf i chwi,

14Gan wybod fod yn gyfagos yr amser y rhoddaf heibio y tabernacl hwn, Ioan.21.17.megis ac y dangoses ein Harglwydd Iesu Grist i mi.

15Diwyd fyddaf hefyd ar allu o honoch wneuthur coffa am y pethau hyn, wedi fy ymadawiad i.

16Canys nid 1.Cor.1.17.chwedlau dichellgar a ganlynhasom ni, pan oeddem yn mynegi i chwi rinwedd, a dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, eithr â’n llygaid y gwelsom ei fawredd ef:

17Canys efe a dderbyniase gan Dduw Tâd, anrhydedd a gogoniant, pan ddaeth cyfryw lêf atto oddi wrth y dirfawr ogoniant, Math.17.5.Hwn yw’r annwyl Fâb maufi, yn yr hwn i’m boddlonir.

18A’r llef hon a glywsom ni pan ddaeth o’r nêf, a ni gyd ag ef yn y mynydd sanctaidd.

19Yr ydym ni hefyd â gair cadarnaf y prophwydi cennym, i’r hwn da y gweithiwch, o ddarbod am dano, megis am oleuni yn llewyrchu mewn lle tywyll, hyd oni wawrio’r dydd, ac oni chodo’r seren-ddydd yn eich calonnau.

20Os 2.Timot.3.16.gwybyddwch chwi hynny yn gyntaf, nad oes vn brophwydoliaeth yn yr Scrythur o briod awenydd

21Canys nid trwy ewyllys dŷn y daeth gynt brophwydoliaeth: eithr dynnion sanctaidd Duw a ddywedasant megis y cynhyrfwyd gan yr Yspryd glân.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help