1Yn y flwyddyn gyntaf i Darius fab Ahasferus o hâd y Mediaid yr hwn a wnaethid yn frenin ar deyrnas y Caldeaid,
2Yn y flwyddyn gyntaf oi deyrnasiad ef myfi Daniel a ddeallais mewn llyfrau rifedi y blynyddoedd y rhai y
12Ac efe a gyflawnodd ei eiriau y rhai a lefarodd efe am danom ni, ac am ein barn-wŷr y rhai a’n barnent, gan ddwyn arnom ni ddialedd mawr, yr hwn ni bu tann yr holl nefoedd megis y mae yn Ierusalem.
13Megis ac yr scrifennasid yng-hyfraith Moses y daeth yr holl ddryg-fyd hyn arnom ni: ac ni ymbiliasom o flaen yr Arglwydd ein Duw, gan droi oddi wrth ein anwiredd, a chan ddeall dy wirionedd di.
14Am hynny y gwiliodd yr Arglwydd am ddialedd, ac ai dûg arnom ni, o herwydd cyfiawn’r Arglwydd ein Duw yn ei holl weithredoedd a’r a wnaeth: canys ni wrandawsom ni ar ei lais ef.
15 Exod.14.28. Baru.2.11. Etto yr awr hon ô Arglwydd ein Duw yr hwn a ddygaist dy bobl allan o wlâd yr Aipht â llaw gref, ac a wnaethost i ti enw megis heddyw, pechasom ni a wnaethom anwiredd.
16Troer weithian yn ôl dy holl gyfiawnderau Arglwydd, lidiawgrwydd dy ddigter oddi wrth dy ddinas Ierusalem dy fynydd sanctaidd, o herwydd am ein pechodau, ac am anwireddau ein tadau y mae Ierusalem a’th bobl yn wradwydd i bawb o’n hamgylch.
17Ond yr awr hon gwrando ein Duw ni ar weddi dy wâs, ac ar ei ddeisyfiadau ef, a llywyrcha dy wyneb ar dy gyssegr anrhaithiedic, er mwyn yr Arglwydd.
18Gostwng dy glust fy Nuw a chlyw, agor dy lygaid a gwêl ein hanrhaith ni, a’r ddinas yr hon y galwyd dy enw di arni: o herwydd nid yn ein cyfiawnderau ein hun yr ydym ni yn tywallt ein gweddiau ger dy fron, eithr yn dy aml drugareddau di.
19Clyw Arglwydd; arbet Arglwydd, ystyr ô Arglwydd, a dwg i ben, nac oeda er dy fwyn dy hun ô fy Nuw, o herwydd dy enw di a alwyd ar y ddinas hon, ac ar dy bobl.
20A mi etto yn llefaru ac yn gweddio, ac yn cyffesu fy mhechod, a phechod fy mhobl Israel, ac yn tywallt fyng-weddi ger bron yr Arglwydd fy Nuw tros fynydd sanctaidd fy Nuw:
21[Ie] a mi etto yn llefaru mewn gweddi, yna y gŵr Dan.8.16.Gabriel yr hwn a welswn mewn gweledigaeth yn y dechreuad gan ehedec yn fuan a ddaeth attafi yng-hylch pryd yr hwyr offrwm.
22Ac efe a barodd ddeall, ac a lefarodd wrthif, ac a ddywedodd: Daniel yr awr hon y daethum allan i beri it fedru deall.
23Yn nechreu dy weddiau yr aeth y gorchymyn allan, ac mi a ddeuthum iw fynegu, canys annwyl ti: ystyr dithe y peth, a deall y weledigaeth.
24Deng-hwythnos a thri vgain a derfynwyd ar dy bobl, ac ar dy ddinas sanctaidd i ddifa camwedd, ac i selio pechodau, ac i wneuthur iawn am anwiredd, ac i ddwyn cyfiawnder tragywyddawl: ac i selio’r weledigaeth, a’r brophwydoliaeth, ac i eneinio y cyssegr sancteiddiolaf.
25Gŵybydd gan hynny a deall o fynediad y gorchymyn allan am adferu ac am ddychwelyd ac am adailadu Ierusalem hyd y blaenor Messiah saith wythnos, a dwy wythnos a thrugain, yna y cyweirir, ac yr adailedir yr heol, a’r mûr mewn amser blin.
26Ac wedi dwy wythnos a thrugain y lleddir y Messiah, ond nid oi achos ei hun, a phobl y tywysog yr hwn a ddaw a ddinistria y ddinas a’r cyssegr; ai ddiwedd ef fydd trwy lifeiriant, ac hyd ddiwedd y rhyfel ddinistr anrheithiol.
27Hefyd mewn vn wythnos y gwnaiff efe gyfammod â llawer, ac yn hanner yr wythnos y gwna efe i’r aberth, a’r bwyd offrwm beidio: yna trwy lu ffiaidd yr anrheithia efe, hyd oni ymdywallto diben, a thrangc ar yr anrheithiedic.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.