Exodus 30 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXX.Allor yr arogl-darth. 12 Treth y babell. 18 Y noe, neu yr golch-lestr prês. 23 Yr olew sanctaidd. 35 Defnydd yr arogl-darth.

1Gwna hefyd allor (i arogl-darthu arogl-darth: ) o goed Sittim y gwnei di hi.

2Pedairongl fydd hi, yn gufydd ei hŷd, ac yn gufydd ei llêd, a dau gufydd ei huchter: ei chyrn o honi ei hun.

3A goreura hi ag aur coeth, ai chaead ai hystlysau o amgylch, ai chyrn: gwna hefyd iddi goron o aur o amgylch.

4A gwna iddi ddwy fodrwy aur oddi tann ei choron wrth ei dwy gongl: ar ei dau ystlys y gwnei fel y byddant i wisco am drosolion iw dwyn hi arnynt.

5A’r trosolion a wnei di o goed Sittim: a goreura hwynt ag aur.

6A gosot hi o flaen y llenn yr hon wrth Arch y destiolaeth: o flaen y drugareddfa, yr hon ar y destiolaeth lle y cyfarfyddaf a thi.

7Ac arogl-darthed Aaron arni arogl-darth llyseuoc bob boreu, pan daclo efe y lusernau, yr arogl-dartha efe.

8Arogl-darthed Aaron hefyd yn y cyfnos, pan osotto y lusernau i fynu: yn arogl-darth gwastadol ger bron yr Arglwydd drwy eich oesoedd.

9Nac offrymmwch arni arogl-darth dieithr, na phoeth offrwm, na bwyd offrwm: ac na thywelltwch ddiod offrwm arni.

10A gwnaed Aaron iawn ar ei chyrn vnwaith yn y flwyddyn a gwaed pech aberth yr iawn, vnwaith yn y flwyddyn y gwna efe iawn arni drwy eich oesoedd: sancteidd-beth cyssegredic i’r Arglwydd hi.

11A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses gan ddywedyd.

12 Num.1.2. Pan rifech feibion Israel dan eu rhifedi yna rhoddant bob vn iawn am ei enioes i’r Arglwydd pan rifer hwynt: fel na byddo plâ yn eu plith pan rifer hwynt.

13Hynn a ddyru pob vn a elo tann rîf, hanner sicl, yn ol sicl sanctaidd: Lefit.27.25. Num.3.47. Ezec.45.12.vgain Gerah yr sicl: hanner sicl yn offrwm derchafel i’r Arglwydd.

14Pob vn a elo tann rîf o fab vgain mlwydd ac vchod, a rydd offrwm derchafel i’r Arglwydd.

15Na rodded y cyfoaethog fwy, ac na rodded y tlawd lai na hanner sicl: i roddi offrwm derchafel i’r Arglwydd, i wneuthur iawn tros eich enioes.

16A chymmer yr arian iawn gan feibion Israel, a dod ti hwynt i wasanaeth pabell y cyfarfod: fel y byddant yn goffadwriaeth i feibion Israel ger bron yr Arglwydd i fod yn iawn am eich enioes.

17A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses gan ddywedyd:

18Gwna noe bres, ai throed o brês i olchi: a dod hi rhwng pabell y cyfarfod a’r allor, a dod ynddi dwfr.

19A golched Aaron ai feibion o honi eu dwylo ai traed.

20Pan ddelont i babell y cyfarfod, ymolchant a dwfr, fel na byddont feirw: neu pan ddelont wrth yr allor i weini gan arogldarthu aberth tanllyd i’r Arglwydd.

21Golchant eu dwylo ai traed fel na byddont feirw: a bydded iddynt yn ddeddf dragywyddol, iddo ef, ac iw hâd, drwy eu hoesoedd.

22Yr Arglwydd hefyd a lefarodd wrth Moses gan ddywedyd.

23Cymmer it ddewis lyssiau, o’r Myrr pur pum cant a hanner hynny o’r Cinamon pur deu cant, a dec a deugain ac o’r Calamus peraidd deucant a dec a deugain

24Ac o’r Casia pum cant yn ol sicl sanctaidd: a Hinn o olew oliwydden.

25A gwna ef yn olew eneiniad sanctaidd yn eli cymmyscadwy o waith yr apothecari: olew eneiniad sanctaidd fydd efe.

26Ac Lefit.8.10.eneinia ag ef babell y cyfarfod: ac Arch y destiolaeth.

27Y bwrdd hefyd ai holl lestri, a’r canhwyll-bren ai holl lestri: ac allor yr arogl-darth.

28Ac allor y poeth offrwm ai holl lestri, a’r noe ai throed.

29A chyssegra hwynt fel y byddant yn sanctaidd bethau cyssegredic: pob peth a gyffyrddo a hwynt a sancteiddir.

30Eneinia hefyd Aaron ai feibion: a sancteiddia hwynt i offeiriadu i mi.

31A llefara wrth feibion Israel gan ddywedyd: olew eneiniad sanctaidd a fydd hwn i mi trwy eich oesoedd.

32Nac îrer ef ar gnawd dyn, ac ar ei waith ef na wnewch ei fath: sanctaidd yw, bydded sanctaidd gennych.

33Pwy bynnac a gymmysco ei fâth, a’r hwn a roddo o honaw ef ar dieithr: a dorrir ymmaith oddi wrth ei bobl.

34Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses cymmer it lyssiau blodau Myrr, Onycha, a Galbanum, y llyssiau a Thus pur: yr vn feint o bob vn.

35A gwna ef yn arogl-darth arogl-ber o waith yr apothecari: yn gymmyscedic, yn bur ac yn sanctaidd.

36Gan fâlu mâla ef, a dod o honaw ef ger bron y destiolaeth o fewn pabell y cyfarfod, lle y cyfarfyddaf a thi: sancteidd-beth cyssegredic fydd efe i chwi.

37A’r arogl-darth yr hwn a wnelech na wnewch i chwi eich hunain ei fath ef: bydded gennit yn gyssegredic i’r Arglwydd.

38Pwy bynnac a wnel ei fath ef i arogldarthu o honaw: a dorrir ymmaith oddi wrth ei bobl.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help