1Cenwch i’r Arglwydd ganiad newydd: cênwch i’r Arglwydd yr holl ddaiar.
2Cênwch i’r Arglwydd, bendigwch ei enw ef: cyhoeddwch o ddydd i ddydd ei iechydwriaeth ef.
3Dadcenwch ym mysc y cenhedloedd ei ogoniant ef, ym mhlith yr holl bobloedd ei ryfeddodau.
4Canys mawr Arglwydd, a chanmoladwy iawn, ofnadwy efe goruwch yr holl dduwiau.
5Canys holl dduwiau’r bobloedd eulynnod, yr Arglwydd a wnaeth y nefoedd.
6Gogoniant a harddwch oi flaen ef, nerth a hyfrydwch yn ei gyssegr.
7Tylwythau y bobl rhoddwch i’r Arglwydd: rhoddwch i’r Arglwydd ogoniant a nerth.
8Roddwch i’r Arglwydd ogoniant ei enw, dygwch fwyd offrwm, a deuwch iw gynteddoedd.
9Addolwch ger bron yr Arglwydd mewn prydferth sancteiddrwydd: yr holl ddaiar, ofnwch rhagddo ef.
10Dywedwch ym mysc y cenhedloedd, yr Arglwydd sydd yn teyrnasu: a’r byd a siccrhaodd efe fel nad yscogo: efe a farna y bobl yn iniawn.
11Llawenhaed y nefoedd a gorfoledded y ddaiar: rhûed y môr ac sydd ynddo.
12Gorfoledded y maes, a’r hyn oll ynddo: a holl brennau’r coed a gânant o flaen yr Arglwydd:
13Am ei ddyfod, am ei ddyfod i farnu’r ddaiar: efe a farna’r bŷd drwy gyfiawnder, a’r bobloedd yn ei wirionedd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
