1Baich gair yr Arglwydd i Israel, medd yr Arglwydd yr hwn sydd yn estyn allan y nefoedd, ac yn sylfaenu y ddaiar, ac yn ffurfio yspryd dŷn ynddo.
2Wele fi yn gosod Ierusalem yn phiol gwsc i’r bobloedd oll o amgylch: ac efe hefyd a fydd gyd ag Iuda wrth warche ar Ierusalem.
3A bydd y dwthwn hwnnw i’m osod Ierusalem yn faen trwm i’r holl bobloedd: pawb ai cyfodo yn ddiau a rwygir, er casclu atto holl genhedloedd y ddaiar.
4Y diwrnod hwnnw medd yr Arglwydd, y tarawaf bob march â syndra, ai farchog ag ynfydrwydd, ac agoraf fy llygaid ar dŷ Iuda, a tharawaf holl feirch y bobl â dallineb.
5A thywysogion Iuda a ddywedant yn eu calonnau, nerth i mi presswylwŷr Ierusalem, trwy Arglwydd y lluoedd eu Duw hwynt.
6Y dydd hwnnw y gosodaf bennaethiaid Iuda fel marworyn tân yn y coed, ac fel pentewyn tân yn y gwellt, ac ysant ar y llaw ddeheu, ac ar yr aswy yr holl bobloedd: ac Ierusalem a erys rhac llaw yn ei lle ei hun yn Ierusalem.
7Yr Arglwydd a geidw bebyll Iuda yn y dechreu, megis nad ymfawrygo gogoniant tŷ Ddafydd, a gogoniant presswylwŷr Ierusalem ar Iuda.
8Y dydd hwnnw’r amddeffyn yr Arglwydd bresswylwŷr Ierusalem, a bydd y llescaf o honynt y dydd hwnnw fel Dafydd: a thŷ Ddafydd fel Dduw, fel Angel yr Arglwydd oi blaen hwynt.
9Y dydd hwnnw bydd i’m geisio difetha’r holl genhedloedd y sy yn dyfod yn erbyn Ierusalem.
10A thywalltaf ar dŷ Ddafydd, ac ar bresswylwŷr Ierusalem yspryd rhâd, a thosturiaeth, ac edrychant arnaf yr hwn a wanasant, galarant hefyd am dano, fel vn yn galaru am vnigenedic, ac ymofidiant am dano ef, megis vn yn gofidio am gyn-fab.
11 2.Cron.35.22. Y dwthwn hwnnw y bydd galar mawr yn Ierusalem, megis galar Adadrimmon yn nyffryn Megidon.
12A’r wlâd a alara, pob teulu wrtho ei hun, ai gwragedd wrthynt eu hunain, teulu tŷ Dafydd wrtho ei hun, ai gwragedd wrthynt eu hunain; teulu tŷ Nathan wrtho ei hunan, ai gwragedd wrthynt eu hunain.
13Teulu tŷ Lefi wrtho ei hunan, ai gwragedd wrthynt eu hunain, teulu tŷ Semei wrtho ei hunan, ai gwragedd wrthynt eu hunain.
14Yr holl deuluoedd eraill, pob teulu wrtho ei hun: ai gwragedd wrthynt eu hunain.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
