1.Samuel 18 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XVIII.Y Gefeillach a oedd rhwng Ionathan a Dafydd. 11 Saul yn casau, ac yn ofni Dafydd.

1A phan orphennodd efe ymddiddan a Saul, yna enaid Ionathan a ymgylymmodd wrth enaid Dafydd: fel y carodd Ionathan ef, megis ei enaid ei hunan.

2A Saul ai cymmerth ef y diwrnod hwnnw: ac ni adawodd iddo ddychwelyd i dŷ ei dâd.

3Yna Ionathan a wnaeth gyfammod a Dafydd: o herwydd efe ai care megis ei enaid ei hun.

4Ac Ionathan a ddioscodd y fantell yr hon am dano ei hun, ac ai rhoddes i Ddafydd, ai wiscoedd, îe hyd yn oed ei gleddyf, ai fwa, ai wregys.

5A Dafydd a aeth yn gall i ba bynnac yr anfonodd Saul ef, a Saul ai gosododd ef ar y rhyfel-wŷr: ac efe oedd gymmeradwy yngolwg yr holl bobl, ac yng-olwg gweision Saul hefyd.

6A bu (wrth ddyfod o honynt) pan ddychwelodd Dafydd o ladd y Philistiad, yna ddyfod o’r gwragedd allan o holl ddinasoedd Israel dan ganu, a dawnsio i gyfarfod a’r brenin Saul: a thympanau, a gorfoledd, ac ag tri-thant.

7A’r gwragedd yn chware a ymmatebent, ac a ddywedent: Pennod.21.11|1SA 21:11 & 29.5.|1SA 29:5. Ecclesiast.47.6,7tarawodd Saul ar ei filoedd, a Dafydd ar ei fyrddiwn.

8Am hynny y digiodd Saul yn ddirfawr, a’r ymadrodd hwn oedd ddrwg yn ei olwg ef, ac efe a ddywedodd, rhoddasant i Ddafydd fyrddiwn, ac i mi y rhoddasant filoedd: mwy iddo ef, eithr y frenhiniaeth?

9A bu Saul yn gwilied Dafydd o’r dydd hwnnw allan.

10Bu hefyd drannoeth i ddrwg yspryd Duw ddyfod ar Saul, ac efe a brophwydodd yng-hanol y tŷ, yna Dafydd a ganodd ai law, fel o’r blaen: a gwaiw-ffon yn llaw Saul.

11Yna Saul a siglodd y waiw-ffon, ac a ddywedodd, tarawaf trwy Ddafydd, a thrwy ’r pared: a Dafydd a giliodd ddwy-waith oi ŵydd ef.

12A Saul a ofnodd rhac Dafydd: o herwydd bod yr Arglwydd gyd ag ef, a chilio o honaw ef oddi wrth Saul.

13Am hynny Saul ai gyrrodd ef ymmaith oddi wrtho ef, ac ai gosododd ef tano ei hun yn dywysog fil: ac efe a lywodraethodd y bobl.

14A bu Ddafydd gall yn ei holl ffyrdd: a’r Arglwydd gyd ag ef.

15Pan welodd Saul ei fod ef yn gall iawn: yna ’r ofnodd efe rhacddo ef.

16Eithr holl Israel, ac Iuda a garodd Ddafydd: am ei fod ef yn eu llywodraethu hwynt.

17Yna y dywedodd Saul wrth Ddafydd, wele Merab fy merch hynaf, hi a roddafi i ti yn wraig, yn vnic bydd i mi yn fab nerthol, ac ymladd ryfeloedd yr Arglwydd: (canys dywedase Saul, ni bydd fy llaw i yn ei erbyn ef, onid llaw y Philistiaid fydd yn ei erbyn ef. )

18A Dafydd a ddywedodd wrth Saul, pwy fi, a pheth fy mywyd dŷlwyth fy nhâd i yn Israel, fel y byddwn yn ddaw i’r brenin?

19Eithr yn yr amser rhoddi Merab merch Saul i Ddafydd, yna hi a rhoddwyd i Adriel y Meholathiad yn wraig.

20Yna Michol merch Saul a garodd Ddafydd: a mynegasant i Saul, a’r peth fu fodlon ganddo.

21(A dywedodd Saul, rhoddaf hi iddo ef, fel y byddo hi iddo ’n fagl, ac y byddo llaw y Philistiaid yn ei erbyn ef: ) felly Saul a ddywedodd wrth Ddafydd, drwy’r llall yr ymgyfathrechi a mi heddyw.

22A Saul a orchymynnodd iw weision ymddiddenwch a Dafydd yn ddistaw, gan ddywedyd, wele y brenin sydd hoff ganddo dydi, ai holl weision ef a’th garant di: yn awr gan hynny ymgyfathracha a’r brenin.

23A gweision Saul a adroddasant wrth Ddafydd y geiriau hyn: a Dafydd a ddywedodd ai yscafn yn eich golwg chwi ymgyfathrachu a brenin, a minne yn ŵr tlawd, a gwael?

24A gweision Saul a fynegasant iddo, gan ddywedyd: fel hyn y llefarodd Dafydd.

25Yna y dywedodd Saul, fel hyn y dywedwch wrth Ddafydd, nid yw y brenin yn ewyllysio cynhyscaeth, onid cant o flaen-grwyn y Philistiaid i ddial ar elynnion y brenin: (canys Saul a feddyliodd am ladd Dafydd drwy law y Philistiaid. )

26Ai weision ef a fynegasant i Ddafydd y geiriau hynn, a’r ymadrodd fu fodlon gan Ddafydd am ymgyfathrachu a’r brenin: ond ni ddaethe yr amser.

27Yna y cyfododd Dafydd, ac efe a aeth, ai wŷr, ac a darawodd ddau can-wr, o’r Philistiaid, a Dafydd a ddygodd eu blaen-grwyn hwynt, ac ai cwbl dalasant i’r brenin, i ymgyfathrachu a’r brenin: am hynny y rhoddes Saul Michol ei ferch yn wraig iddo yntef.

28Yna y gwelodd Saul, ac y gwybu mai ’r Arglwydd gyd a Dafydd: a Michol merch Saul ai carodd ef.

29A Saul a ofnodd fwy-fwy rhac Dafydd, a bu Saul yn elyn i Ddafydd byth.

30Yna tywysogion y Philistiaid a aent allan, a phan elent hwy, Dafydd a fydde gallach na holl weision Saul, ai enw ef oedd anrhydeddus iawn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help