1A Phan ddarfu iddi hi weiddi ar Dduw Israel, a gorphen yr holl eiriau hyn, yna hi a gyfododd oi gorwedd,
2Ac a alwodd ei llaw-forwyn, ac a aeth i wared i’r tŷ, yn yr hwn yr arhosodd hi tros ddyddiau y Sabbothau, a thros ei gŵyliau: ac hi a fwriodd ymmaith y sachliain a’r hwn yr ydoedd hi wedi ymwisco, ac a ymddioscodd o ddillad ei gweddwdod.
3A hi a olchodd ei hwyneb â dwfr, ac ai eneiniodd ag enaint gwerthfawr, ac a osododd wallt ei phen mewn trefn, ac a roddodd feitr arno, ac a wiscodd ei dillad parchedic y rhai y bydde hi arferol eu gwisco ym myw ei gŵr Manasses.
4A hi a gymmerodd sandalau am ei thraed, ac a wiscodd fraichledau, a llewis, a modrwyau, a chlust-dlysau, ai holl deganau.
5Ac y hi a ymbingciodd yn wŷch iawn i hudo llygaid pa wŷr bynnac ai gwelent hi.
6Yna hi a roddodd iw llaw-forwyn gostreled o win, ac stened o olew, ac a lanwodd gŵd o beillied, ac o ffigus, ac o fara peillied, ac hi a ddyblygodd ei holl lestri hyn yng-hyd, ac ai gosododd arni.
7A hwynt a aethant yng-hyd i borth dinas Bethulia, ac a gawsant Ozias, a henuriaid y ddinas, Chabris, a Charmis yn sefyll wrtho.
8A phan welsant hwy hi, a bod ei hwynebpryd hi wedi ei newid, ai dillad wedi eu newid, hwynt hwy a ryfeddasant yn ddirfawr o herwydd ei glendid hi.
9Ac a ddywedasant wrthi, Duw, Duw ein tadau a roddo i ti râs, ac a gwblhao dy amcānion i ogoniant meibion Israel, a derchafiad Ierusalem: yna hwynt a addolasant Dduw.
10A hi a ddywedodd wrthynt, gorchymynnwch agorid i mi borth y ddinas, fel yr elwyf allan i gyflawni y geiriau y rhai a lefarasoch chwi wrthifi: felly hwynt a orchymynnasant i’r llangciau agori iddi megis ac y dywedase hi: a hwyntau a wnaethant felly.
11Yna yr aeth Iudith allan, hi ai llaw-forwyn gyd â hi, a gwŷr y ddinas a edrychasant ar ei hôl, nes iddi ddescyn o’r mynydd, a myned trwy ’r dyffryn, ac ni allent wedi hynny ei gweled hi: ac hwy a aethant ar hyd y dyffryn yn iniawn.
12Yna giliadwriaeth gyntaf yr Assyriaid a gyfarfu â hi, ac ai daliasant hi, ac a ofynnasant iddi, eiddo pwy ydwyt ti: ac o ba le yr ydwyt yn dyfod:
13A hi a ddywedodd, merch ydwyf o’r Hebraeaid, a ffoi yr ydwyf oddi wrthynt hwy, canys ar fyrder hwynt a roddir yn sclyfaeth i chwi.
14Ac yr ydwyfi yn dyfod ger bron Holophernes pen tywysog eich llu chwi, fel y mynegwyf eiriau gwir, ac y dangoswyf ger ei fron ef y ffordd ar hyd yr hon yr aiff efe, ac y gorescyn yr holl fynydd-dir, ac ni dderfydd am gnawd, nac enioes vn oi wŷr ef.
15Pan glybu y gwŷr ei geiriau hi, hwy a ddalasant sulw ar ei hwyneb-pryd hi, ac yr oedd hi yn lan-deg odieth ger eu bron hwynt.
16A hwynt a ddywedasant wrthi hi, ti a gedwaist dy enioes, gan i ti ddyfod i wared ar frŷs ger bron ein harglwydd ni.
17Yn awr gan hynny tyret yn nes at ei babell ef, a o honom a’th arweiniant di, nes iddynt hwy dy roddi di yn ei law ef: a phan sefech di ger ei fron ef, nac ofna yn dy galon, eithr mynega yn ôl dy ymadroddion ac efe a wn a yn dda i ti: yna hwynt a etholasant gan-ŵr o honynt, ac a baratoasant gerbyd iddi hi, ac iw llaw-forwyn.
18Ac hwynt ai dugasant hi i babell Holophernes, yna yr oedd rhedegen drwy ’r holl werssylloedd, canys ei dyfodiad hi a wnaed yn honnaid yn y pebyll, ac hwy a ddaethant ac a safasant oi hamgylch hi, canys yr oedd hi yn sefyll o’r tu allan i babell Holophernes, nes iddynt hwy fynegu iddo ef oi herwydd hi.
19A hwynt a ryfeddasant o herwydd ei glē did hi, ac a ryfeddasant o herwydd meibion Israel, a dywedodd pob vn wrth ei gilydd, pwy a ddirmyge y bobl hyn, y rhai sy a’r fath yn eu mysc: diau nid yw dda adel vn gŵr o honynt, canys pe gadewid hwynt, hwy a allent dwyllo holl y ddaiar.
20A’r rhai oeddynt yn cyscu gyd â Holophernes a aethant allan, ai holl weision ef, ac ai dugasant hi i’r babell,
21A Holophernes oedd yn gorphywys ar ei wely mewn canopi yr hwn ydoedd wedi ei weû o borphor, ac aur, a smaragdus, a meini gwerth-fawr.
22A hwynt a fynegasant iddo ef oi phlegit hi, ac efe a aeth allan i’r cyntedd, a lusernau arian yn myned oi flaen ef.
23A phan ddaeth Iudith ger ei fron ef, ai weision, hwynt oll a ryfeddasant o herwydd glendid ei hwyneb-pryd hi, a hi gan syrthio oi flaen ef a ymgrymmodd iddo, ai weision ef ai codasant hi i fynu.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.