1.Cronicl 18 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XVIII.1 Rhyfel Dafydd yn erbyn y Philistiaid, 2 Moab. 3 Zoba, 5 Damascus, 12 Ac Edom.

1A Darfu wedi hyn i Ddafydd daro y Philistiaid, ai darostwng hwynt: ac efe a ddug 2.Sam.8.1.Gath ai phentrefydd o law y Philistiaid.

2Hefyd efe a darawodd Moab, a’r Moabiaid a fuant weision i Ddafydd yn dwyn trêth.

3Tarawodd Dafydd hefyd Hadarezar, breinin Zoba Hemath, pan oedd efe yn myned i osod ei gryfdwr wrth afon Euphrates.

4A chymmerth Dafydd oddi wrtho ef 2.Sam.8.4.fil o gerbydau, a saith mil o farchogion, ac vgain mîl o wyr traed, a thorrodd Dafydd linynnau garr bôb cerbyd: ond efe a adawodd o honynt gant cerbyd.

5Yna y daeth y Siriaid o Ddamascus i gynhorthwyo Hadarezar brenin Zoba: yna Dafyd a ladodd o’r Siriaid ddwy fil ar hugain o wŷr.

6A gosododd Dafydd ar y Siriaid o Ddamascus: a bu y Siriaid weision i Ddafydd yn Dwyn treth: a’r Arglwydd a waredodd Ddafydd ym mha le bynnac yr aeth.

7Dafydd hefyd a gymmerodd dariannau aur y rhai oeddynt gan weision Hadarezar, ac ai dûg hwynt i Ierusalem.

8Dûg Dafydd hefyd o Tebhath, ac o Chun, dinasoedd Hadarezar lawer iawn o brês, â hwn y gwnaeth Salomon y 2.Bren.7.23.(sic.)|1KI 7:23. Ier.52.20.gerwyn brês, a’r colofnau, a’r llestri prês.

9Pan glybu * Tohu brenin Hemath daro o Ddafydd holl nerth Hadarezar brenin Zoba,

10Yna efe a anfonodd at y brenin Dafydd 2.Sam.8.9.Hadoram ei fâb, a phob llestri aur, ac arian, a phrês i geisio heddwch ganddo ef, ac iw fendithio ef, am iddo ryfela yn erbyn Hadarizar ai daro ef: canys rhyfelwr oedd Hadarezar Tohu.

11Y rhai hynny hefyd a gyssegrodd y brenin Dafyd i’r Arglwydd, gyd a’r arian, a’r aur, y rhai a ddygase efe oddi ar yr holl genhedloedd oddi ar Edom, ac oddi ar Moab, ac oddi ar feibion Ammon, ac oddi ar y Philistiaid, ac oddi ar Amalec.

12Ac Abisai mab Serfia a laddodd o Edom yn nyffryn yr halen dair mîl ar bymthec.

13Ac efe a osododd bennaethiaid yn Edom, a’r holl Edomiaid a fuant weision i Ddafydd, a’r Arglwydd a gadwodd Ddafydd, ym mha le bynnac y rhodiodd efe.

14A Dafydd a ddeyrnasodd ar holl Israel, ac yr oedd efe yn gwneuthur barn, a chyfiawnder iw holl bobl.

15Ac Ioab mab Serfia ar y llu: ac Iehosaphat mab Ahilud yn gofiadur.

16A Zadoc mab Ahitub, ac 2.Sam.8.17.Abimelec mab Abiathar offeiriaid, a Sausa yn scrifennudd.

17Benaiahu hefyd mab Iehoiada ar y Crethiaid, a’r Pelethiaid: a meibion Dafydd y rhai nesaf at law y brenin.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help