Genesis 14 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XIIII.Codorlaomer ac eraill yn rhyfela yn erbyn Sodoma. 12 Ac yn dala Lot. 14 Abram yn achub Lot. 18 Melchisedec yn cyfarfod, ac yn bendithio Abram. 22 Abram yn gwrthod golud y Sodomiaid.

1A Bu yn nyddiau Amraphel brenin Sinar, Arioch brenin Elasar, Codorlaomer brenin Elam, a Thidal brenin y cenhenloedd,

2Wneuthur o honynt ryfel a Bera brenin Sodoma, ac a Birsa brenin Gomorra, Sinab brenin Adma, ac Semeber brenin Seboim, ac brenin Bela honno Soar.

3Y rhai hyn oll a ymgyfarfuant yn nyffryn Sidim: hwnnw yw yr môr heli.

4Deuddeng mlhynedd y gwasanaethasent Cedorlaomer, a’r drydedd flwyddyn ar ddec y gwrthryfelasant.

5A’r bedwaredd flwyddyn ar ddec y daeth Cedorlaomer, a’r brenhinoedd y rhai gyd ag ef, ac a darawsant y Raphiaid, yn Astarotcarnaim, a’r Zusiaid yn Ham, a’r Emiaid yng-wastadedd Ciriathaim.

6A’r Horiaid yn eu mynydd Seir, hyd wastadedd Paran, yr hwn wrth yr anialwch.

7Yna y dychwelasant, ac y daethant i Enmispat, honno Cades, ac a darawsant holl wlâd yr Amaleciaid, a’r Amoriaid hefyd, y rhai oeddynt yn trigo yn Hazezonthamar.

8Allan hefyd yr aeth brenin Sodoma, a brenin Gomorra, a brenin Adma, a brenin Seboim, a brenin Bela honno Soar: ac yn nyffryn Sidim y lluniaethasant ryfel a hwynt,

9A Chodorlaomer brenin Elam, a Thidal brenin y cenhedloedd, ac Amraphel brenin Sinar, ac Arioch brenin Elasar: pedwar o frenhinoedd yn erbyn pump.

10A dyffryn Sidim lawn o byllau clai, a brenhinoedd Sodoma, a Gomorra, a ffoasant ac a syrthiasant yno: a’r lleill a ffoasant i’r mynydd.

11Yna y cymmerasant holl gyfoeth Sodoma a Gomorra, ai holl lynniaeth hwynt, ac a aethant ymmaith.

12Cymmerasant hefyd Lot fab brawd Abram, ai gyfoeth, ac a aethant ymmaith, o herwydd yn Sodoma yr ydoedd efe yn trigo.

13Yna y daeth vn a ddianghase: ac a fynegodd i Abram yr Hebread, ac efe yn trigo yng-wastadedd, Mamre’r Amoread brawd Escol, a brawd Aner, a’r rhai hynny mewn cyngrair ag Abram.

14Pan glybu Abram gaeth-gludo ei gâr yna efe a arfogodd oi hyfforddus y rhai a anesyd yn ei dŷ ef ddau naw, a thrychant, ac a ymlidiodd hyd Dan.

15Yna yr ymrannodd efe yn eu herbyn hwynt liw nôs, efe ai weision, ac ai tarawodd hwynt ac ai hymlidiodd hyd Hoba, yr hon o’r tu asswy i Ddamascus.

16Ac efe a ddûg trachefn yr holl gyfoeth, ai gâr Lot hefyd ai gyfoeth a ddug ef trachefn, a’r gwragedd hefyd, a’r bobl.

17Yna brenin Sodoma a aeth allan iw gyfarfod ef, i ddyffryn Safeh hwnnw yw 2.Sam.18.18.dyffryn y brenin, wedi ei ddychwelyd o daro Codorlaomer, a’r brenhinoedd y rhai gyd ag ef.

18Melchisedec hefyd brenin Salem, a ddûg allan fara, a gwin, ac efe offeiriad i Dduw goruchaf,

19Ac ai bendithiodd ef, ac a ddywedodd: bendigêdic fyddo Abram gan Dduw goruchaf, meddiannydd nefoedd, a daiar.

20A bendigêdic fyddo Duw goruchaf yr hwn a roddes dy elynion yn dy law: Hebr.7.4.ac a roddes iddo ddegwm a bôb dim.

21Dywedodd hefyd brenin Sodoma wrth Abram, dôd ti i mi y dynion, a chymmer i ti y cyfoeth.

22Ac Abram a ddywedodd wrth frenin Sodoma, derchefais fy llaw at yr Arglwydd Dduw goruchaf, meddiānydd nefoedd a daiar.

23Na chymmerwn o edef hyd garreu escid, nac o’r hyn oll eiddo ti rhac dywedyd o honot, myfi a gyfoethogais Abram.

24Ond yn unic yr hyn a fwyttaodd y llangciau, a rhann y gwyr y rhai a aethant gyd a mi, Aner, Escol, a Mamre: cymmerant hwy eu rhann.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help