Ecclesiasticus 41 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XLI.Am ofn angeu, 8 ac am gospedigaeth y rhai annuwiol.

1Oh angeu mor chwerw yw meddwl am danat ti i’r dŷn a fyddo yn ceisio heddwch yn yr hyn a fyddo ganddo ef?

2I’r gŵr a fyddo dihelbul, ac yn llwyddian­nus ym mhob peth, ac i’r hwn a ddichon etto gymmeryd ei fwyd?

3Oh angeu mor dda yw dy farn di i’r ang­henus, ac i’r gwan:

4Ac i’r hen ddihenudd, ac i’r hwn sydd yn ofalus am bob peth, ac i’r anobeithiol, ac i’r anioeddefgar?

5Nac ofna angeu, cofia yr hyn a fu o’th flaen di, ac a fydd ar dy ôl di: dymma farn yr Arglwydd ar dy cnawd di.

6Pa ham y gwrthwynebi di ewyllys y Goruchaf: pa vn bynnac ai dec ai cant ai mîl o flynyddoedd

7Nid oes cerydd yn vffern am fyw.

8Plant ffiaidd yw plant pechaduriaid: fel y mae y rhai a ydynt yn byw yn agos i’r annuwiol.

9Etifeddiaeth plant annuwiol a ddifethir, a chyd ai hiliogaeth hwynt yr erys gwradwydd yn wastad.

10Rhag tâd annuwiol yr achwyn y plant: o blegit hwy a wradwyddir oi achos ef.

11Gwae chwi wŷr annuwiol y rhai a adawsoch gyfraith y Duw goruchaf: o blegit er eich amlhau, chwi a ddifethir.

12A phan aner chwi a enir i felldith, ac os meirw fyddwch chwi, i felldith y rhoddir chwi yn rhan.

13 Pen.40.11. Aiff pob peth i’r ddaiar a ddelo o’r ddaiar, felly yr aiff yr annuwiol i ddestruw.

14Galar dynion fydd am eu cyrph, ond enw dynion a ddeleuir pan nid yw efe dda.

15Bydd ofalus am enw da: canys hwnnw a erys gyd â thi yn hwy na mîl o dryssorau mawrion o aur.

16Buchedd dda a gaiff nifer o ddyddiau, ac enw da a beru byth.

17Fy meibion cedwch ddoethineb mewn heddwch.

18Am Pen.20.29.ddoethineb wedi ei chuddio, a thryssor heb ei weled pa fudd sydd o’r ddau:

19Gwell yw ’r dŷn a guddio ei ffolineb na’r dyn a guddio ei ddoethineb.

20Gwladeiddied gan hynny o herwydd fyng-air i: o blegit nid da yw cadw pob gwla­deidd-dra, ac ni chymmer pawb fod pob peth yn ffyddlon.

21Cywilyddiwch yng-ŵydd tâd a mam am odineb, ac yng-ŵydd tywysog neu bendefig am gelwydd.

22Am fai o flaen yr ynad a’r tywysog, am anwiredd yng-wydd y gynnulleidfa a’r bobl,

23Ac am anghifiawnder yng-wydd cydymmaith a chyfaill.

24Felly am ledrad lle y byddech yn aros ond am wirionedd Duw ai gyfammod wyneb oddi wrth ŵr bonheddig:

26Am ddwyn rhodd neu ran ac am roddi serch ar wraig gŵr priod, ac am arfer maswedd â morwyn, am hynny na saf wrth ei gwely hi,

27[Bydded yn gywilydd gennit] edliw i’th gydymmaith, ac na ddannod wedi rhoddi,

28Ac am adrodd drachefn yr hyn a glywech, a dadcuddio cyfrinach: felly y byddi di yn iawn gywilyddgar, ac y cei di ffafor gan bob dŷn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help