1Yr vn sydd wann o ffydd derbynniwch attoch, nid i ymrysonnion dadleugar.
2Canys y mae vn yn credu y gall fwyta pôb peth: ac y mae arall yr hwn sydd wann yn bwyta dail.
3Na ddirmyged yr hwn sydd yn bwyta, yr hwn nid yw yn bwyta: ac na farned yr vn ni fwytu, yr hwn sydd yn bwyta: canys Duw a’i derbynniodd ef.
4 Iac.4.12. Pwy wyt ti yr hwn wyt yn barnu gwâs gŵr arall? y mae efe yn sefyll neu yn cwympo iw arglwydd ei hun: ac efe a gynhelir, canys dichon Duw ei gynnal ef.
5Y mae vn yn barnu fod dydd vwch law dydd, ac arall yn barnu fod pôb dydd yn bydded pôb vn yn siccr yn ei feddwl.
6Yr hwn sydd yn ystyried dydd, i’r Arglwydd y mae yn ystyried, a’r hwn nid yw yn ystyried dydd, i’r Arglwydd y mae heb ystyried, yr hwn sydd yn bwyta i’r Arglwydd y mae yn bwyta, canys y mae yn diolch i Dduw, a’r hwn nid yw yn bwyta i’r Arglwydd y mae heb fwyta, ac y mae yn diolch i Dduw.
7Canys nid yw yr vn o honom yn byw iddo ei hun, ac nid yw yr vn yn marw iddo ei hun.
8Canys os byw yr ydym, byw yr ydym i’r Arglwydd, os marw yr ydym, marw yr ydym i’r Arglwydd, am hynny pa vn bynnac yr ydym a’i byw a’i marw, eiddo yr Arglwydd ydym ni.
9O blegit er mwyn hyn y bu farw Crist, ac yr adgyfodes, ac y bu fyw trachefn, fel yr arglwyddiaethe ar y meirw a’r byw.
10Pa ham gan hynny yr wyt ti yn barnu vy frawd? neu pa ham yr wyt yn dirmygu dy frawd? o herwydd ni a ymddangoswn oll ger bron gorsedd-faingc Crist.
11Canys y mae yn scrifennedig, byw Esay 45.23.|ISA 45:23. Phil.2.10.wyfi medd yr Arglwydd: o blegit pob glin a blyga i mi, a phob tafod a gyffessa i Dduw.
12Felly ynte pob vn o honom a rydd gyfrif am dano ei hun i Dduw.
13Am hynny na farnwn mwyach nêb ei gilydd, onid yn hytrach ystyriwch hyn: na roddo nêb iw frawd achos trāgwydd, neu rwystr.
14Mi a wn, ac y mae yn siccr gennif trwy’r Arglwydd Iesu, nad oes dim yn aflan o honaw ei hunan: onid yr vn sydd yn tybied fod peth yn aflan, iddo ef y mae yn aflan.
15Eithr os tristeuir dy frawd o blegit bwyd nid wyt yr awr hon yn rhodio yn ôl cariad, 1.Cor.8.11.na choll ef â’th fwyd, yr hwn y bu Crist farw trosto.
16Na chabler eich daioni chwi.
17Canys nid yw teyrnas Dduw fwyd a diod, onid, cyfiawnder, a thangneddyf, a llawenydd yn yr Yspryd glân.
18Pwy bynnac gan hynny a wasanaetho Grist yn y pethau hyn, sydd gymmeradwy gan Dduw, a chanmoladwy gan ddynion.
19Felly dilynwn ni y pethau sy o blegit tangneddyf: a’r pethau sy yn adeiliadu eu gilydd.
20Na ddinistria waith Duw er mwyn bwyd: Tit.1.15.diau yw fod pob peth yn lân: eithr drwg yw i’r dyn a fwytu drwy dramgwydd.
21 1.Cor.8.13. Da yw na fwytaer cig, ac nad yfer gwîn, na dim drwy’r hyn y tramgwydder, neu y rhwystrer, neu y gwanhaer dy frawd
22A oes ffydd gennit ti? bydded hi gyd â thi dy hun ger bron Duw: gwyn ei fyd yr vn nis barna ei hunan yn yr hyn y mae yn foddlawn iddo.
23Canys yr vn a betrusa, os bwytu y mae yn farnedic, am nad yw efe yn bwyta o ffydd: pa beth bynnac nid yw o ffydd, pechod yw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.