1Ac Elihu a lefarodd, ac a ddywedodd:
2Disgwil wrthif ychydig, ac myfi a fynegaf i ti: canys gennif ymadroddion etto tros Dduw.
3O bell y cymmeraf fyng-ŵybodaeth: ac i’m gwneuthur-wr y rhoddaf fi gyfiawnder.
4Canys yn wîr nid celwydd fydd fy ymadroddion: perffaith o ŵybodaeth gyd a thi.
5Wele cadarn ydyw Duw, ac ni ddiystyra efe cadarn o gadernid a doethineb
6Nid achub efe fywyd yr annuwiol: ac efe a rydd iniondeb trueniaid.
7Ni thynn efe ei olwg oddi ar y cyfiawn, eithr efe ai gesyd hwynt gyd a brenhinoedd ar yr orsedd-faingc yn dragywydd, ac felly y derchefir hwynt.
8Ac os hwy wedi eu rhwymo â gefynnau, a gaethiwir â rhaffau gorthrymder,
9Yna efe a ddengys iddynt hwy eu gwaith: a’r modd y gorthrechodd eu hanwireddau hwynt.
10Ac a egyr eu clustiau iddynt hwy i cerydd: ac a ddywed am droi o honynt hwy oddi wrth anwiredd.
11Os gwrandawant hwy, ac gwasanaethant hwy hwynt a dreuliant eu dyddiau mewn daioni, ai blynyddoedd mewn hyfrydwch.
12Ac oni wrandawant, cleddyf a aiff trwyddynt hwy: a hwynt a drengant heb ŵybod.
13Ond y rhai rhagrithiol o galon a chwanêgant ddig: ni waeddant pan rwymo efe hwynt.
14Eu henaid hwythau fydd marw mewn ieuengetid: ai bywyd gyd a’r puttein-wŷr.
15Efe a wared y truan oi orthrymder: ac a egyr eu clustiau hwynt mewn gorthrymder.
16Felly hefyd efe a’th wthiase di o enau cyfyngdra i ehangder, dann yr hwn ni wascfa: a saig dy fwrdd di yn llawn brasder.
17Ond ti a gyflawnaist farn yr annuwiol: barn a chyfiawnder ddaliant.
18Pan digofaint rhac gyrru o honaw ef dydi ymmaith yn gyfoeth, ac na’th waredo iawn mawr.
19A brissia efe ar dy olud ti? ni ar aur, nac ar holl gadernid nerth.
20Na fefyria liw nos pa fodd y torrir ymmaith pobloedd oi llê.
21Ymochel, nac edrych ar anwiredd, canys hynny a ddewisaist o flaen cystudd.
22Wele Duw ai nerth a dderchafa: pwy sydd yn dyscu fel ef?
23Pwy a orchymynnodd ei ffordd ef iddo? a phwy a ddywed, gwnaethost anwiredd.
24Cofia am fawrhau o honot ei waith ef: ar yr hwn yr edrych dynion.
25Yr hwn a welodd pob dŷn: ac a ganfu dŷn o bell.
26Wele mwy Duw nac y gwyddom ni: ac ni fedrir chwilio allan nifer ei flynyddoedd ef.
27Canys efe a wna y defnynnau dyfroedd yn fân, a dywalltasant law oi gwmwl ef,
28Pan ddiferodd yr wybrennau i lawr ddefnynnasant hwy ar ddynion lawer.
29Hefyd a ystyria danadau y cwmylau: thwrwf ei babell ef?
30Wele efe a dânodd ei oleuni arno: ac a orchguddiodd waelod y môr.
31Canys â hwynt y barna efe y bobloedd: y rhydd efe fwyd yn helaeth.
32Efe a orchguddia oleuni â chwmylau a dwylaw: ac efe a rydd orchymyn yn erbyn hynny er mwyn cyfryng-wr.
33Efe a ddengis ei garedigrwydd iddo ef, i anifeiliaid hefyd, i ffrwyth
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.