1Ac Ioram mab Ahab a aeth yn frenin ar Israel yn Samaria, yn y ddeu-nawfed flwyddyn i Iehosaphat brenin Iuda: at efe a deyrnasodd ddeuddeng mhlynedd.
2Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng-olwg yr Arglwydd, ond nid fel ei dâd ai fam: canys efe a fwriodd ymmaith ddelw Baal yr hon a wnelse ei dâd ef.
3Etto efe a lŷnodd mewn pechodau Ieroboam mab Nabat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu: ni chiliodd efe oddi wrthynt hwy.
4Yna Mesaa brenin Moab oedd berchen defaid, ac efe a dalodd i frenin Israel ganmîl o ŵyn, a chan-mîl hyrddod gwlânoc.
5A phan fu farw Ahab: yna brenin Moab a wrthryfelodd yn erbyn brenin Israel.
6Am hynny y brenin Ioram a aeth allan y pryd hynny o Samaria: ac a gyfrifodd holl Israel.
7Efe a aeth hefyd, ac a anfonodd at Iehosaphat brenin Iuda, gan ddywedyd: brenin Moab a wrthryfelodd i’m herbyn i, a ddeui di gyd a mi i ryfel yn erbyn Moab? dywedodd yntef, âf i fynu, myfi 1.Bren.22.4.[a fyddaf] fel tithe, fy mhobl i fel dy bobl dithe, fy meirch i fel dy feirch dithe.
8Yna efe a ddywedodd, pa ffordd yr awn i fynu? dywedodd yntef, ffordd anialwch Edom.
9Felly brenin Israel a aeth ymmaith, a brenin Iuda, a 1.Bren.22.48.brenin Edom, ac a amgylchasant y ffordd saith niwrnod: ac nid oedd dwfr i’r fyddin, nac i’r anifeiliaid y rhai yn eu canlyn hwynt.
10Am hynny brenin Israel a ddywedodd, gwae o herwydd i’r Arglwydd alw y tri brenin hyn iw rhoddi hwynt yn llaw Moab.
11Ac Iehosaphat a ddywedodd, onid ymma brophwyd i’r Arglwydd fel yr ymgynghorem ni a’r Arglwydd drwyddo ef? ac vn o weision brenin Israel a attebodd, ac a ddywedodd, ymma Elisêus mab Saphat yr hwn a dywalltodd ddwfr ar ddwylo Elias.
12Yna Iehosaphat a ddywedodd, y mae gair yr Arglwydd gyd ag ef: am hynny brenin Israel, ac Iehosaphat, a brenin Edom a aethant i wared atto ef.
13Ac Elisêus a ddywedodd wrth frenin Israel, beth i mi a thi? dôs at brophwydi dy dâd, ac at brophwydi dy fam: a brenin Israel a ddywedodd wrtho ef, nagê: canys yr Arglwydd a alwodd y tri brenin hyn iw rhoddi hwynt yn llaw Moab.
14Yna Elisêus a ddywedodd, mai byw Arglwydd y lluoedd, yr hwn y sefais ger ei fron, oni bai fy mod i yn perchi wyneb Iehosaphat nid edrychaswn i arnat ti, ac ni’th welswn.
15Ond yn awr dygwch i mi gerddor, a phan ganodd y cerddor, yna y daeth llaw’r Arglwydd arno ef.
16Ac efe a ddywedodd, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, gwna y dyffryn hwn yn llawn ffosydd.
17Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, ni welwch wynt, ac ni welwch law, etto y dyffryn hwn a lenwir o ddyfroedd: fel yr yfoch chwi, a’ch yscrubliaid, a’ch gwartheg.
18A pheth yscafn yw hyn yng-olwg yr Arglwydd: canys efe a ddyru Moab yn eich llaw chwi.
19A chwi a darewch bob dinas gaeroc, a phob dinas ddethoeldic, a phob prenn têg a fwriwch chwi i lawr, yr holl ffynhonnau dyfroedd hefyd a argaewch chwi: a phob rhan-dir ddâ a ddifwynwch chwi a cherric.
20A’r boreu pan offrymmwyd y bwyd offrwm, yna wele ddyfroedd yn dyfod o ffordd Edom: a’r wlâd a lawnwyd o ddyfroedd.
21Pan glybu’r holl Moabiaid fod y brenhinoedd hynny wedi dyfod i fynu i ymladd yn eu herbyn hwynt: yna y galwyd yng-hyd bawb ar a alle wisco arfau, a hwynt a safasant at y terfyn
22A hwynt a gyfodasant yn foreu, a’r haul a gyfodase ar y dyfroedd: a’r Moabiaid a ganfuant ar cyfer y dyfroedd yn gôch fel gwaed
23A hwy a ddywedasant, gwaed hwn, gan ddifetha y difethwyd y brenhinoedd, a hwy a darawsant bawb ei gilydd: am hynny yn awr i’r anrhaith ô Moabiaid.
24Pan ddaethant at werssyll Israel, yna’r Israeliaid a gyfodasant, ac a darawsant y Moabiaid fel y ffoasant hwy oi blaen hwynt: tarawsant hefyd arnynt hwy, a lladdasant y Moabiaid.
25A hwynt a ddestruwiasant y dinasoedd, ac bob rhan-dir ddâ y bwriasant bawb ei garrec, ac ai llanwasant, a phob ffynnon ddwfr a argaeasant hwy, a phob prenn têg a gwympasant hwy ei lawr, yn vnic yn Cir-hareseth y gadawsant ei cherric: etto y rhai oeddynt yn taflu ai hamgylchynâsant ac ai tarawsant hi.
26Pan welodd brenin Moab fod y rhyfelwŷr yn drêch nag ef: yna efe a gymmerth saith gant o wŷr gyd ag ef yn tynnu cleddyf i ruthro at frenin Edom, ond nis gallasant hwy.
27Ond efe a gymmerodd ei fab y cyntafanedic yr hwn oedd i deyrnasu yn ei le ef, ac ai hoffrymmodd ef yn boeth offrwm ar y mur, fel y bu llid mawr yn erbyn Israel: am hynny hwynt a aethant ymmaith oddi wrtho ef, ac a ddychwelasant iw gwlad.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.