1A Bildad y Suhiad a attebodd, ac a ddywedodd,
2Pa y derfydd eich ymadrodd? ystyriwch, wedi hynny ninneu a lefarwn.
3Pa ham y cyfrifed nyni fel anifeiliaid? yr ydym aflan yn eich golwg chwi?
4O yr hwn sydd yn rhwygo ei enaid yn ei ddigllondeb, ai er dy fwyn di y gadewir y ddaiar? neu y symmudir craig allan oi llê?
5Goleuni’r annuwolion a ddiffoddir yn hytrach: a gwreichionen ei dân ef ni lewyrcha.
6Goleuni a dywylla yn ei luesty ef: ai lusern a ddiffydd gyd ag ef.
7Camrau ei gryfdwr ef a gyfyngir: ai gyngor ei hun ai bwrw ef i lawr.
8Canys efe a ddanfonir i’r rhwyd erbyn ei draed: ac ar faglau y rhodia efe.
9Magl a ymeifl yn ei sodl gwilliad fydd trêch nag ef.
10Hoenyn a guddied iddo ef yn y ddaiar: ai ddalfa ar y llwybr.
11Braw fydd yn ei frawychu ef o amgylch: ac yn peri iddo ef gymmeryd ei draed.
12Ei gryfdwr ef a fydd newynog: a thrueni parod wrth ei ystlys.
13Efe a yssa ei gryfdwr ei hun: angeu a fwrtu ei gryfdwr ef.
14Ei hyder ef a dynnir allan oi luestŷ: a ai harwain ef at frenin dychrynniadau.
15[Arall] a drig yn ei luest ef, nid yr eiddo ef brwmstan a wascerir ar ei drigfa ef.
16Ei wraidd ef a sychant oddi tanodd, ai frig ef a dorrir oddi arnodd.
17Ei goffadwriaeth ef a gollir o’r ddaiar, ac ni enwiddo ef ar wyneb yr heol.
18Efe a wthîr allan oleuni i dywyllwch: efe a yrrir allan o’r byd.
19Ni iddo ef fab, nac ŵyr ym mysc ei bobl: ac ni bydd wedi adel yn fyw yn ei drig-fannau ef.
20Y rhai olaf a ryfeddasant o herwydd ei ddydd ef: a’r rhai blaenaf a gawsant fraw.
21Yn wir dymma drigleoedd yr anwir: ac dymma lê nid edwyn Dduw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
