1Yn y seithfed flwyddyn ar hugain i Ieroboam brenin Israel, y teyrnasodd 2.Cron.26.1.Azariah mab Amasia brenin Iuda.
2Mab vn mlwydd ar bymthec ydoedd efe pan ddechreuodd efe deyrnasu, a deuddengmhlynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Ierusalem: ac enw ei fam Iecholiahu o Ierusalem.
3Ac efe a wnaeth yr hyn oedd inion yng-olwg yr Arglwydd: yn ôl yr hyn oll a’r a wnelse Amasia ei dad ef.
4Er hynny ni thynnwyd ymmaith yr vchelfeudd: y bobl oeddynt etto yn aberthu, ac yn arogl-darthu mewn vchelfeudd.
5A’r 2.Cron.26.21.Arglwydd a darawodd y brenin fel y bu efe yn wahan-glwyfus hyd ddydd ei farwolaeth, am hynny efe a drigodd mewn tŷ ar nailltu: ac Iotham mab y brenin ar y tŷ yn barnu pobl y wlâd.
6A’r rhan arall o hanes Azariah, a’r hyn oll a’r a wnaeth efe: onid ydynt hwy yn scrifennedic yn llyfr Cronicl brenhinoedd Iuda?
7Ac Azariah a hunodd gyd ai dadau, a chladdasant ef gyd ai henafiaid yn ninas Dafydd: ac Iotham ei fab ef a deyrnasodd yn ei lê ef.
8Yn y drydedd flwyddyn ar bymthec ar hugain i Azariah frenin Iuda: y teyrnasodd Zacharia mab Ieroboam ar Israel yn Samaria chwe mîs.
9Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yngolwg yr Arglwydd, megis y gwnaethe ei dadau ef: ni thrôdd efe oddi wrth bechodau Ieroboam mab Nabat y rhai y gwnaethe efe i Israel bechu.
10A Salum mab Iabes a frad-fwriadodd yn ei erbyn ef, ac ai tarawodd ef ger bron y bobl, ac ai lladdood ef: ac a deyrnasodd yn ei lê ef.
11A’r rhan arall o hanes Zacharia: wele hwynt yn scrifennedic yn llyfr Cronicl brenhinoedd Israel.
12Dymma 2.Bren.10.30.air yr Arglwydd yr hwn a lefarase efe wrth Iehu gan ddywedyd, meibion y bedwaredd genhedlaeth i ti a eisteddant ar orseddfa Israel: ac felly y bu.
13Salum mab Iabes a deyrnasodd yn y bedwaredd flwyddyn ar bymthec ar hugain i Uzziah brenin Iuna: a mis cyfan y teyrnasodd efe yn Samarid.
14Canys Menahem mab Gadi a aeth i fynu o Thirsa, ac a ddaethi Samaria, at a darawodd Salum fab Iabes yn Samaria: ac ai lladdodd ef, teyrnasodd hefyd yn ei lê ef.
15A’r rhan arall o hanes Salum, ai fradwiaeth ef’r hon y brad-fwriadodd efe: wele hwynt yn scrifennnedic yn llyfr Cronicl brenhinoedd Israel.
16Yna Menahem a darawodd Thipsah, a’r rhai oll ynddi, ai therfynau o Thirsa allan, o herwydd nad agorwyd am hynny y tarawodd efe hi, ai holl wragedd beichiogion a rmygodd efe.
17O’r bedwaredd flwyddyn ar bymthec ar hugain i Azariah brenin Iuda, y teyrnasodd Menahem mab Gadi ar Israel ddeng-mhlynedd yn Samaria.
18Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yngolwg yr Arglwydd: ni thrôdd oddi wrth bechodau Ieroboam mab Nabat y rhai y gwnaethe efe i Israel bechu ei holl ddyddiau.
19A Phul brenin Assyria a ddaeth yn erbyn y wlâd, a Menahem a roddodd i Phul fil o dalentau arian: fel y bydde ei law gyd ag ef, i siccrhau y frenhiniaeth yn ei law ef.
20A Menahem a drethodd arian ar Israel, ar yr holl rai cedyrn o allu, drwy roddi o bob vn i frenin Assyria ddec sicl a deugain o arian: felly brenin Assyria a ddychwelodd, ac nid arhosodd yno yn y wlâd.
21A’r rhan arall a hanes Menahem, a’r hyn oll a’r a wnaeth efe: onid ydynt hwy yn scrifennedic yn llyfr Cronicl brenhinnoedd Israel?
22A Menahem a hunodd gyd ai dadau: a Phecahia ei fab ef a deyrnasodd yn ei lê ef.
23O’r ddecfed flwyddyn a deugain i Azaria brenin Iuda, y teyrnasodd Pecahia mab Menahent ar Israel yn Samaria ddwy flynedd.
24Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yngolwg yr Arglwydd: ni thrôdd efe oddi wrth bechodau Ieroboam mab Nabat y rhai y gwnaeth efe i Israel bechu.
25A Pheca mab Remaliabu ei dywysog ef a frad-fwriadodd yn ei erbyn ef, ac ai tarawodd ef yn Samaria yn llŷs y brenin gyd ag Argob, ag Arieth a deng-wr a deugain o feibion y Gileadiaid: felly efe ai lladodd ef, ac a deyrnasodd yn ei lê ef.
26A’r rhan arall o hanes Pecahia, a’r hyn oll a wnaeth efe: wele hwynt yn scrifennedic yn llyfr Cronicl brenhinoedd Israel.
27O’r ddeuddecfed flwyddyn a deugain i Azaria brenin Iuda, y teyrnasodd Peca mab Remaliahu ar Israel yn Samaria vgain mhlynedd.
28Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yngolwg yr Arglwydd: ni throdd efe oddi wrth bechodau Ieroboam mab Nabar y rhai y gwnaeth efe i Israel bechu.
29Yn nyddiau Peca brenin Israel 1.Cron.5.26.y daeth Tiglath peleser brenin Assyria, ac a ennillodd Iion, ac Abel, Bethmaacha, ac Ianoab, Cedes hefyd, a Dazor, Gilead hefyd, a Galilee holl wlâd Nephthali: ac a gaeth-gludodd eu i Assyria.
30A Dosca mab Elah, a frad-fwriadodd fradwriaeth yn erbyn Peca mab Remaliahu, ac ai tarawodd ef, ac ai lladdodd ef, ac efe a deyrnasodd yn ei lê ef: yn yr vgainfed flwyddyn i Iotham fab Uzzia.
31A’r rhan arall o hanes Peca, a’r hyn oll a wnaeth efe: wele hwynt yn scrifennedic yn llyfr Cronicl brenhinoedd Israel.
32Yn yr ail flwyddyn i Peca fab Remaliahu brenin Israel: y dechreuodd Iotham mab Uzziah brenin Iuda deyrnasu.
33Mab pum mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd efe deyrnasu, 2.Cron.27.1.ac vn mlynedd ar bymthec y teyrnasodd efe yn Ierusalem: ac enw ei fam ef Ierusa merch Zadoc.
34Ac efe a wnaeth yr hyn oedd inion yngolwg yr Arglwydd: yn ôl yr hyn oll a’r a wnelse Uzziah ei dad ef.
35Er hynny ni thynnwyd ymmaith yr vchelfeudd, y bobl oeddynt etto yn aberthu, ac yn arogl-darthu mewn vchelfeudd: efe a adailadodd y porth vchaf i dŷ’r Arglwydd.
36A’r rhan arall o hanes Iotham, a’r hyn oll a wnaeth efe: onid ydynt hwy yn scrifennedic yn llyfr Cronicl brenhinoedd Iuda?
37Yn y dyddiau hynny y dechreuodd yr Arglwydd anfon yn erbyn Iuda Rezin brenin Syria: a Pheca mab Remaliahu.
38Ac Iotham a hunodd gyd ai dadau, ac a gladdwyd gyd ai henafiaid yn ninas Dafydd ei dad: ac Abaz ei fab ef a deyrnasodd yn ei lê ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.