1Ac Iacob a gymmerth ei draed, ac a aeth i wlâd meibion y dwyrein.
2Ac efe a edrychodd ac wele bydew yn y maes, ac wele dair diadell o ddefaid yn gorwedd wrtho: o herwydd o’r pydew hwnnw y dyfrhaent y diadelloedd, a charrec fawr ar eneu y pydew.
3Ac yno y cesclyd yr holl ddiadelloedd, a hwynt a dreiglent y garrec oddi ar eneu y pydew, ac a ddwfrhaent y praidd: yna y rhoddent y garrec trachefn ar eneu y pydew yn ei lle.
4Yna y dywedodd Iacob wrthynt, fy mrodyr o ba le’r chwi? a hwynt a ddywedasant yr ydym ni o Haran.
5Ac efe a ddywedodd wrthynt, a adwaenoch chwi Laban fab Nachor? a hwynt a ddywedasant, adwaenom.
6Yntef a ddywedodd wrthynt hwy a llwyddiant iddo ef? a hwynt a ddywedasant lwyddiant. Ac wele Rahel ei ferch ef yn dyfod gyd a’r praidd.
7Yna y dywedodd efe wele etto y dydd yn gynnar, nid bryd casclu yr anifeiliaid, dyfrhewch y praidd, ac ewch, bugeiliwch.
8A hwynt a ddywedasant ni allwn, hyd oni chascler yr holl ddiadelloedd, a threiglo o honynt y garrec oddi ar wyneb y pydew, yna y dyfrhaŵn y praidd.
9Tra yr ydoedd efe etto yn llefaru wrthynt, y daeth Rahel hefyd gyd a’r praidd yr hwn eiddo ei thâd hi, oblegit hi oedd yn bugeilio.
10A phan welodd Iacob Rahel ferch Laban brawd ei fam, a phraidd Laban brawd ei fam yna y nessaodd Iacob, ac a dreiglodd y garrec oddi ar eneu y pydew, ac a ddwfrhaodd braidd Laban brawd ei fam.
11Yna y cusanodd Iacob Rahel, ac a dderchafodd ei lef, ac a wylodd,
12A mynegodd Iacob i Rahel, mai carwr ei thad oedd efe: ac mai mab Rebecca oedd efe: hithe a redodd, ac a fynegodd iw thâd.
13A phan glybu Laban hanes Iacob mab ei chwaer, yna efe a redodd iw gyfarfod ef, ac ai cofleidiodd ef, ac ai cussanodd, ac ai dug ef iw dŷ: yna y mynegodd efe i Laban yr holl eiriau hyn.
14A dywedodd Laban wrtho ef, yn ddiau fy asgwrn, a’m cnawd ydwyt ti, ac efe a drigodd gyd ag ef fîs llawn.
15Yna y dywedodd Laban wrth Iacob, ai o herwydd mai fyng-harwr wyt ti i’m gwasanaethi yn rhad? mynega di i mi beth dy gyflog?
16Ac i Laban dwy ferched, a henw yr hynaf Lea, ac enw yr ieuangaf Rahel.
17A llygaid Lea weiniaid ond Rahel oedd dêg phrŷd, a glan-deg yr olwg.
18Ac Iacob a hoffodd Rahel ac a ddywedodd, mi a’th wasanaethaf di saith mlynedd am Rahel dy ferch ieuangaf.
19Yna y dywedodd Laban, gwell yw ei rhoddi hi i ti, nai rhoddi hi i ŵr arall: aros gyd a mi.
20Felly Iacob a wasanaethodd am Rahel saith mlynedd, ac yr oeddynt yn ei olwg ef fel ychydic ddyddiau: am fod yn hoff ganddo efe y hi.
21Yna y dywedodd Iacob wrth Laban moes fyng-wraig, (canys cyflawnwyd fy nyddiau) fel yr elwyf atti hi.
22A Laban a gasclodd holl ddynion y fann honno, ac a wnaeth wledd.
23Ond bu yn yr hwyr iddo gymmeryd Lea ei ferch, ai dwyn hi atto ef, ac yntef a aeth atti hi.
24A Laban a rodd iddi Zilphah ei forwyn, yn forwyn i Lea ei ferch.
25A bu, y boreu, wele mai Lea hi, yna y dywedodd efe wrth Laban, pa ham y gwnaethost hyn i mi? onid am Rahel i’th wasanaethais? a pha ham i’m twyllaist?
26A dywedodd Laban ni wneir felly yn y lle hwn: gan roddi yr ieuangaf o flaen yr hynaf.
27Cyflawna di wythnos honn, yna y rhoddwn i ti honn hefyd, am dy wasanaeth yr hwna a wasanaethi gyd a mi etto saith mlynedd eraill.
28Ac Iacob a wnaeth felly, ac a gyflawnodd yr wyth nos honno, yna efe a roddodd Rahel ei ferch yn wraig iddo.
29Laban hefyd a roddodd i Rahel ei ferch, Bilha ei forwyn, yn forwyn iddi hi.
30Ac efe a aeth hefyd at Rahel, ac a hoffodd Rahel yn fwy na Lea, ac a wasanaethodd gyd ag ef etto saith mlynedd eraill.
31Pan welodd yr Arglwydd, mai câs oedd Lea, yna efe a agorodd ei chroth hi, a Rahel amhlantadwy.
32A Lea a feichiogodd, ac a escorodd ar fâb, ac a alwodd ei enw ef Ruben, o herwydd hi a ddywedodd, diau edrych o’r Arglwydd ar fyng-hystudd, canys yn awr fyng-wr a’m hoffa fi.
33A hi a feichiogodd eilwaith, ac a escorodd ar fâb, ac a ddywedodd: am glywed o’r Arglwydd mai câs fi, am hynny y rhoddodd efe i mi hwn hefyd: a hi a alwodd ei enw ef Simeon.
34A hi a feichiogodd trachefn, ac a escorodd ar fâb, ac a ddywedodd: fyng-wr weithian a lŷn yn awr wrthifi, canys plentais iddo drî mâb. Am hynny galwyd ei enw ef Lefi.
35A hi a feichiogodd trachefn, ac a escorodd ar fâb, ac a ddywedodd: weithian y moliannaf yr Arglwydd: am hynny y galwodd ei Marh.1.2.enw ef Iuda, ac hi a beidiodd a phlanta.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.