Psalmau 92 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. xcij.Psalm neu gân ar y dydd Sabboth.

1Da yw moliannu’r Arglwydd: a chanu i’th enw di y Goruchaf.

2A mynegu y boreu am dy drugaredd, a’th wirionedd y nosweithiau.

3Ar ddec-tant, ac ar nabl, ar delyn yn fyfyrriol.

4Canys llawenychaist fi ô Arglwydd a’th weithred: yng-waith dy ddwylo gorfoleddaf.

5Mor fawredic ô Arglwydd, yw dy weithredoedd, dwfn iawn yw dy feddyliau.

6Gŵr annoeth ni ŵyr, a’r ynfyd ni ddeall hyn.

7Pan flodeuo y rhai annuwiol fel llysieun, y blagura holl weithredwŷr anwiredd iw dinistrio byth bythoedd.

8Tithe Arglwydd wyt dderchafedic yn dragywydd.

9Canys wele dy elynnion ô Arglwydd, wele dy elynnion a ddifethir: gwascerir holl weithred-wŷr anwiredd.

10A’m corn i a dderchefi fel vnicorn, ag olew îr i’m taenellir.

11Fy llygad hefyd a wêl ar fyng-wrthwyneb-wŷr: fyng-hlustiau a glywant am y rhai drygionus a gyfodant i’m herbyn.

12Y cyfiawn a flodeua fel palm-wŷdden, a gynnydda fel cedr-wŷdden yn Libanus.

13Y rhai a blannwyd yn nhŷ’r Arglwydd a flodeuant yng-hynteddoedd ein Duw.

14Ffrwythant etto yn henaint, tyrfion, ac iraidd fyddant.

15I fynegu mai iniawn yw’r Arglwydd fyng-hraig: ac nad anwiredd ynddo.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help