1Tithe fab dŷn cymmer it gyllell lem, yn ellyn eillio y cymmeri hi it, ac eillia dy benn a’th farf: yna y cymmeri it gloriannau pwys, ac y rhenni hwynt.
2Traian o losci mewn tân, yng-hanol y ddinas, pan gyflawnir dyddiau y gwarche: traian a gymmeri hefyd, ac ai tarewi a’r gyllell oi hamgylch, a thraian a deni gyd a’r gwynt, a thynnaf gleddyf ar eu hôl hwynt.
3Cymmer hefyd oddi yno ychydig dann rîf, a chylymma hwynt yn dy arffed.
4A chymmer eilwaith o honynt hwy, a thafl hwynt i ganol y tân, llosc hwynt yn tân, o hynny y daw allan dân at holl dŷ Israel.
5Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Ierusalem hon, gosodais hi ym mysc y cenhedloedd, a’r tiroedd oi hamgylch.
6Canys hi a newidiodd fy marnedigaethau i ddrygioni yn fwy na’r cenhedloedd, a’m deddfau yn fwy na’r gwledydd, y rhai ydynt oi hamgylch: canys dirmygasant fy marnedigaethau, ac ni rodiasant yn fy neddfau.
7Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, am eich cynnydd yn fwy na’r cenhedloedd y rhai ydynt o’ch amgylch heb rodio o honoch yn fy neddfau, na gwneuthur fy marnedigaethau, (îe ni wnaethoch yn ôl barnedigaethau y cenhedloedd y rhai ydynt o’ch amgylch)
8Am hynny fel hynn y dywed yr Arglwydd Dduw, wele fi, i’th erbyn hefyd fi, a gwnaf yn dy blith di farnedigaethau yng-olwg y cenhedloedd.
9A gwnaf ynot yr hyn ni’s gwneuthum, a’r hyn ni’s gwnaf ei fâth mwy: am dy holl ffieidd-dra.
10Am hynny y tadau a Lefit.26.29. Deut.28.35. 2.Bren.6.29. Galar.4.10. Bar 2.4.fwyttânt y plant yn dy fysc di, a’r plant a fwyttu eu tadau: felly y gwnaf ynot farnedigaethau, ac mi a danaf dy holl weddill gyd â phob gwynt.
11Am hynny byw fi medd yr Arglwydd Dduw, onid (am halogi o honot fyng-hyssegr, a’th holl ffiaidd-dra, ac a’th holl frynti)
12 Felly hefyd y prinhaf innef, fel nad arbedo fy llygad, ac na thosturiwyf innef ychwaith.
13Dy draian fyddant feirw o haint, ac a ddarfyddant o newyn yn dy blith, a thraian a syrthiant ar y cleddyf o’th amgylch, a thraian a danaf gyd â phob gwynt, a thynnaf gleddyf ar eu hôl hwynt.
14Yna y derfydd fy nîg, ac y llonyddaf fy llidiawgrwydd yn eu herbyn hwynt, ac Esa.1.24.ymgyssuraf, yna y cânt wybod mai myfi’r Arglwydd a leferais yn fyng-wyn pan ddarfyddo fy llid wrthynt.
15Canys rhoddaf di’n anrhaith, ac yn warth ym mysc y cenhedloedd y rhai ydynt o’th amgylch, yng-olwg pob trammwyudd.
16Yna y bydd y gwradwydd a’r gwarthrudd, yn ddysc, ac yn rhyfeddod i’r cenhedloedd y rhai ydynt o’th amgylch: pan wnelwyf ynot farnedigaethau mewn dîg, a llidiawgrwydd, a cherydd llidioc: myfi’r Arglwydd ai lleferais.
17Pan Ezec.14.13.anfonwyf arnynt ddrwg saethau yr newyn, y rhai fyddant yn ddifethiad, y rhai a ddanfonaf i’th difetha: casclaf hefyd newyn arnoch, a thorraf i chwi ffonn y bara.
18Anfonaf hefyd arnoch newyn, a bwystfil drwg, ac efe a’ch diblanta chwi: haint hefyd, a gwaed a drammwya yn eich plith: a dygaf gleddyf arnoch, myfi yr Arglwydd a leferais
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.