1A Phan ddistawodd twrwf y gwŷr y rhai oedynt o amgylch yr eisteddfod, yna Holophernes tywysog llu yr Assyriaid a ddywedodd wrth Achior ger bron yr holl bobl ddieithr, a cher bron holl feibion Moab, a’r rhai a gyflogasid o Ephraim,
2O herwydd i ti brophwydo yn ein mysc ni heddyw a dywedyd fod pobl Ierusalem fel nad ellir eu gorescyn, o blegit eu Duw hwynt ai hamddeffyn hwy, a phwy sydd Dduw onid Nabuchodonosor:
3Efe a enfyn ei nerth, ac ai difetha hwynt oddi ar wyneb y ddaiar, ac nid amddeffyn eu Duw hwynt: eithr nyni ei weision ef ai destruwiwn hwynt fel vn gŵr: canys ni allant hwy gynnal nerth ein meirch ni.
4Nyni ai sathrwn hwy â hwynt, ai mynyddoedd hwynt a feddwir ai gwaed hwy, ai meusydd o lenwir ai celaneddau hwy, ai camrau ni allant sefyll o’n blaen ni: eithr llwyr ddifethir hwynt.
5Y brenin Nabuchodonosor, arglwydd yr holl ddaiar a ddywedodd, îe efe a ddywedodd, ni bydd fyng-eiriau i yn ofer.
6A thithe Achior cyflog-was Ammon yr hwn a leferaist y geiriau hyn yn nydd dy anwiredd, ni cheî di weled mwyach fy wyneb i o heddyw allan hyd oni ddialwyf ar y genedl honno, yr hon a ddaeth o’r Aipht.
7Yna haiarn fy llu i, a lliaws fyng-weision a aiff trwy dy ystlysau di, a thi a syrthi ym mhlith eu lladdedigion hwynt, pan ddychwelwyf.
8A’m gweision i a’th ddygant ti i’r mynyddoedd, a hwynt a’th osodant di yn vn o’r dinasoedd vchel: ac ni ddifethir mo honot ti nes dy ddifetha gyd â hwynt.
9Ac od ydwyt ti yn gobeithio yn dy galon na ddelir hwynt, na syrthied dy wyneb-pryd: myfi ai lleferais, ac ni bydd vn o’m geiriau yn ofer.
10Yna Holophernes a orchymynnodd iw weision (y rhai oeddynt yn sefyll yn ei babell ef) ddala Achior, ai ddwyn ef i Bethulia, ai roddi ef yn nwylo meibion Israel.
11Felly ei weision ef ai dugasant yntef allan o’r gwerssyll i’r gwastadedd, ac o ganol y gwastadedd i’r mynyddoedd, ac a ddaethant at y ffynhonnau y rhai ydynt tann Bethulia.
12A phan welodd gwŷr y ddinas hwynt oddi ar benn y mynydd, yna pob gŵr a’r a oedd yn ergydio mewn tafl-ffon ai lluddiodd hwynt rhag dyfod i fynu, ac a daflasāt gerric iw herbyn hwynt.
13Yna hwynt a aethant tann y mynydd, ac a rwymâsant Achior, ac ai gadawsant ef yn ei orwedd yng-odr y mynydd, ac a aethant at eu harglwydd.
14Yna meibion Israel a ddaethant i wared oi dinas, ac a safâsant yn ei gylch ef, ac ai gollyngâsant ef yn rhydd, ac ai dugâsant ef i Bethulia.
15A hwynt ai gosodasant ef rhwng tywysogion eu dinas hwynt, y rhai oeddynt yn y dyddiau hynny, sef Ozias mâb Micha o lwyth Simeon, a Chabris mâb Gothoniel, a Charmis mâb Melchiel.
16A hwynt a alwâsant yng-hyd holl henuriaid y ddinas, ai holl wŷr ieuaingc hwy, ai gwragedd a redâsant yng-hyd i’r gymanfa: a hwynt a osodasant Achior yng-hanol eu pobl, yna Ozias a ofynnodd iddo ef yr hyn a ddigwyddâse.
17Ac efe a attebodd ac a fynegodd iddynt hwy eiriau cyngor Holophernes, a r holl eiriau a’r a lefarase efe ym mysc tywysogion yr Assyriaid, a’r pethau a ddywedase Holophernes yn rhyfygus yn erbyn tŷ Israel.
18Yna y bobl a syrthiasant i lawr, ac a addolâsant Dduw, ac a waeddasant ar Dduw, gan ddywedyd,
19O Arglwydd Dduw y nefoedd, edrych di ar eu balchder hwynt, a thrugarhâ wrth ostyngeiddrwydd ein pobl ni, a chenfydd di y dydd hwn ŵyneb y rhai a sancteiddiwyd i ti.
20Yna hwynt hwy a gyssurâsant Achior, ac ai canmolâsant ef yn ddirfawr.
21Ac Ozias ai cymmerth ef o blîth y gynnulleidfa iw dŷ, ac efe a wnaeth wledd i’r henuriaid: a hwynt a alwâsant Dduw Israel yn gynhorthwy iddynt ar hŷd y nôs honno.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.