1Yna y dywedodd Saul wrth Ionathan ei fab, ac wrth ei holl weision am ladd Dafydd: ond Ionathan mab Saul oedd hôff iawn ganddo Ddafydd.
2Am hynny y mynegodd Ionathan i Ddafydd gan ddywedyd: Saul fy nhâd sy yn ceisio dy ladd di: ac yn awr ymgadw attolwg hyd y boreu, ac aros mewn dirgel, ac ymguddia.
3A mi a âf allan, ac a safaf ger llaw fy nhâd yn y maes, yr hwn di ynddo, mi hefyd a ymddiddanaf a’m tâd o’th blegit ti: ac mi a edrychaf beth ac a fynegaf i ti.
4Ac Ionathan a ddywedodd yn dda am Ddafydd wrth Saul ei dâd: ac a ddywedodd wrtho ef, na pheched y brenin yn erbyn ei wâs, yn erbyn Dafydd, o herwydd na phechodd efe i’th erbyn di, ac o herwydd ei weithredoedd ef yn dda iawn i ti.
5Canys efe a Barn.12.3. 1.Sam.28.21. Psal.119.109.osodes ei enioes yn ei law, ac a darawodd y Philistiad, a’r Arglwydd a wnaeth iechydwriaeth mawr i holl Israel, ti a welaist ac a lawenychaist: pa ham gan hynny y pechi yn erbyn gwaed diniwed, gan ladd Dafydd yn ddiachos?
6Yna Saul a wrandawodd ar lais Ionathan, a Saul a dyngodd byw yw ’r Arglwydd os lleddir ef.
7Felly Ionathan a alwodd ar Ddafydd, ac Ionathan a fynegodd iddo ef yr holl eiriau hyn: ac Ionathan a ddug Ddafydd at Saul, ac efe a fu ger ei fron ef megis cynt.
8Yna y bu chwaneg o ryfel: a Dafydd a aeth allan ac a ymladdodd yn erbyn y Philistiaid, ac ai tarawodd hwynt a phla mawr, ac hwy a ffoasant rhagddo ef.
9A drwg yspryd yr Arglwydd oedd ar Saul pan oedd efe yn eistedd yn ei dŷ, ai waiwffon yn ei law: a Pen.16.23.Dafydd yn canu ai law.
10A chesiodd Saul daro ai waiwffon drwy Ddafydd, a thrwy yr pared, ond efe a giliodd o ŵydd Saul, ac yntef a darawodd y waiw-ffon yn y pared, a Dafydd a ffoawdd, ac a ddiangodd y noswaith honno.
11Saul hefyd a anfonodd gennadau i dŷ Ddafydd iw wilied ef, ac iw ladd ef y boreu: a Michol ei wraig ef a fynegodd i Ddafydd gan ddywedyd, onid achubi dy enioes heno, y foru i’th leddir.
12Felly Michol a ollyngodd Ddafydd i lawr drwy ’r ffenestr, ac efe a aeth, ac a ffôdd, ac a ddiangodd.
13Yna y cymmerodd Michol ryw ddelw, ac ai gosododd yn y gwely, a chlustog geifr a osododd hi yn obennydd iddi: ac ai goblygodd a dillad.
14Pan anfonodd Saul gennadau i ddala Dafydd: yna hi a ddywedodd, efe yn glâf.
15Anfonodd Saul eilwaith gennadau i edrych Dafydd, gan ddywedyd: dygwch ef i fynu attafi yn ei wely, fel y lladdwyf ef.
16Pan ddaeth y cennadau, yna wele y ddelw ar y gwely: a chlustog geifr yn obennydd iddi.
17Yna y dywedodd Saul wrth Michol, pa ham y twyllaist fi fel hyn, ac y gollyngaist fyng-elyn i ddiangc? a Michol a ddywedodd wrth Saul, efe a ddywedodd wrthif, gollwng fi, onid ê mi a’th laddaf di.
18Felly Dafydd a ffoawdd, ac a ddiangodd, ac a ddaeth at Samuel i Ramah, ac a fynegodd iddo yr hyn oll a wnaethe Saul iw erbyn ef, ac efe a aeth gyd a Samuel, ac a drigasant yn Naioth.
19A mynegwyd i Saul gan ddywedyd: wele Dafydd yn Naioth o fewn Ramah.
20Yna Saul a anfonodd gennadau i ddala Dafydd, pan welsant gynnulleidfa y prophwydi yn prophwydo, a Samuel yn sefyll, wedi ei osod arnynt hwy: yna yr oedd ar gennadau Saul yspryd Duw, fel y prophwydasant hwythau hefyd.
21Pan fynegasant i Saul, yna efe a anfonodd gennadau eraill, a hwythau hefyd a brophwydasant: ac eilwaith y danfonodd Saul gennadau y drydedd waith, a phrophwydasant hwythau hefyd.
22Yna yntef hefyd a aeth i Ramah, ac a ddaeth hyd y ffynnon fawr yr hon yn Sechu, ac efe a ofynnodd, ac a ddywedodd, pa le Samuel a Dafydd? ac a ddywedodd wele yn Naioth o fewn Ramah.
23Ac efe a aeth yno i Naioth yn Ramah: ac arno yntef hefyd y daeth yr vn yspryd Duw, a chan fyned yr aeth, ac y prophwydodd, nes ei ddyfod i Naioth yn Ramah.
24Ac efe a ddioscodd ei ddillad, ac a brophwydodd hefyd ger bron Samuel, ac a syrthiodd i lawr yn noeth yr holl ddiwrnod hwnnw, a’r holl nôs: am hynny y dywedent, Pen.10.11.a ydyw Saul hefyd ym mysc y prophwydi?
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.