Ezeciel 39 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXXIX.Difethiad God, a Magog.

1Prophwyda di hefyd fab dŷn yn erbyn Gog, a dywet: fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, wele fi attat Gog pen-tywysog Mesech, a Thubal.

2Ac mi a’th ddychwelaf, ac a’th dreiaf hyd y chweched ran, ac a’th ddygaf i fynu o ystlysau y gogledd, ac a’th ddygaf ar fynyddoedd Israel.

3Paraf hefyd daro dy fŵa o’th law asswy, a gwnaf i’th saethau syrthio o’th law ddehau.

4Ar fynyddoedd Israel y syrthi ti a’th holl luoedd, a’r bobloedd y rhai gyd â thi, i’r ehediaid phob rhyw aderyn, ac fwyst-filod y maes i’th roddaf yn ymborth.

5Ar wyneb y maes y syrthi, canys myfi ai dywedais medd yr Arglwydd Dduw.

6Anfonaf hefyd dân ar Magog, ac ar y rhai a bresswyliant yr ynysoedd yn ddifraw, fel y gwypont mai myfi yr Arglwydd.

7A gwnaf adnabod fy enw sanctaidd yng-hanol fy mhobl Israel, ac ni adawaf halogi fy enw sancteiddiol mwy: fel y gŵypo’r cenhedloedd mai myfi yr Arglwydd, Sanct yr Israel.

8Wele efe a ddaeth, ac a fu, medd yr Arglwydd Dduw, dymma’r diwrnod am yr hwn y dywedais.

9Presswyl-wŷr dinasoedd Israel a ânt allan, cynneuant hefyd, a lloscant yr arfau, a’r tarian a’r astalch, a’r bŵa, a’r saethau, y llaw-ffon hefyd a’r waiw-ffon: îe lloscant hwynt mewn tân saith mlynedd.

10Yna ni ddygant goed o’r maes, ac ni thorrant canys a’r arfau y cynneuant dân, yr yspeiliant eu hyspeilwŷr, ac yr sclyfaethant eu sclyfaeth-wŷr medd yr Arglwydd Dduw.

11Bydd hefyd yn y dydd hwnnw i’m roddi yno i Gog le bedd yn Israel, sef y dyffryn trwy yr hwn y trammwyant tua môr y dwyrain: efe a gae y trammwy-ŵr, canys yno y claddant Gog ai holl dyrfa, a galwant dyffryn tyrfa Gog.

12A thŷ Israel fyddant yn eu claddu hwynt saith mîs, er mwyn glanhaû y tîr.

13Ie holl bobl y tîr ai claddant, a fydd enwoc iddynt, y dydd yr ymogoneddwyf medd yr Arglwydd Dduw.

14Dewisant hefyd bôb amser wŷr y rhai a gynniwerant trwy’r wlâd gyd a’r rhai a drammwyant i gladdu y rhai a adewir ar wyneb y ddaiar, iw glanhaû hi: ym mhen saith mîs, y chwiliant.

15A’r trammwy-wŷr a gynniwerant trwy’r tîr, a phan welo ascwrn dŷn, efe a gyfyd nôd wrtho ef: hyd oni chladdo y claddwŷr ef yn nyffryn tyrfa Gog.

16Henw y ddinas hefyd Hamonah: felly y glanhânt y wlâd.

17Tithe fab dŷn fel hyn y dywedodd yr Arglwydd Dduw: dywet wrth bob rhyw aderyn, ac wrth holl fwyst-filod y maes, ymgesclwch, a deuwch, ymgynhullwch oddi amgylch at fy aberth yr hwn yr ydwyfi yn ei aberthu i chwi, yn aberth mawr ar fynyddoedd Israel: yna y bwyttewch gîg, ac yr yfwch waed.

18Cîg y cedyrn a fwyttewch, a gwaed tywysogion y wlâd a yfwch hyrddod, ŵyn, a bŷchod, bystych, phascedigion Basan hwythau oll.

19Bwyttewch hefyd frasder hyd ddigon, ac yfwch waed hyd oni feddwoch arno, o’m haberth yr hwn a aberthais i chwi.

20Felly i’ch diwellir ar fy mwrdd maufi, o farch a cherbyd, o gadarn, a phob rhyfel-ŵr, medd yr Arglwydd Dduw.

21Felly y gosodaf allan fyng-ogoniant ym mysc y cenhedloedd, a’r holl genhedloedd a gânt weled fy marnedigaeth yr hon a wneuthum, a’m llaw’r hon a osodais arnynt.

22A thŷ Israel a gânt ŵybod mai myfi yr Arglwydd eu Duw hwynt, o’r dydd hwnnw allan,

23Y cenhedloedd hefyd a gânt ŵybod mai am eu hanwiredd eu hun y caeth-gludwyd tŷ Israel, o herwydd gwneuthur o honynt gamwedd i’m herbyn, am hynny y cuddiais fy wyneb oddi wrthynt, ac y rhoddais hwynt yn llaw eu gelynnion: a hwynt oll a syrthiasant trwy’r cleddyf.

24Yn ôl eu haflendid eu hun, ac yn ôl eu hanwireddau y gwneuthum â hwynt, ac y cuddiais fy wyneb oddi wrthynt.

25Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, yr awr hon y dychwelaf gaethiwed Iacob, tosturiaf hefyd wrth holl dŷ Israel, a gwynfydaf dros fy enw sanctaidd:

26Wedi dwyn o honynt eu gwradwydd, ai holl gamwedd yr hyn a wnaethant i’m herbyn: pan drigent yn eu tîr eu hun yn ddifraw, ac heb ddychrynnudd:

27Pan ddychwelwyf hwynt oddi wrth bobloedd, ai casclu hwynt o wledydd eu gelynniō, Ezec.36.23.yna yr ymsancteiddiaf ynddynt yng-olwg cenhedloedd lawer:

28A chânt ŵybod mai myfi yr Arglwydd eu Duw hwynt yn eu caeth-gludo hwynt at y cenhedloedd, ac ai casclaf hwynt iw tîr eu hun, ac ni adawaf mwy o honynt yno.

29Ni chuddiaf ychwaith fy wyneb mwy oddi wrthynt, o herwydd tywelltais fy Yspryd ar dŷ Israel medd yr Arglwydd Dduw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help