1Ac efe a ddywedodd wrth Moses tyret i fynu at yr Arglwydd, ti ac Aaron, Nadab, ac Abihu, a’r dec a thrugain o henuriaid Israel: ac addolwch o hir-bell.
2Ac aed Moses ei hun at yr Arglwydd, ac na ddeuant hwynt, ac nac aed y bobl i fynu gyd ag ef.
3Yna y daeth Moses, ac a fynegodd i’r bobl holl eiriau’r Arglwydd, a’r holl farnedigaethau: ac attebodd yr holl bobl yn vn air, ac a ddywedasant, Exod.19.8.ni a wnawn yr holl eiriau a lefarodd yr Arglwydd.
4A Moses a scrifennodd holl eiriau’r Arglwydd, ac a gododd yn forau, ac a Exod.20.24.adailadodd allor islaw y mynydd, a deuddêc colofn, yn ôl deuddêc llwyth Israel.
5Ac efe a anfonodd langciau meibion Israel a hwynt a offrymmasant boeth offrymmau, ac a aberthasant fustych yn ebyrth hedd i’r Arglwydd.
6A chymmerodd Moses hanner y gwaed, ac ai gossododd mewn caugiau, a’r hanner i’r gwaed a daenellodd efe ar yr allor.
7Ac efe a gymmerth lyfr y cyfammod, ac ai darllenodd lle y clywe y bobl, a dywedasant ni a wnawn, ac a wrandawn yr hyn oll a lefarodd yr Arglwydd.
8A chymmerodd Moses y gwaed, ac ai tanellodd ar y bobl, ac a ddywedodd Hebr.9.20.wele waed y cyfammod yr hwn a wnaeth yr Arglwydd a chwi, yn ol yr holl eiriau hyn.
9Yna’r aeth Moses i fynu, ac Aaron, Nadab ac Abihu, a dêc a thrugain o henuriaid Israel.
10A gwelsant Dduw Israel, a thann ei draed ef megis gwaith o faen Saphir, ac fel corph y nefoedd o ddiscleirder.
11Ac ni roddes ei law ar bendefigion meibion Israel, onid gwelsant Dduw, a bwyttasant ac yfasant.
12A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses tyret attaf i’r mynydd a bydd yno, ac mi a roddaf it lechau cerric, a’r gyfraith a’r gorchymyn y rhai a scrifennais iw dyscu hwynt.
13A chododd Moses, ac Iosua ei wenidog, ac aeth Moses i fynu i fynydd Duw.
14Ac wrth yr henuriaid y dywedodd, arhoswch am danom ymma, hyd oni ddelom attoch trachefn: ac wele Aaron, a Hur gyd a chwi, pwy bynnac ag achos iddo deued attynt hwy.
15A Moses aeth i’r mynydd, a niwl a orchguddiodd y mynydd.
16A gogoniant yr Arglwydd a arhôdd ar fynydd Sinai, a niwl ai gorchguddiodd chwe diwrnod, ac efe a alwodd am Moses y seithfed dydd o ganol y niwl.
17A’r golwg ar ogoniant yr Arglwydd fel tân yn difa ar ben y mynydd yng-olwg meibion Israel.
18A daeth Moses i ganol y niwl ac aeth i’r mynydd: a bu Moses yn y mynydd Exod.34.28. deut.9.9.ddeugain nhiwrnod, a deugain nhos.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
