2.Brenhinoedd 2 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. II.1 Elias heb gael gan Elisêus ymadel ag ef, yn rhwygo yr Iorddonen ai fantell, ac yn myned i’r nefoedd. 13 Elizeus wedi cael mantell Elias yn hollti yr Iorddonen ac yn gwneuthur y dwfr yn beraidd. 23 destruw y bechgin y rhai a watwarasent Elizêus.

1Pan oedd yr Arglwydd ar gymmeryd i fynu Eliaz mewn corwynt i’r nefoedd: yna’r aeth Elias, ac Elisêus allan o Gilgal.

2Ac Elias a ddywedodd wrth Elisêus, eistedd attolwg ymma, canys yr Arglwydd a’m hanfonodd hyd Bethel, ond Elisêus a ddywedodd, mai byw yw yr Arglwydd, ac mai byw dy enaid tithe nid ymadawaf a thi: felly hwynt a ddaethant i wared i Bethel.

3Yna meibion y prophwydi y rhai yn Bethel a aethant allan at Elisêus, ac a ddywedasant wrtho ef, a wyddosti mai heddyw y mae’r Arglwydd yn dwyn dy feistr di oddi arnat? dywedodd yntef, mi a wn hefyd, tewch a sôn.

4Elias a ddywedodd eilwaith wrtho ef, eistedd ymma attolwg Elisêus, canys yr Arglwydd a’m hanfonodd i Iericho, dywedodd yntef, mai byw’r Arglwydd, ac mai byw dy enaid tithe nid ymadawaf a thi: felly hwynt a ddaethant i Iericho.

5Yna meibion y prophwydi y rhai yn Iericho a nessauasant at Elisêus, ac a ddywedasant wrtho ef, a wyddosti mai heddywy mae’r Arglwydd yn dwyn dy feistr di oddi arnat? yntef a ddywedodd, minne a wn tewch a sôn.

6Etto Elias a ddywedodd wrtho ef, eistedd ymma attolwg, canys yr Arglwydd a’m hanfonodd i’r Iorddonen, dywedodd yntef, mai byw’r Arglwydd, ac mai byw dy enaid tithe, nid ymadawaf a thi: yna hwynt a aethant ymmaith ill dau.

7A deng-wr a deugain o feibion y prophwydi a aethant, ac a safasant ar gyfer o bell: a hwynt ill dau a safasant wrth yr Iorddonen.

8Yna Elias a gymmerth ei fantell, ac ai plygodd, ac a darawodd y dyfroedd, a hwynt a ymwahanasant ymma, ac accw, fel yr aethant hwy trwodd ill dau ar hyd sych

9A phan aethant hwy trwodd, yna Elias a ddywedodd wrth Elisêus, gofyn beth a wnafi i ti cyn fyng-hymmeryd i oddi wrthit ti: a dywedodd Elisêus, bydded gan hynny attolwg ddau cymmaint o’th yspryd ti gyd a mi.

10Dywedodd yntef, gofynnaist beth anhawdd: os gweli fi wedi fyng hymmeryd oddi wrthit ti fe fydd it felly, ac onid ê ni bydd.

11A phan oeddynt hwy yn myned gan rodio, ac ymddiddan, yna wele gerbyd tanllŷd, a meirch tanllyd, ac hwy a wnaethant wahaniaeth rhyngddynt ill dau: Eccles. 48.9.|SIR 48:9. 1.Mac.2.58.ac efe a ymaflodd yn ei ddillad, ac ai rhwygodd yn ddauddarn.

12Ac Eliêus oedd yn edrych, ac efe a lefodd, fy nhâd, fy nhâd cerbyd Israel, ai marchogion, ac nis gwelodd ef mwyach: ac efe a ymaflodd yn ei ddillad, ac ai rhwygodd yn ddauddarn.

13Ac efe a gododd i fynu fantell Elias, yr hon a syrthiase oddi am dano ef: ac efe a ddychwelodd, ac a safodd wrth fîn yr Iorddonen.

14Yna efe a gymmerth fantell Elias yr hon a syrthiase oddi am dano ef, ac a darawodd y dyfroedd, ac a ddywedodd, pa le Arglwydd Dduw Elias? ac yntef hefyd? efe a darawodd y dyfroedd eilwaith, a hwynt a wahanwyd ymma, ac accw, felly Elisêus a aeth trwodd.

15Pan welodd meibion y prophwydi (y rhai yn Iericho) ef ar cyfer, yna y dywedasant hwy, gorphywysodd yspryd Elias ar Elisêus: a hwynt a ddaethant iw gyfarfod ef, ac a ymgrymmasant hyd lawr iddo ef.

16A hwy a ddywedasant wrtho ef, wele yn awr y mae gyd a’th weision ddêc a deugain o wŷr nerthol, elant yn awr a cheisiant dy feistr rhac i yspryd yr Arglwydd ei ddwyn ef ai fwrw ef ar ryw fynydd, neu mewn rhyw ddyffryn: dywedodd yntef, nac anfonwch.

17Etto buant daer arno ef nes cywilyddio am hynny y dywedodd efe, anfonwch: yna hwynt a anfonasant ddeng-wr a deugain y rhai ai ceisiasant dri diau, ond nis cawsant ef.

18Am hynny hwynt a ddychwelasant atto ef, ac efe oedd yn trigo yn Iericho: ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, oni ddywedais i wrthych, nac ewch ymmaith?

19Yna gwŷr y ddinas a ddywedasant wrth Elisêus, wele attolwg ansawdd y ddinas, da yw fel y mae fy arglwydd yn gweled: ond dyfroedd drwg, a thir diffaith

20Ac efe a ddywedoddd, dygwch i mi phiol newydd, a gosodwch ynddi halen: a hwynt ai dugasant atto ef.

21Yna efe a aeth at ffynhonnell y dyfroedd ac a fwriodd yr halen yno, ac a ddywedodd, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, mi a iacheais y dyfroedd hyn, ni bydd oddi yno farwolaeth mwyach na diffrwythdra.

22Felly’r iachauwyd y dyfroedd hynny hyd y dydd hwn: yn ôl gair Elisêus yr hwn a ddywedase efe.

23Ac efe a aeth i fynu oddi yno i Bethel: pan oedd efe yn myned i fynu ar hyd y ffordd, yna’r plant bychain a ddaethant allan o’r ddinas ac ai gwatworasant ef, ac a ddywedasant wrtho ef, dôs i fynu moelun, dôs i fynu moelun.

24Ac efe a drôdd yn ei ôl, ac a edrychodd arnynt hwy, ac ai melldithiodd hwynt yn enw’r Arglwydd: a dwy arth a ddaethant allan o’r goedwic, ac a ddrylliasant ohonynt ddau blentyn a deugain.

25Felly efe a aeth oddi yno i fynydd Carmel: ac oddi yno efe a ddychwelodd i Samaria.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help