Ecclesiasticus 18 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XVIII.Mawredd Duw. 6 trueni dyn 14 Haelioni, 18 a synnwyr.

1 Gen.1.1. Yr hwn sydd yn byw byth, yn gyffredinol a greodd bob peth.

2Yr Arglwydd yn vnic sydd gyfiawn, ac nid oes neb ond efe: yr hwn â rhychwant ei law sydd yn gwneuthur y byd yn gyfanneddol, ac y mae pob peth yn vfyddhau ei ewyllys ef: o blegit y mae efe yn ei nerth yn Frenin ar bawb gan wahanu ynddynt hwy y pethau sanctaidd oddi wrth y pethau halogedic.

3I bwy y parodd efe fynegu ei weithredoedd ef: a phwy a ôlrheiniodd ei fawredd ef:

4Pwy a rif gadernid ei fawredd ef: a phwy a esyd ar draethu ei drugaredd ef:

5Ni ellir lleihau na chwanegu, ac ni ellir ôlrhain rhyfeddodau ’r Arglwydd.

6Pan orphenno dŷn yna y dechreu efe, a phan beidio efe, bydd eisieu arno ef.

7Pa beth gan hynny yw dŷn: a pha fudd sydd o honaw ef: pa dda neu ddrwg a dichō efe?

8Rhifedi dyddiau dŷn (pan fyddant lawer) ydynt gant mhlynedd, Psal.90.10.eithr y mae i bawb hun ni all neb ei gyfrif: fel defnyn o ddwfr o’r môr, ac fel graienyn o dywod yw 2.Pet.3.8.mîl o flynyddoedd ym mysc dyddiau tragywyddoldeb.

9Am hynny y mae yr Arglwydd yn ymaros wrthynt hwy, ac yn tywallt ei drugaredd arnynt hwy.

10Efe a welodd, ac a ŵybu mai dinistr drwg fydd iddynt hwy.

11Am hynny efe a wnaeth ei drugaredd yn aml.

12Trugaredd dŷn sydd tu ag at ei gymmydog:

13A thrugaredd yr Arglwydd tu ag at bob cnawd.

14Yn argyoeddu, ac yn addyscu, ac yn athrawiaethu, ac yn troi fel y gwna bugail ei braidd.

15Y mae efe yn trugarhau wrth y rhai sy yn derbyn addysc, ac wrth y rhai ydynt yn bryssio at ei farnedigaethau ef.

16[Fy] mab na cherydda wrth wneuthur cymmwynas, a phan ymbilio neb, na ddod air drwg sarrig.

17Onid yw ’r gwlith yn gostwng y gwrês: felly gwell yw gair na rhodd.

18Wele onid gwell yw gair na rhodd dda: a grâslon yw pob vn o’r ddau gan ddyn.

19Vn ffôl a ddannod fel na haeddo efe ddiolch, a rhodd y cenfigennus a wna i’r llygaid wanhau.

20Cyn llefaru, dysc: a chyn afiechyd cymmer feddiginiaeth.

21Cyn barn ymbaratoa i wneuthur yn dda, 1.Cor.11.31.ac yn amser gofwy ti a gei drugaredd.

22Cyn dy glafychu ymddarostwng trwy ddirwest, ac yn amser pechod dangos edifeirwch.

23Na rwystra dalu adduned mewn prŷd: ac nac oeda ymgyfiawnhau hyd farwolaeth.

24Ymbaratoa cyn gweddio, ac na fydd fel dŷn yn temptio ’r Arglwydd.

25Meddwl am y digofaint yn y dydd diwedd, Pen.7.17.ac am amser dialedd pan droer wyneb ymmaith.

26 Pen.11.14. Yn amser amldra meddwl am amser newyn, ac yn amser cyfoeth am dlodi, ac eisieu.

27O’r boreu hyd yr hwyr y newidia amser, ac ebrwydd yw hyn oll ger bron yr Arglwydd, ar ddŷn doeth y bydd ofn duwiol ym mhob peth, ac yn amser pechod efe a ymochel rhag amryfusedd, a’r angall ni cheidw amser.

28Pob vn synhwyrol a edwyn ddoethineb, ac addysc.

29Ac efe a rydd fawl i’r hwn sydd yn ei chael hi.

30Y rhai synhwyrol a fuant ddoethion yn eu hymadroddion, ac a ddiferasant fanwl ddiharebion i fywyd: goref yw hyder ar yr Arglwydd yn vnic, o blegit calon farw sydd yn glynu wrth beth marw.

31 Rhuf.6.6. & 13.14. Na ddos ar ôl dy chwant, eithr ymattal oddi wrth dy awydd.

32Os rhoddi i’th enaid yr hyn a ryngo bodd iddo, yna y gwnei di i’th elynnion chwerthin y rhai ydynt yn cenfigennu wrthit ti.

33Na ymlawenycha yn dy fawr fwythau: ac na âd arnat eisieu ei chyngor hi.

34Na ddos yn dlawd trwy wledda ar o­creth heb ddim yn dy bwrs, canys y byddit ti enwog gynllwynwr i’th einioes dy hun.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help