Gweithredoedd yr Apostolion 12 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XII.Herod yn erlid y Christianogion, yn lladd Iacob, ac yn carcharu Petr, 7 yr angel yn gwared Petr, 20 dig, gwagedd, ac angeu Herod.

1 Y Pryd hynny yr estynnodd Herod Frenin ddwylo i orthrymmu rhai o’r eglwys.

2Canys efe a laddodd Iacob brawd Ioan â’r cleddyf.

3A phan welodd fod yn dda gan yr Iddewon hyn, efe a chwanegodd ddala Petr hefyd ⁋ (a dyddiau y bara croiw ydoedd hi)

4Yr hwn a ddaliodd efe, ac a osododd yng-harchar, ac a’i rhoddodd at bedwar pedwar o filwŷr iw gadw, gan feddwl ar ôl y Pasc ei ddwyn ef allan i’r bobl.

5Felly y cadwyd Petr yn y carchar, a gweddi ddyfal a wnaeth yr eglwys at Dduw drosto ef.

6A phan oedd Herod a’i fryd ar ei ddwyn ef allan, y nos hon y cyscodd Petr rhwng dau filwr, wedi ei rwymo â dwy gadwyn, a’r gwilwyr oeddyni yn cadw y carchar gyferbyn â’r drŵs.

7 Pen.5.19. Ac wele, Angel yr Arglwydd a ddaeth ar eu huchaf, a llewyrch a oleuodd yn y carchar: ac efe a darawodd Petr ar ei ystlys, ac a’i cyfododd ef, gan ddywedyd: cyfot yn fuan, a’r cadwyni a syrthiasant oddi am ei ddwylo ef.

8A dywedodd yr Angel wrtho, ymwregysa, a chae dy escidiau: ac felly y gwnaeth efe, yna y dywedodd, gwisc dy ddillad am danat, a chanlyn fi.

9A Phetr a ddaeth allan, ac a’i canlynodd ef, ac ni’s gwybu mai gwir oedd y peth a wnaethid gan yr Angel, onid efe a dybiodd mai gweled gweledigaeth yr oedd efe.

10Eithr wedi myned o honynt heb law y gyntaf a’r ail wiliadwriaeth, hwy a ddaethāt i’r porth haiarn, yr hwn sydd yn arwain i’r ddinas, yr hwn a ymagorodd iddynt o’i waith ei hun: ac wedi eu myned allan, hwy a aethant ar hŷd vn heol, a’r Angel a aeth yn ebrwydd oddi wrtho.

11Yna Petr wedi dyfod atto ei hun a ddywedodd, yn awr y gwn yn wir, i’r Arglwydd anfon ei Angel, a’m gwared fi allan o law Herod, ac oddi wrth disgwiliad holl bobl yr Iddewon.

12Ac wedi iddo gymmeryd pwyll, efe a ddaeth i dŷ Mair, mam Ioan yr hwn oedd a’i gyfenw Marcus, lle yr oedd llawer wedi ymgasclu, ac yn gweddio.

13Ac wedi i Petr guro drws y porth, morwyn a ddaeth allan i wrando, a’i henw Rhode.

14Yr hon pan adnabu lais Petr, nid agorodd y drws gan lawenydd, eithr hi a redodd i mewn, ac a ddywedodd fod Petr yn sefyll o flaen y porth.

15Hwythau a ddywedasant wrthi, yr wyt ti wedi ynfydu, a hithe a daerodd mai felly yr oedd, eithr hwy a ddywedasant, ei Angel ef yw.

16A Phetr a barhâodd yn curo, ac wedi iddynt agori, hwy a’i gwelsant ef, ac a synnasant.

17Ac efe a amneidiodd arnynt â’i law am dewi, ac a ddangosodd iddynt pa wedd y dugase yr Arglwydd ef allan o’r carchar: ac efe a ddywedodd, dangoswch hyn i Iaco, ac i’r brodyr, ac efe a aeth allan; ac a aeth i le arall.

18A phan ddyddhâodd hi, yr oedd trallod nid bychan ym mhlith y mil-wŷr, pa beth a ddaethe o Betr.

19Eithr Herod, pan geisiodd ef, ac na’s cafodd, efe a holodd y ceidwaid, ac a orchymynnodd eu cymmeryd hwy ymmaith: yntef a aeth i wared o Iudæa i Cæsarea, ac a arhosodd yno.

20Eithr Herod oedd lidiog yn erbyn gwyr Tyrus a Sidon, a hwynt a ddaethant yn gytun atto, ac wedi ennill Blastus yr hwn oedd stafellydd y brenin, hwy a ddeisyfiasant dangneddyf: am fod eu gwlâd hwynt yn cael ei chynhaliaeth o dir y brenin.

21Ac ar y dydd nodedic yr ymwiscodd Herod yn ei ddillad brenhinol, ac yn eistedd ar yr orseddfaingc efe a ymadroddodd wrthynt.

22A’r bobl a roesant waedd, lleferydd Duw, ac nid dyn.

23Ac allan o law y tarawodd angel yr Arglwydd ef, am na roese y gogonedd i Dduw, a chan bryfed yn ei ysu, efe a drengodd.

24A gair Duw a gynnyddodd, ac a amlhâodd.

25Yna Barnabas, a Saul a ddychwelâsant o Ierusalem, wedi cyflawni eu swydd, a chan gymmeryd gyd â hwynt Ioan hefyd yr hwn a gyfenwid Marc.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help