2.Cronicl 34 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXXIIII.Duwiol lywodraeth Iosia. 14 Caffaeliad llyfr y gyfraith. 20 Y brenin ar hynny yn gyrru i ymgynghori a Duw. 23 A’r atteb a gafodd efe.

1Mab ŵyth mlwydd Iosia pan ddechreuodd efe deyrnasu: 2.Bren.22.1.ac vn mlynedd ar ddêc ar hugain y teyrnasodd efe yn Ierusalem.

2Ac efe wnaeth yr hyn oedd inion yng-olwg yr Arglwydd: ac a rodiodd yn llwybrau Dafydd ei dâd, ac ni ogwyddodd efe ar y llaw ddehau, nac ar y llaw asswy.

3Ac yn yr wythfed flwyddyn oi deyrnasiad ef (tra’r ydoedd efe etto yn fachgen) efe a ddechreuodd geisio Duw Dafydd ei dâd: ac yn y ddeuddecfed flwyddyn efe a ddechreuodd lanhau Iuda, ac Ierusalem o’r vchelfeudd, a’r llwynau, a’r delwau cerfiedic, a’r delwau toddedic.

4Destruwiasāt hefyd yn ei ŵydd ef allorau Baalun, a’r delwau y rhai i fynu oddi arnynt hwy a dorrodd efe: y llwynau hefyd, a’r delwau cerfiedic, a’r delwau toddedic a ddrylliodd efe, ac a faluriodd efe, tânodd hefyd llwch hwy ar hyd wyneb beddau y rhai a aberthasent iddynt hwy.

5Ac escyrn yr offeiriaid a 2.Bren.23.16.loscodd efe ar eu hallorau: ac a lanhâodd Iuda, ac Ierusalem.

6Felly yn ninasoedd Manasses, ac Ephraim, a Simeon, ac hyd Nephthali: yn yr anghyfānedd-leoedd oddi amgylch.

7Pan ddinistriodd efe yr allorau, a’r llwynau, a dryllio o honaw y delwau cerfiedic gan malurio, a thorri ymmaith yr eulynnod eu gyd o holl wlâd Israel: yna efe a ddychwelodd i Ierusalem.

8Ac yn y ddeunawfed flwyddyn oi deyrnasiad, ef, wedi glanhau y wlad, a’r tŷ: 2.Bren.22.3.efe a anfanodd Saphan fab Azaliahu, a Maasiah tywysog y ddinas, ac Ioah fab Ioahaz y cofiadur i gyweirio tŷ yr Arglwydd ei Dduw.

9A phan ddaethant hwy at Helcia yr archoffeiriad, yna y rhoddasant yr arian a ddugasid i dy Dduw, y rhai a gasclase y Lefiaid, y rhai oeddynt yn cadw y cyntedd o law Manasses, ac Ephraim, ac oddi gan holl weddill Israel, ac oddi ar holl Iuda, a Beniamin: a hwy a ddychwelasant i Ierusalem.

10A hwynt ai rhoddasant yn llaw y gweithwŷr, y rhai oeddynt oruchwilwyr yn nhŷ’r Arglwydd: hwyntau ai rhoddasant i wneuthurwyr y gwaith y rhai oeddynt yn gweithio yn nhy’r Arglwydd, i gyweirio, ac i gadarnhau y tŷ.

11Rhoddasant hefyd i’r seiri, ac i’r adailadwyr i brynu cerrig nâdd, a choed tu ag at y cyssylltiadau: ac i fyrddu y tai y rhai a ddinistriase brenhinoedd Iuda.

12A’r gwŷr oeddynt yn gweithio yn y gwaith yn ffyddlon, ac arnynt hwy yn olyg-wŷr oedd Iahath, ac Obadiahu y Lefiaid o feibion Meari, Zecaria hefyd, a Mesulam o feibion y Cehathiaid iw hannog: ac o’r Lefiaid pôb ddeallgar mewn offer gerddgar.

13Ac ar y clud-wŷr, a’r golyg-wŷr yr holl rai oedd yn gweithio mewn amryw waith: ac o’r Lefiaid scrifennyddion, swyddogion hefyd, a phorthorion.

14A phan ddugasant hwy allan yr arian y rhai a ddugasid i dŷ’r Arglwydd, 2.Bren.22.8.Helcia’r offeiriad a gafodd lyfr cyfraith yr Arglwydd drwy law Moses.

15A Helcia a attebodd, ac a ddywedodd wrth Saphan yr scrifennydd, cefais lyfr y gyfraith yn nhŷ’r Arglwydd: a Helcia a roddodd y llyfr at Saphan.

16A Saphan a ddug y llyfr at y brenin, ac a ddug air trachefn i’r brenin gan ddywedyd: yr hyn oll a roddwyd yn llaw dy weision di, y maent hwy yn wneuthur.

17Toddasant hefyd yr arian y rhai a gafwyd yn nhŷ’r Arglwydd: a rhoddasant hwy yn llaw y swyddogion, ac yn llaw y gweith-wŷr.

18Saphan yr scrifennudd a fynegodd hefyd i’r brenin gan ddywedyd, Helcia’r offeiriad a roddodd i mi lyfr: a Saphan a ddarllenodd ynddo ef ger bron y brenin.

19A phan glybu y brenin eiriau y gyfraith, yna efe a rwygodd ei wiscoedd.

20A’r brenin a orchymynnodd i Helcia, 2.Bren.22.12.ac i Ahicam fab Saphan, ac i Abdon fab Micah, i Saphan hefyd yr scrifennydd, ac i Asaiah gwâs y brenin gan ddywedyd:

21Ewch, ymgynghorwch a’r Arglwydd trosofi, a thros y gweddill yn Israel, ac yn Iuda, am eiriau y llyfr yr hwn a gafwyd: canys mawr cynddaredd yr Arglwydd yr hon a dywalltodd efe arnom ni o blegit na chadwodd ein tadau ni air yr Arglwydd gan wneuthur yn ôl yr hyn oll a’r sydd yn scrifennedic yn y llyfr hwn.

22Yna’r aeth Helcia, a’r rhai y brenin at Huldah y brophwydes, gwraig Salum mab Tocath, 2.Bren.22.14.fab Hasrah ceidwad y gwiscoedd, a hi oedd yn aros yn Ierusalem yn yr ail rhan ac ymddiddanasant a hi felly.

23A hi a ddywedodd wrthynt hwy, fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel, dywedwch i’r gŵr yr hwn a’ch anfonodd chwi attafi,

24Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, wele fi yn dwyn drwg ar y lle hwn, ac ar ei drigolion: sef yr holl felldithion y rhai ydynt yn scrifennedic yn y llyfr yr hwn a ddarllenasant hwy ger bron brenin Iuda.

25Am iddynt fyng-wrthod i, ac arogl-darthu i Dduwiau dieithr i’m digio i a holl waith eu dwylo: am hynny yr ymdywallt fy llid i yn erbyn y lle hwn, ac nis diffoddir ef.

26Ond am frenin Iuda’r hwn a’ch anfonodd chwi i ymgynghori a’r Arglwydd, fel hyn y dywedwch wrtho ef: fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel y geiriau y rhai a glywaist.

27O blegit i’th galon feddalhau, ac i tithe ymostwng o flaen Duw, pan glywaist ei eiriau ef yn erbyn y fann hon, ac yn erbyn ei thrigoliō, ac ymostwng o honot ger fy mron, a rhwygo dy wiscoedd, ac ŵylo o’m blaen i: am hynny y gwrandewais inne, medd yr Arglwydd.

28Wele mi a’th gymmeraf di ymmaith at dy dadau, a thi a ddugir ymmaith i’r bedd mewn heddwch, fel na wêlo dy lygaid di yr holl ddrwg’r hwn yr ydwyfi yn ei ddwyn ar y fann hon, ac yn erbyn ei phresswyl-wŷr: felly hwynt a ddugasant yn ei ôl air i’r brenin.

29Yna y brenin a anfonodd: 2.Bren.23.1.ac a gynhullodd holl henuriaid Iuda, ac Ierusalem.

30A’r brenin a aeth i fynu i dy’r Arglwydd, a holl wyr Iuda, a thrigolion Ierusalem, yr offeriaid hefyd a’r Lefiaid a’r holl bobl o fawr i fychan: ac efe a ddarllênodd lle y clywsant hwy holl eiriau llyfr y cyfammod yr hwn a gawsid yn nhŷ’r Arglwydd.

31A’r brenin a safodd yn ei sefyll, ac a wnaeth gyfammod ger bron yr Arglwydd, ar rodio ar ôl yr Arglwydd, ac ar gadw ei orchymynniō ef, ai destiolaethau, ai ddefodau, ai holl galon, ac ai holl enaid: gan gwplau geiriau y cyfammod y rhai oeddynt yn scrifennedic yn y llyfr hwnnw.

32Ac efe a wnaeth i bawb a’r a gafwyd yn Ierusalem, ac yn Beniamin sefyll Duw eu tadau.

33Felly Iosia a dynnodd ymmaith y ffieidd-dra ei gyd o’r holl wledydd y rhai eiddo meibion Israel, ac efe a wnaeth i bawb a’r a gafwyd yn Israel wasanaethu’r Arglwydd eu duw: ei holl ddyddiau ef ni throasant hwy oddi ar ôl Arglwydd Dduw eu tadau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help