1Ac wedi gwneuthur o honaw ef iddo dai yn ninas Dafydd, a pharatoi lle i Arch Duw, ac estyn o honaw ef iddi hi babell.
2Yna Dafydd a ddywedodd, nid Num.4.2.|NUM 4:2 & 20i ddwyn Arch Duw onid y Lefiaid: canys hwynt a ddewisodd yr Arglwydd i ddwyn Arch yr Arglwydd, ac i weini iddo ef yn dragywydd.
3A chasclodd Dafydd holl Israel i Ierusalem, i gyrchu Arch yr Arglwydd iw lle’r hwn a baratoase efe iddi hi.
4Dafydd hefyd, a gynhullodd feibion Aaron, a’r Lefiaid.
5O Feibion Cehath, Uriel y tywysog, a chant, ac vgain oi frodyr ef.
6O feibion Merari, Asaia y tywysog, a dau cant, ac vgain oi frodyr ef.
7O feibion Gersom, Ioel y tywysog, a chant, a deg ar hugain oi frodyr.
8O feibion Elizaphan, Semaia y tywysog, a dau cant oi frodyr.
9O feibion Hebron, Eliel y tywysog, a phedwar vgain oi frodyr.
10O feibion Uziel, Aminadab y tywysog, a chant, a deuddec oi frodyr.
11Yna Dafydd a alwodd ar Zadoc, ac ar Abiahar yr offeiriaid, ac ar y Lefiaid, ar Uriel, Asaiah, ac Ioel, Semaia, ac Eliel, ac Aminadab.
12Ac efe a ddyweddodd wrthynt hwy, chwi bennau cenedl ym mhlith y lefiaid: ymsancteiddiwch chwi a’ch brodyr, fel y cyrchoch Arch Arglwydd Dduw Israel i’r a baratoais iddi hi.
13O herwydd 1.Cron.13.10.nad o’r dechreuad y rhwygodd yr Arglwydd ein Duw ni arnom ni: o blegit na cheisiasom ef yn ol y ddefod.
14Felly yr offeiriaid, a’r Lefiaid a ymsancteiddiasant i gyrchu Arch Arglwydd Dduw Israel.
15A meibion y Lefiaid, a ddugasant Arch Duw ar eu hyscwyddau wrth drosolion, megis y gorchymynnodd Moses, Exod.25.15.yn ôl gair yr Arglwydd.
16Dafydd hefyd a ddywedodd wrth dywysogion y Lefiaid, ar iddynt osod eu brodyr y cerddorion i leisio ag offer cerdd nablau, a thelynau, a Symbalau, gan dderchafu llêf mewn gorfoledd.
17Yna y Lefiaid a osodasant Heman fab Ioel, ac oi frodyr ef Asaph Berecia, ac o feibion Merari eu brodyr Ethan fab Cusaiahu.
18A chyd a hwynt eu brodyr o’r ail râdd Zacharia, Ben, ac Iaziel, Semiramoth hefyd, ac Iehiel, ac Unni, Eliab, a Benaiahu, Maasia hefyd a Mathathiahu, Eliphalehu hefyd, a Micniahu, Obed Edom hefyd, ac Iehiel y porthorion.
19Felly Heman, Asaph, ac Ethan y cerddorion i leisio a Symbalau prês.
20Zacharia hefyd, ac Aziel, Semiramoth hefyd ac Iehiel, ac Unni, ac Eliab a Maasiahu, a Benaiahu, nablau ar yr Alamoth.
21Mathathiahu hefyd, ac Eliphalehu, a Micniahu, ac Obed Edom, ac Ieiel ac Azaiahu i ragori, a thelynau ar y Sheminyth.
22Cenaniahu hefyd oedd flaenor y Lefiaid mewn derchafiad dysce efe i dderchafu, canys deallgar ydoedd efe.
23Berechia hefyd, ac Elcana borthorion ar yr Arch.
24Sebaniahu hefyd, ac Iehosaphat, Nathanael hefyd, ac Amasai, a Zachariahu, a Benaiahu, ac Eliezer yr offeiriaid yn lleisio mewn vdcyrn ger bron Arch Duw: Obed Edom hefyd, ac Iehia borthorion ar yr Arch.
25 2.Sam.6.12. Felly Dafydd, a henuriaid Israel, a thywysogion y miloedd a aethant i gyrchu Arch cyfammod yr Arglwydd o dŷ Obed Edom mewn llawenydd:
26Ac am gynhorthwyo o Dduw y Lefiaid, y rhai oeddynt yn dwyn Arch cyfammod yr Arglwydd, hwynt a offrymmasant saith o fustych, a saith o hyrddod.
27A Dafydd oedd wedi ymwisco mewn gwisc liain, felly yr holl Lefiaid y rhai oeddynt yn dwyn yr Arch, a’r cerddorion: Cenaniahu hefyd tywysog y gerdd, a’r cerddorion, ac am Ddafydd 2.Sam.6.14.Ephod liain.
28A holl Israel a gyrchasant Arch cyfammod yr Arglwydd ag vdcaniad, a llais trwmpet ac vdcyrn, a Symbalau hefyd yn lleisio gyd ar nablau, a’r telynau.
29Pan ydoedd Arch cyfammod yr Arglwydd yn dyfod i ddinas Dafydd: yna Michol merch Saul a edrychodd drwy’r ffenestr, ac a ganfu Ddafydd y brenin yn dawnsio, ac yn ymlawenychu, a hi ai dirmygodd ef yn ei chalon.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.