1AR Angel yr hwn a ddanfonwyd (attaf ei enw oedd Vriel) a’m hattebodd,
2Ac a ddywedodd wrthif, cymmeraist ormed arnat yn dy galon yn y bŷd hwn, a thybied yr ydwyt y gelli ddeall ffordd y Goruchaf.
3Yna y dywedais inne, gwir fy arglwydd ac efe a’m hattebodd gan ddywedyd, fe a’m hanfonwyd i ddangos i ti dair ffordd, ac i roddi tri cyffelybrwydd o’th flaen di.
4Os dangosi i mi vn o honynt, minne a ddangosaf i tithe y ffordd a ewyllyssi gael ei gweled: a dangosaf it o ba lê y mae yr galon ddrwg.
5A dywedais, dywet fy arglwydd, yna y dywedodd efe wrthif, dôs a phwysa bwys y tân, neu fesur i mi’r awel wynt, neu alw yn ei ôl y dydd a aeth heibio.
6Yna yr atebais ac y dywedais, pa ddyn ganedig a all wneuthur hynny: pa ham y ceist genif hynny:
7Ac efe a ddywedodd wrthif, pe gofynnaswn it pa faint o drigfannau sydd yng-hanol y môr, ne pa rifedi o aberoedd sydd yn nechrcu y dyfnder, neu pa gymmaint o ffynhonnau sydd ar y ffurfafen, neu pa le y mae terfynau paradwys:
8Ond antur ti a ddywedit wrthif, ni bûm i erioed yn y dyfnder, nac yn vffern, ac ni ddringais i’r nefoedd.
9Ac yn awr ni ofynnais i ti ond yn vnic am y tân, a’r gwynt, a’r dydd yr hwn a dreuliaist, ac oddi wrth y rhai ni’s gellir dy naillduo di, er hynny ni fedri di roddi i mi atteb am danynt.
10Ac efe a ddywedodd wrthif eil-waith, nid adwaenost yr eiddot ty hun, na’r pethau a gyd-tyfant â thi:
11A pha fodd y gall dy lestr di ymgyffred ffordd y Goruchaf: ac yn awr yn y bŷd llygredic hwn pa fodd y gelli di ddeall y llygredigaeth sydd yn amlwg yn fyng-olwg i:
12A dywedais wrtho ef, gwell a fuase i ni na buasem, na byw mewn anwireddau a dioddef heb ŵybod pa ham.
13Efe a’m hatebodd, ac a ddywedodd, daethum i goed mawr ar faes, Barn.9.8. 2.Cron.25.18.a’r prennau oeddynt, yn ymgynghori,
14Gan ddywedyd, deuwch, awn i ymladd a’r môr hyd oni chilio efe rhagom, fel y gallom wneuthur mwy o goedydd.
15A llifeiriant y môr hefyd yr vn modd a ymgynghorasant, gan ddywedyd, deuwch awn i fynu i ymladd yn erbyn coedydd y maes, fel y gallom wneuthur i ni wlâd arall.
16A gwnaethbwyd bwriad y coed yn ofer, canys tân a ddaeth ac ai lloscodd ef.
17Hefyd bwriad llifeiriant y môr a ballodd, canys y tyfod a safodd ac ai rhwystrodd ef.
18Pe byddit ti yn farn-wr ar y rhai hyn, pa vn a gyfiawnheit ti, a pha vn a gondemnit ti:
19Attebais gan ddywedyd, yn wîr ofer oedd eu hamcanion ill dau, canys y tir a roddwyd i’r coedydd, ac y mae hefyd i’r môr le i fwrw ei donnau.
20Yna i’m hattebodd gan ddywedyd, bernaist yn gyfiawn, ond pa ham na ferni dy hun hefyd:
21Canys fel y rhoddwyd y tîr i’r coed, a’r môr iw donnau: yn yr vn modd Esai.55.8,9.|ISA 55:8,9. Ioan.3.31. 1.Cor.2.13,14.y rhai a drigant ar y ddaiar ni ddeallant ddim ond y pethau sydd ar y ddaiaryn vnic, a’r hwn sydd yn aros vwch law y nefoedd yn vnic a gaiff ddeall y pethau sydd goruwch y nefoedd.
22Yna yr attebais gan ddywedyd, attolwg Arglwydd dyro i mi ddeall.
23Canys ni chwēnychais ymofyn yn fanwl am dy bethau goruchaf di, ond am y pethau sy yn myned heibio i ni beunydd, (hynny yw) pa ham y rhoddwyd Israel yn wradwydd i’r cenhedloedd, ac y rhoddwyd y bobl a geraist i genhedloedd anwir, a phaham y difethwyd cyfraith ein tadau, ac y dirymwyd yr ammodau scrifennedic:
24Ac yr ydym yn myned o’r byd fel ceilioc rhedyn, a ein henioes nid yw ddim ond ofn a braw, ac ni haeddwn ni drugaredd.
25Pa beth a wna efe gan hynny iw enw ’r hwn a alwn ni arno: a hyn a ofynnais iddo ef.
26Yna efe a’m hattebodd gan ddywedyd, pa mwyaf yr ymofynnech, rhyfeddach fydd gēnit, canys mae ’r byd ar frŷs i ymado,
27Ac ni fedr efe ddeall y pethau a addawyd i’r rhai cyfiawn yn yr amseroedd sydd yn dyfod, canys llawn yw ’r byd o anwiredd a gwendid.
28Ond am y pethau a ofynnaist i mi, mi a ddywedaf: drygioni a hauwyd, ond ni ddaeth ei ddinistr ef etto.
29Oni ddymchwelir y drwg a hauwyd, ac onid aiff ymmaith y fann lle yr hauwyd y drwg, yna ni ddaw ’r hyn a hauwyd â daioni.
30Canys grawn yr hâd drwg a hauwyd yng-halon Adda o’r dechreu, a pha gymmaint o anwiredd a ddug efe hyd yn hyn, a pha gymmaint a ddwg efe etto oni ddel i’r yscubor:
31Myfyria ynot ty hun pa gymmaint ffrwyth o anwiredd y mae grawn ’r hâd drwg yn ei ddwyn.
32A phan fedir y tywys y rhai sy allan o rifedi, pa yscubor ei maint a ddechreuant hwy ei gwneuthur:
33Yna yr attebais gan ddywedyd, pa fodd, a pha bryd y bydd hyn: pa ham y mae ein blynyddoedd yn ychydig, ac yn ddrwg:
34Ac efe a’m hatebodd gan ddywedyd, na phrysura di i fod yn vwch na’r Goruchaf, canys yn ofer y prysuri di fod vwch ei law ef: oblegit bod dy ragoriaeth yn fawr
35Oni ymofynnodd eneidiau y rhai cyfiawn am y pethau hyn yn eu stafellau, gan ddywedyd: pa hŷd y gobeithiaf fel hyn: pa bryd y daw ffrwyth ein yscubor a’n gwobr:
36Ieremiel yr arch-angel a attebodd hynny gan ddywedyd, pan gyflawner rhyfedi ’r hâd ynoch, canys efe a bwyssodd y byd mewn clorian,
37Mewn mesur y mesurodd efe ’r amseroedd, ac mewn rhifedi y rhifodd efe ’r oesoedd, ac ni chynhyrfodd efe ddim o honaw, ac ni’s escydwodd nes cyflawni’r mesur.
38Yna yr attebais gan ddywedyd, ô Arglwydd llywydd, yr ydym ni oll yn llawn anwiredd.
39[Ac edrych] rhag na lanwer yscuborau y rhai cyfiawn er ein mwyn ni o achos pechodau y rhai ydynt yn aros ar y ddaiar.
40Ac efe a’m hatebodd gan ddywedyd, dôs ymmaith, a gofyn i wraig seichiog, pan gyflawner ei naw mis hi, a all ei chroth hi gadw ’r etifedd yn hwy oi mewn hi:
41Ac mi a ddywedais, na all Arglwydd, ac efe a ddywedodd wrthif, yn vffern y mae llochesau yr eneidiau yn debyg i’r groth.
42Canys fel y pryssura gwraig wrth escor i ddiang oddi wrth angen y drafael, felly y pryssura hithe i roddi trachefn yr hyn a roddwyd yno.
43Dangosir it o’r dechrau y pethau a ewyllysi gael eu gweled.
44Yna yr attebais gan ddywedyd, os cefais ffafor yn dy olwg di, ac od yw bossibl, ac os ydwyf gymmwys,
45Dangos i mi, ai mwy sydd i ddyfod nag a aeth heihio, neu a bassiodd mwy nag sydd i ddyfod.
46Gwn beth a bassiodd, ond ni wn y peth sydd i ddyfod.
47Ac efe a ddywedodd wrthif, sâf di o’r tu dehau, a dangosaf it ddeongliad y ddammeg.
48Ac felly mi a sefais, ac wele, gwelais ffwrn boeth yn myned heibio o’m blaen i, a digwyddodd (pan aeth y fflam heibio) i mi edrych ac wele ’r mwg o orchfygodd.
49Yn ôl hyn fe aeth heibio o’m blaen i gwmwl yn llawn o ddwfr, a gollyngodd i lawr law mawr cryf, a phan ddarfu nerth y glaw, defnynnau a barhausant.
50Yna y dywedodd efe wrthif, myfyria ynot ty hun: megis y chwanega ’r glaw mwy na’r defnynnau, a’r tân yn fwy na’r mwg, felly y rhagora mesur y pethau a aethant heibio,
51Yna y gofynnais gan ddywedyd, a dybygit ti y byddafi byw hyd y dyddiau hynny? neu pa beth a ddigwydd yn y dyddiau hynny?
52Efe a’m hatebodd gan ddywedyd, am yr arwyddion y rhai a ofynnaist i mi, mi a fedraf ddywedyd peth it, ond am dy enioes ni’m danfonwyd i ddangos it, ac ni’s medraf.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.