Genesis 27 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXVII.Isaac yn gofyn saig o helwriaeth Esau, gan addaw ei fendith iddo 5, Iacob trwy gyngor ei fam yn achub blaen Esau am y fendith 30, Esau yn dyfod, a thrwy ymbil mawr yn caffel yr ail fendith. 41 Esau yn casâu, ac yn bygwth enioes Iacob. 42 Rebecca yn anfon Iacob i Mesopotamia.

1A bu, wedi heneiddio o Isaac, a thywyllu ei lygaid fel na wele, alw o honaw ef Esau ei fâb hynaf, a dywedyd wrtho, fy mâb: yntef a ddywedodd wrtho ef, wele fi.

2Ac efe a ddywedodd wele mi a heneiddiais yn awr, nid adwen ddydd fy marwolaeth.

3Ac yn awr cymmer attolwg dy offer, dy gawell saethau, a’th fwa, a dos allan i’r maes, a hela i mi helfa.

4A gwna i mi ddainteithion or fâth a garaf, a dŵg attafi, fel y bwytawyf, er mwyn dy fendithio o’m henaid cynn fy marw.

5A Rebecca a glybu pan ddywedodd Isaac wrth Esau ei fâb: ac Esau a aeth i’r maes, i hela helfa iw dwyn.

6Yna Rebecca a lefarodd wrth Iacob ei mâb, gan ddywedyd: wele clywais dy dâd yn llefaru wrth Esau dy frawd gan-ddywedyd.

7Dŵg i mi helfa, a gwna i mi ddainteithion: fel y bwyttawyf, ac i’th fendithiwyf, ger bron yr Arglwydd o flaen fy marw.

8Ond yn awr fy mâb gwrando ar fy llais i, am yr hynn a orchymynnaf i ti.

9Dos yn awr i’r praidd, a chymmer i mi oddi yno ddau fynn gafr da, a mi ai harlwyaf hwynt yn ddainteithion i’th dâd, fel y câr efe.

10A thi ai dygi i’th dâd, fel y bwyttao megis i’th fendithio o flaen ei farw.

11Yna y dywedodd Iacob wrth Rebecca ei fam, wele Esau fy mrawd yn ŵr blewoc, a minne yn ŵr llyfn.

12Fy nhad ond odid a’m teimla, yna y byddaf yn ei olwg ef fel twyll-wr: ac y dygaf arnaf felldith, ac nid bendith.

13A’i fam a ddywedodd wrtho ef, arnafi dy felldith fy mâb, yn unic gwrando ar fy llais, dôs a dŵg i mi.

14Ac efe a aeth, ac a gymmerth ac ai dygodd at ei fam: ai fam a wnaeth ddainteithion fel y care ei dâd.

15Rebecca hefyd a gymmerodd hoff wiscoedd Esau ei mab hynaf, y rhai gyd a hi yn tŷ, ac a wiscodd Iacob ei mab ieuangaf.

16Gwiscodd hi hefyd grwyn y mynnod geifr am ei ddwylo ef, ac am lyfndra ei wddf ef.

17Ac a roddes y dainteithion, a’r bara y rhai a arlwyase hi yn llaw Iacob ei mab.

18Ac efe a ddaeth at ei dâd, ac a ddywedodd, fy-nhâd, yntef a ddywedodd, wele fi, pwy ydwyt ti fy mâb?

19Yna y dywedodd Iacob wrth ei dâd, myfi Esau dy gyntaf-anedic, gwneuthym fel y dywedaist wrthif: cyfot yn awr, eistedd, a bwytta o’m helfa, fel i’m bendithio dy enaid.

20Ac Isaac a ddywedodd wrth ei fâb, pa fodd, fy mab y cefaist morr fuan a hynn? Yntef a ddywedodd, am i’r Arglwydd dy Dduw beri ddigwyddo o’m blaen.

21Yna y dywedodd Isaac wrth Iacob, tyret yn nes yn awr, fel i’th deimlwyf fy mâb: ai tydi fy mâb Esau, ai nad e.

22Yna y nessaodd Iacob at Isaac ei dâd, yntef ai teimlodd, ac a ddywedodd, y llais, llais Iacob, a’r dwylo, dwylo Esau

23Ac nid adnabu efe ef, am fod ei ddwylo, fel dwylo ei frawd Esau, yn flewoc: am hynny efe ai bendithiodd ef.

24Dywedodd hefyd, ai ti ymma fy mâb Esau? yntef a ddywedodd myfi.

25Ac efe a ddywedodd dŵg di attafi fel y bwyttawyf o helfa fy mâb megis i’th fendithio fy enaid: yna y dûg atto ef ac efe a fwyttâodd, dûg iddo ef win hefyd ac efe a yfodd.

26Yna y dywedodd Isaac ei dâd wrtho ef tyret ti yn nês yn awr fel i’th gussanwyf fy mâb.

27Yna y daeth efe yn nês, ac yntef ai cussanodd ef, ac a sawyrodd aroglau ei wiscoedd ef, ac ai bendithiodd ef, ac a ddywedodd wele aroglau fy mâb, fel arogl maes yr hwn a fendithiodd yr Arglwydd.

28A Heb.11.20.rhodded Duw i ti o wlith y nefoedd, ac o fraster y ddaiar, ac amldra o ŷd a gwin.

29Gwasanaethed pobloedd dy di, ac ymgrymmed cenhedloedd i ti, bydd di feistr ar dy frodyr, ac ymgrymmed meibion dy fam i ti: melltigedic a’th felldithio, a bendigedic, a’th fendithio.

30A phan ddarfu i Isaac fendithio Iacob, ac i Iacob yn brinn fyned allan o ŵydd Isaac ei dâd, yna Esau ei frawd a ddaeth oi hela.

31Ac yntef hefyd a wnaeth ddainteithion ac a ddûg at ei dâd, ac a ddywedodd wrth ei dâd: cyfoded fy nhâd, a bwyttaed o helfa ei fab, fel im bendithio dy enaid.

32Ac Isaac ei dad a ddywedodd wrtho ef, pwy ti? yntef a ddywedodd myfi dy fab cyntaf-annedic di Esau.

33Yna Isaac a ddychrynnodd a dychryn mawr iawn, ac a ddywedodd: pwy yn awr efe yr hwn a heliodd helfa, ac ai ddûc i mi? a mi a fwytteais o’r cwbl cyn dy ddyfodd, ac ai bendithiais ef, bendigedic hefyd fydd ef.

34Pan glybu Esau eiriau ei dâd, efe a waeddodd a gwaedd fawr a chwerw iawn, ac a ddywedodd wrth ei dâd, bendithia di fynne, ie finne, fy nhâd.

35Ac efe a ddywedodd dy frawd a ddaeth mewn twyll, ac a ddûg dy fendith.

36Dywedodd yntef, ond iawn y gelwir ei enw ef Iacob, canys efe a’m disodlodd i ddwy waith bellach: dûg efe fyng anedigaeth-fraint, ac wele yn awr efe a ddygodd fy mendith: dywedodd hefyd, oni chedwaist gyd a thi fendith i minne?

37Ac Isaac a attebodd, ac a dywedodd wrth Esau, wele mi ai gossodais ef yn feistr i ti, a rhoddais ei holl frodyr yn weision iddo ef: ag ŷd a gwin y cynheliais ef: a pheth a wnaf i tithe fy mab weithian?

38Ac Esau a ddywedodd wrth ei dâd, ai vn fendith a oedd gennit fy nhâd? bendithia finne, finne hefyd fy nhâd: felly Esau a dderchafodd ei lef ac a ŵylodd.

39Yna’r attebodd Isaac ei dâd, ac a ddywedodd wrtho, wele ym mraster y ddaiar y bydd dy breswylfod, ac ym mysc gwlith y nefoedd oddi uchod.

40Wrth dy gleddyf hefyd y byddi fyw, a’th frawd a wasanaethi, onid bydd pan feistrolech di, ac y torrech ei iau ef oddi am dy wddf.

41Ac Esau a gasaodd Iacob am y fendith ’r hon y bendithiase ei dâd ef, ac Esau a ddywedodd yn ei galon, Abd.1.10.nesau y mae dyddiau galar fy nhâd, yna y lladdaf Iacob fy mrawd.

42A mynegwyd i Rebecca eiriau Esau ei mâb hynaf, hithe a anfonodd, ac a alwodd am Iacob ei mâb ieuangaf, ac a ddywedodd wrtho ef: wele Esau dy frawd a ymgyssura ynot ti trwy dy ladd.

43Ond yn awr fy mab gwrando ar fy llais, cyfot ti, ffô rhagot at Laban fy mrawd i Haran.

44Ac aros gyd ag ef ychydic ddyddiau, hyd oni chilio llid dy frawd:

45Hyd oni chilio digofaint dy frawd oddi wrthit, ac anghofio o honaw ef yr hyn a wnaethost iddo, yna’r anfonaf ac i’th gymmeraf oddi yno: pa ham y byddwn yn amddifad o honoch ill dau vn dydd?

46Dywedodd Rebecca hefyd wrth Isaac, Genes.26.35.blinais ar fy enioes o herwydd merched Heth: os cymmer Iacob wraig o ferched Heth, i ba beth y fy enioes?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help