1.Samuel 12 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XII.Samuel yn dangos ei ddiniweidra ei hun, ac aniolchgarwch y bobl, 23 yn gweddio trostynt, ac yn eu cynghori.

1Yna Samuel a ddywedodd wrth holl Israel, wele gwrandewais ar eich llef yn yr hyn oll a ddywedasoch wrthif: a gosodais frenin arnoch.

2Ac yr awr hon wele y brenin yn rhodio o’th blaen chwi, a minne a heneiddiais, ac a bennwynnais, ac wele fy meibion hwythau gyd a chwi: minne hefyd a rodiais o’ch blaen chwi o’m mebyd hyd y dydd hwn.

3Wele fi: Ecclesiast.46.19.testiolaethwch i’m herbyn ger bron yr Arglwydd, a cher bron ei eneiniog, ych pwy a gymmerais, neu assyn pwy a gymmerais, neu pwy a orthrymmais i, pwy a friwais, neu o law pwy y cymmerais obrwy, fel y dallwn i fy llygaid ag ef, ac mi ai talaf i chwi?

4Yna y dywedasant hwy, ni orthrymmaist ni, ni friwaist ni ychwaith, ac ni chymmeraist ddim o law neb.

5Dywedodd yntef wrthynt, yr Arglwydd dŷst ’n eich erbyn chwi, ei eneiniog ef hefyd dŷst y dydd hwn, na chawsoch ddim yn fy llaw i: a’r a ddywedasant tyst

6Dywedodd Samuel hefyd wrth y bobl: yr Arglwydd yr hwn a fawrhaodd Moses, ac Aaron, a’r hwn a ddûg i fynu eich tadau chwi o dir yr Aipht.

7Ac yn awr sefwch fel yr ymresymmwyf a chwi, ger bron yr Arglwydd: am holl gyfiawnderau yr Arglwydd y rhai a wnaeth efe i chwi, ac i’ch tadau.

8 Genes.46.5,6. Wedi i Iacob ddyfod i’r Aipht, a gweiddi o’ch tadau chwi ar yr Arglwydd, yna yr Arglwydd a Exod.4.16.anfonodd Moses, ac Aaron, a hwynt a ddugasant eich tadau chwi o’r Aipht, ac ai cyfleuasant hwy yn y lle hwn.

9 Barn-wyr 4.2. Yna’r anghofiasant yr Arglwydd eu Duw, ac efe ai gwerthodd hwynt i law Sisera tywysog milwriaeth Hazor, ac i law y Philistiaid, ac i law brenin Moab, ac hwy a ymladdasant iw herbyn hwynt.

10Yna y gwaeddasant hwy ar yr Arglwydd, ac y dywedasant, pechasom, canys gwrthodasom yr Arglwydd, a gwasanaethasom Baalim, ac Astaroth, er hynny gwaret ni yr awr hon o law ein gelynion, fel y gwasanaethom di:

11A’r Arglwydd a anfonodd Ierubbaal, a Bedan, Iephthah hefyd, a Samuel, ac a’ch gwaredodd o law eich gelynion o amgylch, a chwi a bresswyliasoch yn ddiogel.

12Er hynny pan welsoch ddyfod Nahas brenin meibion Ammon yn eich erbyn, yna y dywedasoch wrthif, nage: onid brenin a deyrnasa arnom ni, er yr Arglwydd eich Duw yn frenin chwi.

13Ac yn awr wele’r brenin yr hwn a ddewisasoch chwi’r hwn a geisiasoch: wele gan hynny’r Arglwydd a roddes frenin arnoch chwi

14Os ofnwch chwi yr Arglwydd, ai wasanaethu ef, a gwrando ar ei lais ef, heb anufyddhau o honoch air yr Arglwydd, eithr bod o honoch chwi, a’r brenin hefyd yr hwn a deyrnasa arnoch ar ôl yr Arglwydd eich Duw

15Ond os chwi ni wrandewch ar lais yr Arglwydd, eithr annufyddhau gair yr Arglwydd: yna y bydd llaw’r Arglwydd yn eich erbyn chwi, fel yn erbyn eich tadau.

16Sefwch hefyd yn awr, a gwelwch y peth mawr hyn, yr hwn a wnaiff ’r Arglwydd o flaen eich llygaid chwi.

17Onid cynhaiaf gwenith heddyw? galwaf ar yr Arglwydd, ac efe a ddyru darânau, a glaw: yna gwybyddwch a gwelwch, mai mawr eich drygioni chwi, yr hwn a wnaethoch yng-olwg yr Arglwydd, am geisio i chwi frenin.

18Felly y galwodd Samuel ar yr Arglwydd, a’r Arglwydd a roddes darânau, a glaw y dydd hwnnw: fel yr ofnodd yr holl bobl yr Arglwydd, a Samuel yn ddirfawr.

19A’r holl bobl a ddywedasant wrth Samuel, gweddia tros dy weision at yr Arglwydd dy Dduw, fel na byddom feirw: canys chwanegasom ddrygioni ar ein holl bechodau wrth geisio i ni frenin.

20Yna y dywedodd Samuel wrth y bobl, nac ofnwch, (chwi a wnaethoch yr holl ddrygioni hyn: etto na chiliwch oddi ar ôl yr Arglwydd, onid gwasanaethwch yr Arglwydd a’ch holl galon.

21(Ie na chiliwch, canys ar ôl oferedd y rhai ni lesânt, ac ni’ch gwaredant canys oferedd hwy. )

22Canys ni wrthyd yr Arglwydd ei bobl er mwyn ei enw mawr ef: o herwydd yr Arglwydd a ewyllysiodd eich gwneuthur chwi yn bobl iddo ef ei hun.

23Minne hefyd, na atto Duw i mi bechu yn erbyn yr Arglwydd, a pheidio a gweddio trossoch: eithr dyscaf chwi yn y ffordd dda ac inion.

24Er hynny ofnwch yr Arglwydd, a gwasanaethwch ef mewn gwirionedd a’ch holl galon, canys gwelwch morr fawredic y gwnaeth a chwi.

25Ond os dilynwch ddrygioni, chwi hefyd a’ch brenin a ddifethir.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help