Psalmau 49 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. xlix.Audite hæc omnes.Psalm at y pen-cerdd o feibion Corah.

1Clywch hyn yr holl bobloedd, gwrandewch holl drigolion y bŷd.

2Yn gystal gweryn a boneddigion, cyfoethog a thlawd yng-hyd.

3Fyng-enau a draetha ddoethineb: a myfyrdod fyng-halon ddeall.

4Gostyngaf fyng-hlust at ddihareb, fy nammeg a ddatganaf gyd a’r dêlyn.

5Pa ham yr ofnaf yn amser adfyd, ymgylchyno anwiredd fy sodlau i?

6Rhai a ymddyriedant yn eu golud: ac a ymffrostiant yn lluosogrwydd eu cyfoeth.

7Gan warêdu ni wareda neb frawd: ni all efe roddi iawn trosto ef i Dduw.

8(Canys gwerth-fawr yw prynniad eu henaid, fel y gorfyddo peidio byth.

9Fel y byddo efe byw byth, ac na welo’r bedd,

10Canys efe a wêl fod y doethion yn meirw, y cyd-dderfydd am ffôl, ac ynfyd: ac y gadawant eu golud i eraill:

11Eu meddwl eu tai yn dragywydd, ai trigfeudd hyd genhedlaeth, a chenhedlaeth: yr henwasant eu henwau eu hun ar eu tiroedd.

12Eithr nid erys dŷn mewn anrhydedd: tebyg yw i anifeiliaid a ddifethir.

13Dymma eu ffordd yn ynfydrwydd iddynt: etto eu hiliogaeth ydynt fodlon iw hymadrodd.Selah.

14Fel defaid y gosodir hwynt yn vffern, angeu a ymborth arnynt: a’r rhai cyfiawn ai llywodraethant arnynt y boreu: ai tegwch i ddarfod i’r bedd oi cartref.

15Etto Duw a wared fy enaid o feddiant vffern: canys efe a’m derbyn i.Selah.

16Nac ofna pan gyfoethogo vn, pan chwanego gogoniant ei dŷ ef.

17Canys wrth farw ni ddŵg efe ddim, ac ni ddescyn ei ogoniant ar ei ôl ef.

18O herwydd yn ei fyw iddo wneuthur yn fawr am ei enioes: can-molant dithe o byddi ddâ wrthit dy hun.

19Efe a aiff at genhedloedd ei dâdau, ni welant oleuni byth.

20Dŷn mewn anrhydedd, ac heb ddeall a gyffelybir i anifeiliaid a ddifethir.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help