2.Cronicl 1 - William Morgan Bible 1588 original edition

PENNOD. I.Salomon yn offrymmu yn Gibeon, 8 Yn gweddio hefyd am ddoethineb, 11 Ac yn cael hynny, a chwaneg. 14 Nifer meirch, a cherbydau Salomon: a lluosogrwydd ei olud ef.

1Yna Salomō mab Dafydd a ymgadarnhaodd ar ei orseddfaingc, 1.Bren.2.46.a’r Arglwydd ei Dduw ef gyd ag ef, ac ai derchafodd ef yn vchel.

2A Salomon a ddywedodd wrth holl Israel, wrth dywysogion y miloedd, a’r cantoedd, ac wrth y barn-wŷr, ac wrth bob pennaeth yn holl Israel y penau cennedl.

3Felly Salomon a’r holl dyrfa gyd ag ef a aethant i’r 1.Bren.3.4.vchelfa yr hon yn Gibeon canys yno’r oedd pabell cyfarfod Duw, yr hon a wnelse Moses gwâs yr Arglwydd yn yr anialwch.

4Eithr Arch Dduw a ddugase Dafydd i fynu o Ciriath-iearim i’r a ddarparase Dafydd iddi: canys efe a estynnase iddi hi babell yn Ierusalem.

5Hefyd yr allor brês yr hon a wnelse Bezaleel mab Uri, Exod.38.1.fab Hur yno o flaen pabell yr Arglwydd: a Salomon a’r dyrfa ai hargeisiodd hi.

6A Salomon a offrymmodd yno ar yr allor brês ger bron yr Arglwydd yr hon ym mhabell y cyfarfod: a 1.Bren.3.4.mil o boeth offrymmau a offrymmodd efe arni hi.

7Y nosson honno’r ymddangosodd Duw i Salomon, ac y dywedodd wrtho ef, gofyn yr hyn a roddaf i ti.

8Yna y dywedodd Salomon wrth Dduw, ti a wnaethost fawr drugaredd a’m tâd Dafydd, ac a wnaethost i mi deyrnasu yn ei lê ef:

9Yn awr ô Arglwydd Dduw, siccrhaer dy air wrth fy nhâd Dafydd, canys gwnaethost i mi deyrnasu ar bobl mor lluosog a llwch y ddaiar.

10Yn awr dyro i mi ddoethineb, a gŵybodaeth, fel yr elwyf allan, ac y delwyf i mewn o flaen y bobl hyn: canys pwy a ddichon farnu y bobl luosog hyn?

11Yna y dywedodd Duw wrth Salomon, o herwydd bod hyn yn dy feddwl di, ac na ofynnaist gyfoeth, golud, na gogoniant, nac enioes dy elynnion, ac na ofynnaist lawer o ddyddiau ychwaith, eithr gofyn o honot ddoethineb, a gwybodaeth, fel y llywodraethit fy mhobl y rhai i’th osodais yn frenin arnynt:

12Doethineb, a gwybodaeth a roddwyd it, cyfoeth hefyd, a golud, a gogoniant a roddaf it, y rhai ni bu eu cyffelyb gan y brenhinoedd y rhai o’th flaen di, ac ni bydd eu cyffelyb ar dy ôl di.

13A Salomon a ddaeth o’r vchelfa’r hon yn Gibeon i Ierusalem oddi ger bron pabell y cyfarfod, ac a deyrnasodd ar Israel.

14A* Salomon a gasclodd gerbydau, a marchogion, ac yr oedd ganddo ef fîl, a phedwar cant o gerbydau, a deuddeng-mil o wŷr meirch, ac efe ai gosododd hwynt yn ninasoedd y cerbydau, ac yn Ierusalem gyd a’r brenin.

15A’r brenin a roddodd arian, ac aur yn Ierusalem fel cerric, a chedr-wŷdd a roddes efe fel ffigus-wŷdd gwylltion o amldra, y rhai ydynt yn tŷfu yn y dol-dir.

16A 1.Bren.10.28.dyfodiad y meirch y rhai oedd gan Salomon oedd o’r Aipht, felly y Esa. 19 9.|ISA 19:9. Ezec.27.7.gweoedd: marchnadwŷr y brenin a gymmerent wêoedd am werth.

17Canys deuent i fynu, a dygent o’r Aipht cerbyd am chwe chant o arian: sef march am gant a hanner, ac felly y dygent i holl frenhinoedd yr Hethiaid, ac i frenhinoedd Syria gyd a hwynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help