Hebræaid 2 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. II.Eiriol arnom y mae efe fod yn vfydd i’r ddeddf newydd, yr hon a roes Crist i ni, 9 ac na rwystrer ni o herwydd gwendid, ac isel-radd Crist, 10 can fod yn anghenrheidiol iddo er ein mwyn ni gymmeryd y cyfryw ddistadl gyflwr arno, fel y bydde debyg iw frodyr.

1Am hynny rhaid i ni ystyried yn well y pethau a glywsom, fel na ollyngom ni hwynt vn amser i golli.

2Canys os cadarn oedd y gair a ddodwyd trwy angelion, ac os derbyniodd pob camwedd, ac anufydd-dod gyfiawn daledigaeth,

3Pa fodd y diangwn ni, os esceuluswn iechydwriaeth gymmaint, yr hon wedi dechreu ei thraethu trwy’r Arglwydd ei hun, a siccrhâwyd ini gan y rhai a fuasent yn gwrando:

4Trwy fod Mar.16.20.Duw yn testiolaethu gyd â hwynt drwy arwyddion, a rhyfeddodau, ac ymrafael rinweddau, a chyfranniad yr Yspryd glan, yn ôl ei ewyllys ei hun.

5Canys nid i’r angelion y darostyngodd efe y byd a ddaw, yr hwn yr ydym yn llefaru am dano

6Eithr vn Psal.8.4.mewn rhyw fan a ddwg destiolaeth gan ddywedyd, beth yw dŷn, i ti iw goffau? neu fab dyn i ti i ym weled ag ef?

7Ti a’i gwnaethost ef ychydig yn îs nâ’r angelion: â gogoniant ac anrhydedd y coronaist ef, ac a’i gosodaist ef yn llywydd ar weithredoedd dy ddwylo.

8 Math.28.18.|MAT 28:18. 1.cor.15.27.|1CO 15:27. phil.2.9.10.11. Pob peth a ddarostyngaist tann ei draed ef, am hyn, gan ddarostwng o honaw bob peth iddo, ni adawodd efe ddim heb ei ddarostwng iddo, eithr etto nid ydym yn gweled pob peth yn ostyngedic iddo.

9Eithr yr ydym ni yn gweled yr Iesu wedi ei goroni â gogoniant ac anrhyddedd, yr hwn a wnaed ychydig is nâ’r angelion, o herwydd dioddefaint marwolaeth fel y bydde iddo ef trwy râs Duw, brofi marwolaeth tros bawb.

10Canys gweddus oedd iddo ef, o herwydd pwy y mae pob peth, a thrwy’r hwn y mae pob peth, wedi iddo ddwyn llawer o feibion i ogoniant, berffeithio pēnadur eu hiechydwriaeth hwynt trwy ddiodefaint.

11Canys y sancteiddudd a’r rhai sancteiddiedic o’r vn y maent oll, am ba achos nid yw gywilyddus ganddo eu galw hwynt yn frodyr,

12Gan ddywedyd, Psal.22.22.myfi a ddangosaf dy enw di i’m brodyr, yng-hanol yr eglwys i’th folaf di.

13A thrachefn, Psal.18.2. 1.cor.15.55.mi a ddodaf fy ymddyried ynddo, a thrachefn wele fi, a’r plant a roddes Duw i mi.

14Am hynny gan fod y plant yn gyfrannogion o gîg a gwaed, yntef hefyd yr vn modd a wnaethbwyd yn gyfrannog o’r vn rhyw, fel y galle efe trwy farwolaeth ddinistrio y neb yr ydoedd iddo lywodraeth ar farwolaeth sef diafol,

15Ac fel y galle efe eu gwared hwynt oll, y rhai gan ofn marwolaeth tros eu holl fywyd ydynt cann gaethiwed.

16Nid yr angelion eusus a gymmerodd efe ddim: eithr hâd Abraham a gymmerodd efe.

17Am ba achos y dyle efe ym mhob peth fod yn gyffelyb iw frodyr, fel y galle fod yn arch-offeiriad trugarog a ffyddlon am y pethau a berthynent i Dduw, i ryglyddu bodd am bechodau y bobl.

18O blegit yn gymmaint a dioddef o honaw ef, pan ei temptiwyd, efe a ddichon gynnorthwyo y rhai a demtir.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help