Darn o lyfr Esther 16 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XVI.Llythyrau Artaxerres i ddiddymmu y llythyrau y rhai a yrrase efe o’r blaen i beri difetha yn Iddewon.

1Y Brenin mawr Artaxerxes ar y rhai ydynt yn bennaethiaid, ac yn dywysogion, ac yn gynghorion i ni o Iudia hyd Ethiopia ([sef] ar gant a saith ar hugain o wledydd) yn anfon annerch.

2Llawer wedi eu mynych anrhydeddu trwy fawr ddaioni gweithredwŷr da, a aethant yn falchach, ac ydynt yn ceisio nid yn vnic ddryguem deiliaid ni: eithr hefyd (am na fedrant fyw mewn digonedd) y maent hwy yn ceisio dychymig niwed yn erbyn y rhai a wnaeth ddaioni iddynt hwy.

3Ac y maent nid yn vnic yn tynnu diolch­garwch o blith dynion, eithr hefyd gan ymmderchafu mewn balchder fel rhai heb ŵybod oddi­wrth ddaoni, y maent yn ancanu diangc gan farn Dduw, yr hwn sydd yn gweled pob peth sydd gâs ganddi ddrygioni.

4Llawer gwaith y mae y cyssur yn amgylchu ag anfad drueni lawer o’r rhai ydynt wedi eu gosod mewn awdurdod, y rhai y credwyd iddynt am lywodraethu matterion cyfeillion gan eu gwneuthur yn euog o waed gwi­rion: am eu bod trwy gelwyddog dwyll dryg­foes yn twyllo difalis ewyllys da eu llywodraeth-wŷr.

5Ac y mae ystyried nid yn gymmaint o’r hen hystoriau (fel y dywedasom ni) pa faint sydd tan ein traed ni (os ni ai ceisiwn hwynt) wedi eu gwneuthur yn annuwiol trwy echrys y rhai oeddynt yn llywodraethu yn anheilwng.

6Ac edrych am y pethau fyddant ar ôl hyn, fel y gallom beri y deyrnas yn ddidrallod ar yn heddychol i bôb dŷn.

7Gan arfer cyfnewidiadau, ac ystyried y pethau sy yn dyfod mewn golwg, trwy achub blaen yn gyfiawn.

8O herwydd megis y cafodd Aman mab A­madathus y Macedoniad (yr hwn mewn gwirioned oedd Estron i waed y Persiaid a phell oddi wrth ein daioni ni) wedi ei dderbyn i ymdaith gyd â ni yr addfwynder sydd gennym ni i bôb cenedl, fel y gelwid ef yn dad i ni, ai addoli gan bawb megis yr ail i orseddfa y brenin:

9Am na fedre efe ochelyd balchder, efe a geisiodd ein diddymmu ni o’r dywysogaeth, ac o’n henioes hefyd,

10Ac a geisiodd trwy lawer o ffyrdd twyllodrus ddifetha Mardocheus yr hwn a’n hachu­base ni ac ym mhob peth a wnaethe ddaioni, ac Esther yr hon sydd gyfrannog o’r deyrnas, ac yn ddifai yng-hyd ai holl genedl. O blegit fel hyn y meddyliodd efe ein cael ni yn vnic, a dwyn llywodraeth y Persiaid i’r Macedoniaid.

11Ac yr ydym ni yn cael, fod yr Iddewon yn ddiddrwg y rhai a rhoddase y dinistrudd iw difetha, ai bôd hwynt yn arfer cyfreithiau o’r goref, ac yn blant i’r Duw buw goruchaf a mwyaf, yr hwn a gyfarwyddodd y deyrnas i ni, ac i’n rhieni mewn trefn o’r oref.

12Am hynny y gwnewch yn dda os chwi nid arferwch y llythyrau y rhai a anfonodd Aman mab Amadathus.

13O herwydd fe a grogwyd yr hwn a wnaeth hyn (yng-hyd ai holl dylwyth) o flaen pyrth Sisis trwy fod Duw llywydd pôb peth yn talu iddo yn fuan addas farn.

14Eithr gan osod copi o’r llythr hwn ym mhob lle, gadewch i’r Iddewon arfer eu cyfraith mewn rhydd-did,

15A chynnorthwywch hwynt, fel y gallont y trydydd dydd ar ddêc o Adar y deudecfed mîs ar yr vn dydd ddial ar y rhai a osodwyd arnynt hwy yn amser eu cystudd, o blegit Duw llywydd pôb peth yn lle dinistr y genedl etholedig a wnaeth iddynt y llawenydd hyn.

16Cedwch chwithau yng-hyd â phob llawenydd yn ddydd vchel ym mysc eich vchel wyliau, fel y byddo iechydwriaeth yn awr, ar wedi hyn i ni, ac i’r Persiaid da eu hewyllys, a choffadwriaeth dinistr i’r rhai sy yn cynllwyn i’n herbyn ni.

17A phob dinas a gwlad yn hollawl yr hon ni wnelo fel hyn a ddifethir â gwaiwffyn, ac a thân, ac â llid, fel y gosoder hi byth yn anhyffordd, ac yn atcas nid yn vnic i ddynion eithr i fwyst-filod hefyd, ac adar.

Terfyn Darn llyfr Esther.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help