1Arglwydd yn dy nerth y llawenycha y brenin: ac yn dy iechydwriaeth yr ymhyfryda efe yn dirfawr.
2Deisyfiad ei galon a roddaist iddo: a dymuniad ei wefusau ni’s gommeddaist.Selah.
3Canys achubaist ei flaen ef â bendithion daioni: gosodaist ar ei ben ef goron o aur coeth.
4Gofynnodd oes gennit: rhoddaist iddo hir-oes byth ac yn dragywydd.
5Mawr ei ogoniant yn dy iechydwriaeth: gosodi arno ogoniant a phrydferthwch.
6Canys gosodi ef yn fendithion tragywyddôl, llawenychi ef â llawenydd dy wyneb.
7O herwydd bod y brenin yn ymddyriet yn yr Arglwydd, ac yn-hrugaredd y Goruchaf, ni lithr efe.
8Dy law a gaiff allan dy holl elynnion: dy ddeheu-law a gaiff allan dy gaseion.
9Gosodi hwynt fel ffwrn danllyd yn amser dy lid: yr Arglwydd yn ei ddigllonedd ai difa hwynt, a’r tân ai hyssa hwynt.
10Eu ffrwyth hwynt a ddinistri di oddi ar y ddaiar: ai hâd o blith meibion dynnion.
11Canys bwriadasant ddrwg i’th erbyn: meddyliasant amcan heb allu o honynt
12Canys gosodi hwy du: yn dy linynnau y paratoi di yn erbyn eu hwynebau.
13Ymddercha Arglwydd yn dy nerth: canwn, a chan-molwn dy gadernid.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
