Psalmau 29 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. xxix.Afferte Domino filij Dei.Psalm Dafydd.

1Moeswch i’r Arglwydd feibion cedyrn: moeswch i’r Arglwydd ogoniant, a nerth.

2Moeswch i’r Arglwydd ogoniant ei enw: addolwch yr Arglwydd ym mhrydferthwch gyssegr.

3Llef yr Arglwydd ar y dyfroedd, Duw y gogoniant a darâna: yr Arglwydd ar y dyfroedd mawrion.

4Llef yr Arglwydd mewn grym: llêf yr Arglwydd mewn prydferthwch.

5Llef yr Arglwydd sy yn dryllio y cedr-wŷdd: îe dryllia’r Arglwydd cedr-wŷdd Libanus.

6Efe a wna iddynt lammu fel llô: Libanus a Syrion fel llwdn vnicorn.

7Llef yr Arglwydd a wascara y fflammau tân.

8Llef yr Arglwydd a ddychryna yr anialwch: yr Arglwydd a ddychryn anialwch Cades.

9Llef yr Arglwydd a wnaeth i’r ewîgod lydnu, ac a ddinoethodd y coedydd: gan hynny ei holl yn ei Deml ef a draethant ei ogoniant.

10Yr Arglwydd sydd yn eistedd ar y llifeiriant, yr Arglwydd hefyd a eistedd yn Frenin yn dragywydd.

11Yr Arglwydd a ddyru nerth iw bobl: yr Arglwydd a fendithia ei bobl â thangneddyf.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help