Iob 19 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XIX.Iob yn ymescusodi wrth ei gyfeillion, 7 Yn cwyno rhac maint digofaint Duw yn ei erbyn ef, 21 Yn annog ei gyfeillion i dosturio wrtho ef, 25 Ac yn cymmeryd mawr gyssur o adgyfodiad y meirw.

1Ac Iob a atebodd, ac a ddywedodd,

2Pa hyd y cystuddiwch fy enaid? ac y blinwch fi â geiriau?

3Deng-waith i’m gwradwyddasoch, ac nid cywilydd gennych ymgaledu o honoch i’m herbyn.

4Hefyd pe wîr bechu o honofi yn amryfus: gyd a mi y trige fy amryfusedd.

5Yn wîr os ymfawrygwch yn fy erbyn, ac dannodwch fyng-wradwydd i mi,

6Gwybyddwch yn awr mai Duw a’m rhwystrodd i, ac a’m rhwydodd.

7Os llefaf trawster ni’m attebir: gwaeddaf ni farn.

8Efe a gaeodd fy ffordd fel nad elwyf trosodd: wele y mae efe yn gosod tywyllwch ar fy llwybrau.

9Efe a ddioscodd fyng-ogoniant oddi am danaf: ac a ddygodd ymmaith goron fy mhen.

10Y mae efe yn fy nestruwio oddi amgylch ac yr ydwyf yn myned ymmaith: ac efe a symmudodd fyng-obaith fel pren.

11Gwnaeth hefyd iw ddigofaint gynneu yn fy erbyn: ac a’m cyfrifodd iddo ei hun fel elynnion.

12Ei dorfoedd ef a ddaethant yng-hyd: ac a balmantasant eu ffyrdd yn fy erbyn: ac a werssyllasant o amgylch fy mhabell.

13Efe a bellhâodd fy mrodyr oddi wrthif: y rhai oeddynt yn fy adnabod hefyd a ymddieithriasant oddi wrthif.

14Fyng-hyfnesaf a beidiasant a’r rhai oedd o’m cydnabod a’m anghofiasant.

15Y rhai oedd yn trigo yn fy nhŷ, a’m morwynion sy’n fyng-hyfrif yn ddieithr: alltud ydwyf yn eu golwg hwy.

16Gelwais ar fyng-wasanaeth-wr, ac nid attebe efe, ac ymbiliais ag ef a’m genau.

17Dieithr oedd fy anabl i’m gwraig: er ymbil o honof er mwyn fy mhlant cnawdol.

18Plant hefyd a’m diystyrant: godwyf, dywedant i’m herbyn.

19Fy holl gyfrinach-wŷr sy’n fy ffieiddio: a’r rhai a gerais a droesant yn fy erbyn.

20Fy escyrn a lynodd wrth fyng-hroen, ac wrth fyng-nhawd: â chroen fy nannedd yn vnic y diengais i.

21Trugarhewch wrthif, trugarhewch wrthif chwychwi fyng-hyfeillion: canys llaw Dduw a gyffyrddodd a mi.

22Pa ham yr ydych chwi yn fy erlid i fel Duw? heb gael digon ar fyng-nhawd?

23Oh nad yscrifennid fyng-eiriau yn awr: ô na orgrephid hwynt mewn llyfr.

24Oh nad scrifennid hwynt mewn carreg dros byth: a phin o haiarn, ac a phlwm.

25Ond myfi a wn fod fy mhryn-wr yn fyw ac y cyfodir o’r diwedd ar y ddaiar.

26Ac wedi gwisco fyng-hroen hwn y caf fi weled Duw yn fyng-nhawd.

27Yr hwn a gaf fi fy hun ei weled: a’m llygaid ai gwelant ac nid arall: i’m arennau ddarfod ynof.

28Eithr chwi a ddylech ddywedyd, pa ham yr erlidiwn ef? canys gwreiddin gair a gaed ynof.

29Ofnwch am danoch rhac y eleddyf, canys digofaint yn erbyn anwireddau y cleddyf: fel y gwybyddech barn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help