1.Brenhinoedd 13 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XIII.Llaw Ieroboam yr hon a estynnase efe yn erbyn y prophwyd yr hwn a ddaethe iw geruddu ef yn gweuwo. 24 A llew yn lladd y prophwyd hwnnw am ei annufydd-dod yntef i Dduw.

1Ac wele gŵr Duw a ddaeth o Iuda drwy air yr Arglwydd i Bethel: ac Ieroboam yn sefyll wrth yr allor i arogldarthu.

2Ac efe a lefodd yn erbyn yr allor, drwy air yr Arglwydd ac a ddywedodd, ô allor allor fel hyn y dywedodd yr Arglwydd: wele mâb a enir i dŷ Dafydd, aienw 2 Bren.13.17.Iosia, ac efe a abertha arnat ti offeiriaid yr vchelfeudd y rhai ydynt yn arogldarthu arnat ti, a hwynt a loscant escyrn dynion arnat i.

3Ac efe a roddes arwydd y dwthwn hwnnw gan ddywedyd, dymma’r argoel yr hwn a lefarodd yr Arglwydd: wele’r allor a rwygir, a’r lludw’r hwn arni hi a dywelltir.

4A phan glybu y brenin air gŵr Duw yr hwn a lefodd efe yn erbyn yr allor yn Bethel, yna Aerohoam a estynnodd ei law oddi ar yr allor gan ddywedyd, deliwch ef: a diffrwythodd ei law ef yr hon a estynnase efe yn ei erbyn ef, fel na alle efe ei thynnu hi atto.

5Yr allor hefyd a rwygodd, a’r ludw a dywalltwyd oddi ar yr allor: yn ôl yr argoel yr hwn a roddase gŵr Duw drwy air yr Arglwydd.

6Yna’r brenin a attebodd, ac a ddywedodd wrth ŵr Duw, gweddia attolwg ger bron yr Arglwydd dy Dduw ac ymbil trosofi fel y dychwelo fy llaw attafi: a gŵr Duw a weddiodd ger bron yr Arglwydd, a llaw’r brenin a ddychwelodd atto ef, ac a fu fel cynt.

7Yna’r brenin, a ddywedodd wrth ŵr Duw, tyret adref gyd a mi a chynniawa: ac mi

8A gŵr Duw a ddywedodd wrth y brenin, pe rhoddit i mi hanner dy dŷ di, ni ddeuwn i gyd a thi, ac ni fwytawn fara, ac ni yfwn ddwfr yn y fan hon.

9Canys fel hyn y gorchymynnwyd i midrwy air yr Arglwydd gau ddywedyd, na fwytta fara, ac nac ŷf ddwfr: na ddychwel ychwaith ar hyd y ffordd yr hon y daethost.

10Felly efe a aeth ymmaith ar hyd ffordd arall: ac ni ddychwelodd efe rhyd y ffordd yr hon y daethe efe ar hyd-ddi i Bethel.

11Ac yr oedd rhyw hen brophwyd yn trigo yn-Bethel: ai feibion ef a ddaethant, ac a fynegasant iddo yr holl waith a’r a wnelse gŵr Duw y dydd yn Bethel, ac hwy a fynegasant iw tad y geiriau y rhai a lefarase efe wrth y brenin.

12Ai tand a ddywedodd wrthynt, pa ffordd yr aeth efe? ai feibion ef a ddangosasant, y ffordd yr aethe gŵr Duw yr hwn a ddaethe o Iuda.

13Ac efe a ddywedodd wrth ei feibion, cyfrwych i mi’r assyn: a hwynt a gyfrwyasant iddo’r assyn ac efe a farchogodd arni hi.

14Ac efe a aeth ar ôl, gŵr Duw, ac ai cafodd ef yn eissedd tān dderwen ac a ddywededd wrtho ai ty di gŵr Duw, yr hwn a ddaethost o Iuda? ac afe a ddywedodd, myfi.

15Yna efe a ddywedodd wrtho ef, tyret adref gyda mi, a bwytta fara.

16Yntef a ddywedodd ni allaf ddychwelyd gyd a thi, na dyfod gyd a thi: na bwytta bara ychwaith, nac yfed dwfr gyd a thi yn y fan hon.

17Canys gair attafi drwy ymadrodd yr Arglwydd na fwytta fara, ac nac yf ddwfr yno: na ddychwel gan fyned drwy’r ffordd yr hon yr aethost ar hyd-ddi.

18Dywedodd yntef wrtho ef, prophwyd hefyd fel tithe, ac angel a lefarodd wrthif drwy air yr Arglwydd gan ddywedyd, dychwel ef gyd a thi i’th dy, fel y bwyttao fara, ac yr yfo ddwfr: ( efe a ddywedodd gelwydd wrtho ef)

19Felly efe a ddychwelodd gyd ag ef, ac a fwyttaodd fara yn ei dŷ ef, ac a yfodd ddwfr.

20A phan oeddynt hwy yn eistedd wrth y bwrdd: yna y daeth gair yr Arglwydd at y prophwyd yr hwn a barase iddo ef ddychwelyd.

21Ac efe a lefodd ar ŵr Duw’r hwn a ddaethe o Iuda gan ddywedydd, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd: o herwydd it annufyddhaui air yr Arglwydd, ac na chedwaist y gorchymyn yr hwn a orchymynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti,

22Eithr dychwelaist, a bwytteaist fara, ac yfaist ddwfr yn y lle yr hwn y dywedodd wrthit ti, na fwytta fara, ac nac yf ddwfr: nid aiff dy gelain di i feddrod dy dadau.

23A phan ddarfu iddo ef fwytta bara, ac wedi iddo yfed: yna efe a gyfrwyodd iddo’r assyn i’r prophwyd yr hwn a barase efe iddo ddychwelyd.

24Pan aeth efe ymmaith, yna llew ai cyfarfu ef ar y ffordd, ac ai lladdodd ef: a bu ei gelain ef wedi ei bwrw ar y ffordd, a’r assyn oedd yn sefyll yn ei ymyl ef, a’r llew yn sefyll wrth y gelain.

25Ac wele wŷr yn myned heibio, ac a ganfuant y gelain wedi ei thaflu ar y ffordd, a’r llew yn sefyll wrth y gelain: a hwy a ddaeethant, ac a adroddasant yn y ddinas yr hon yr oedd yr henn brophwyd yn aros ynddi.

26Pan glybu y prophwyd yr hwn a barase iddo ef ddychwelyd o’r ffordd, yna efe a ddywedodd, gŵr Duw efe yr hwn a annufyddhaodd air yr Arglwydd: am hynny’r Arglwydd ai rhoddodd ef i’r llew, fel y dryllie efe ef, ac y lladde ef, yn ôl gair yr Arglwydd yr hwn a lefarodd efe wrtho ef.

27Ac efe a lefarodd wrth ei feibion gan ddywedyd. cyfrwywch i mi’r assyn: a hwy ai cyfrwyasant.

28Yna efe a aeth, ac a gafodd ei gelain ef wedi ei thaflu ac y ffordd a’r assyn, a’r llew yn sefyll wrth y gelain, ac ni fwyttase y llew mo’r gelain, ac ni ddrylliase efe yr assyn.

29A’r prophwyd a gymmerth gelain gŵr Duw, ac ai gosododd hi ar yr assyn ac ai dug yn ei hôl: a’r hên brophwyd a ddaeth i’r ddinas i alaru, ac iw gladdu ef.

30Ac efe a osododd ei gelain ef yn ei feddrod ei hun: a hwy a alarasant am dano ef, ôh fy mrawd.

31Ac wedi iddo ei gladdu ef, yna y llefarodd efe wrth ei feibion gan ddywedyd, pan fyddwyf farw cleddwch finne hefyd yn y bedd yr hwn y claddwyd gŵr Duw ynddo: gosodwch fy escyrn i wrth ei escyrn ef.

32Canys diammau y bydd y peth yr hyn a lefodd efe drwy air yr Arglwydd yn erbyn yr allor yr hon yn Bethel: ac yn erbyn holl dai’r vchelfeudd, y rhai yn ninasoedd Samaria.

33Wedi’r peth hyn ni ddychwelodd Ieroboam oi ffordd ddrygionus: onid efe a drodd eilwaith, ac a wnaeth o wehilion y bobl offeiriaid i’r vchelfeudd: y neb a fynne a ymgyssegre, ac a gai fod yn offeiriad i’r vchelfeudd.

34Ac o herwydd y peth hyn y bu tŷ Ieroboam yn bechod: iw ddiwreiddid hefyd, ac iw ddeleu oddi ar ŵyneb y ddaiar.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help