1Pwy a ddyru fy mhen yn ddwfr, a’m llygaid yn ffynnon o ddagrau? Ier.4.19.fel yr wylwyf ddydd a nôs, am laddedigion merch fy mhobl i.
2Oh na bydde i mi mewn anialwch lettŷ fforddolion, fel y gadawn fy mhobl, ac yr elwn oddi wrthynt, canys hwynt oll odinebus chymanfa anffyddloniaid.
3Ac hwy a annelasant eu tafod eu bwa celwyddoc, ac nid at wirionedd yr ymgryfhasant ar y ddaiar: canys aethant o ddrwg i ddrwg, ac nid adnabuant mo honofi medd yr Arglwydd.
4Gocheled pawb rhag ei gymmydog, ac na choelied neb ei frawd: canys pôb brawd gan dwyllo a dwylla, a phob cymydog a rodia yn dwyllodrus.
5Pôb vn hefyd a dwylla ei gyfaill, a’r gwîr ni’s dywedant: hwy a ddyscasant eu tafodau i ddywedyd celwydd, poenasant yn gwneuthur drwg.
6Dy drigfan di yng-hanol twyll: o herwydd twyll y gwrthodasant fy adnabod i medd yr Arglwydd.
7Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd: wele fi yn eu toddi hwynt, ac yn eu profi hwynt, canys pa wedd y gwnaf rhac merch fy mhobl?
8Saeth lem Psal.28.3. psal.120.4yw eu tafod hwy yn dywedyd twyll, âi enau y heddwch wrth ei gymydog, eithr oi fewn y gesyd gynllwyn iddo.
9Onid ymwelaf â hwynt am hyn medd yr Arglwydd? oni ddial fy enaid ar gyfryw genhedlaeth a hon?
10Ar y mynyddoedd y codaf ŵylofain, a chwynfan, a galar ar lannerchau yr anialwch: canys lloscwyd hwynt fel na thrammwyo neb ynddynt, ac na chlywir llais yscrubliaid: adar y nefoedd, a’r anifeiliaid hefyd a giliant, ac a ânt ymmaith.
11Ac mi a roddaf Ierusalem yn garneddau, trigfan dreigiau, a dinasoedd Iuda a roddaf yn ddiffaethwch heb bresswyludd.
12Pa ŵr ddoeth, ac a ddeall hynn? ac a fynega yr hyn a draethodd genau yr Arglwydd wrtho ef? pa ham y darfu am y tîr? yr anrheithiwyd fel anialwch, heb gynniwerudd?
13A dywedodd yr Arglwydd, gan wrthod o honynt fyng-hyfraith yr hon a roddais ger eu bron hwynt, ac na wrandawsant ar fy llef na rhodio ynddi:
14Eithr myned yn ôl cyndynrwydd eu calon, ac yn ôl Baalim, yr hyn a ddyscodd eu tadau iddynt,
15Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, wele mi a fwydaf y bobl hyn a’r wermod, ac ai diodaf hwynt â Ierem.8.14.dwfr bustlaidd.
16Gwascaraf hwynt hefyd ym mysc cenhedloedd ni’s adwaenant hwy, nai tadau hwy, ac mi a ddanfonaf ar eu hôl hwynt gleddyf hyd oni ddifethwyf hwynt.
17Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, edrychwch, a gelwch am alar-wragedd i ddyfod, a danfonwch at y rhai cyfarwydd i beri iddynt ddyfod,
18A bryssio, a chodi cwynfan am danom ni fel y gollyngo ein llygaid ni ddagrau, ac y difero ein amrantau ni o ddwfr.
19Canys llais cwynfan a glywyd o Sîon pa wedd i’n anrheithiwyd, ac i’n llwyr-wradwyddwyd? canys gadawon y tîr, am fwrw o honynt ein hanneddau
20Am hynny gwrandewch air yr Arglwydd wragedd, a derbynnied eich clustiau air ei enau ef: dyscwch hefyd gwynfan i’ch merched, a galar bôb vn iw gilydd.
21O herwydd dringodd angeu i’n ffenestri, efe a ddaeth i’n palasau i ddestruwio y rhai bychain oddi allan a’r gwŷr ieuaingc o’r heolydd.
22Dywet, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, scrydau dynnion a syrthiant megis tom ar wyneb y maes, ac megis y dyrned ar ôl y medel-wr, ac ni chynnull
23Fel hyn y dywed yr Arglwydd, nac ymffrostied y doeth yn ei ddoethineb, ac nac ymffrostied y cryf yn ei gryfder, ac nac ymffrostied y cyfoethog yn ei gyfoeth.
24 1.Cor.1.31. 2.Cor.10.17 Eithr y neb a ymffrostio, ymffrostied am hyn, yn deall, ac yn fy adnabod i, canys mifi ydwyf yr Arglwydd a wna drugaredd, barn, a chyfiawnder yn y ddaiar, o herwydd y rhai hynny a ewyllysiais, medd yr Arglwydd.
25Wele y dyddiau yn dyfod medd yr Arglwydd pan ymwelwyf â phob enwaededic mewn dienwaediad:
26A’r Aipht, ac ag Iuda, ac ag Edom, ac â meibion Ammon, ac â Moab, ac a’r rhai oll y torrwyd cwr eu llechwedd, a’r rhai a drigant yn yr anialwch: canys yr holl genhedloedd ddienwaededic, a holl dŷ Israel sydd â chalon ddienwaededic.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.