Ecclesiasticus 6 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VI.Y modd y mae dewis cyfaill, 18 a dilyn addysc.

1Na fydd elyn yn lle cyfaill, canys enw drwg a gaiff warth a gwradwydd yn etifeddiaeth: felly y caiff y pechadur dau-dafodioc ammarch.

2Na ymdderchaf yng-hynghor dy enaid dy hun, rhag llarpio dy enaid fel tarw.

3[Os] bwyttei di dy ddail ti a golli dy ffrwyth, ac a’th ollyngi dy hun fel pren erin.

4Enaid drygionus sydd yn difetha ei ber­chennog, ac yn ei wneuthur ei hun yn watwar­gerdd iw elynnion.

5Cêg felus sydd yn amlhau ei chyfeillion, a thafod ymadroddus sydd yn amlhau ymadroddion têg.

6Bydded llawer yn heddychu i ti, eithr dy gynghor-wŷr vn o fîl.

7Os meddienni gyfaill, meddianna ef mewn profedigaeth, ac nac ymddyriet ti dy hun iddo ef ar ffrwst.

8Canys y mae cyfaill tros ei amser ei hun, ac nid erys efe yn nydd dy drallod ti.

9Ac y mae cyfaill yr hwn a droir yn elyn, ac a ddadcuddio dy wradwyddus gynnen di.

10Ac y mae cyfaill yr hwn a fydd cyfrannog o’r bwrdd: Pen.37.5.eithr yn nydd dy drallod ti nid erys efe.

11Ac yn dy fyd da di, efe a fydd fel tithe, ac efe a fydd hŷ ar dylwyth dy dŷ di.

12Os darostyngir di, efe a fydd i’th erbyn di: ac a ymguddia o’th ŵydd di.

13Ymado a’th elynnion, a gochel dy gyfeillion,

14Amddeffyn cadarn yw cyfaill ffyddlon a’r hwn sydd yn ei gael ef sydd yn cael tryssor.

15Nid oes cyfnewidwerth i gyfaill ffyddlon, ac nid oes a gŷd bwyso ei degwch ef.

16Eli enioes yw cyfaill ffyddlon: a’r rhai sy yn ofni yr Arglwydd ydynt yn ei gael ef.

17Yr hwn sydd yn ofni yr Arglwydd sydd yn cyfarwyddo ei gyfeilach yn iniawn, ac fel y byddo efe y bydd ei gymmydog.

18Hafab dewis addysc o’th ieuengtid, a thi a gei ddoethineb hyd henaint.

19Ymaros hefyd am ei ffrwythau daionus hi.

20O blegit ychydig boen a gymmeri di yn ei gwaith hi, a buan y bwytei di oi chnwd hi.

21Mor chwerw odiaeth yw hi i’r annyscedig: a’r digalonnog nid erys ynddi hi.

22Megis maen prawf cryf ydyw hi iddo ef, ac nid oeda efe ei bwrw hi ymmaith.

23O blegit y mae doethineb yn ôl ei henw, ac nid yw hi amlwg i lawer.

24Gwrando hafab, a dewis fy marn i, ac na wrthot fyng-hyngor i: bwrw dy draed iw llyffetheiriau hi, a’th wddf iw chadwyn hi.

25Gostwng dy yscwyddau a dwg hi, ac na fydd elyn iw rhwymau hi.

26Tyret atti hi â’th holl enaid, a chadw ei ffyrdd hi â’th holl allu.

27Olrhain, a chais, a thi a gei ei hadnabod hi, a phan gaffech di afel, na ollwng hi.

28O blegit o’r diwedd ti a ger ei gorphywystra hi a a drŷ yn llawenydd i ti.

29Ai llyfetheiriau hi a fyddant i ti yn amddeffyn cadarn, ai chadwynau yn wîsc ogoneddus.

30O herwydd y mae arni hi wychter euraid, ai rhwymau ydynt snoden lâs.

31Fel gwisc ogoneddus y gwisci di hi, ac fel coron orfoleddus y gosodi di hi am danat.

32Os mynni mab ti a fyddi ddyscedig, ac os rhoddi dy feddwl, ti a fyddi gall.

33Os ceri di wrando, ti a dderbynt ddeall, ac os gostyngi di dy glust, ti a fyddi ddoeth.

34Saf ym mysc henuriaid, a’r neb doeth glŷn wrtho ef: Pen.8.9.myn glywed pob traethiad duwiol, ac na ddianged diharebion dehallus oddi gennit ti.

35Os gweli ŵr dehallgar cyfot yn foreu atto ef, a threulied dy droed ti rinniogau ei ddrws ef.

36Meddwl am orchymynnion yr Arglwydd yn berffaith, a Psal.1.2.3.myfyria ar ei orchymynnion ef bob amser, efe a siccrhâ dy galon di, a dymuniad doethineb a roddir i ti.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help