1A bu ddyddcwaith i Ionathan fab Saul ddywedyd wrth y llangc a oedd yn cludo ei arfau ef, tyret, ac awn trosodd at sefyllfa y Philistiaid yr hon o’r tû accw: ond ni fynegodd efo iw dâd.
2A Saul a arhosodd yng-hwrr Gibea tann pomgranad yr hwn ym Migron: a’r bobl y rhai gyd ag ef yng-hylch chwe chan-wr.
3Ac Ahia mab Ahitob frawd Pen.4.21Ichabod fab Phinees fab Eli offeiriad yr Arglwydd yn Silo oedd yn dwyn yr Ephod: ond ni wydded y bobl i Ionathan fyned ymmaith.
4A rhwng y bylchau lle ceisiodd Ionathan fyned trosodd at sefyllfa y Philistiaid yscithredd y graig o’r naill du i’r bwlch, ac yscithredd y graig o’r tu arall i’r bwlch: ac enw y naill Bozez, ac enwy llall Seneh.
5A safiad y naill yscithredd oddi wrth y gogledd tua Micmas, a’r llall oddi wrth y dehau tua Gibea.
6Yna y dywedodd Ionathan wrth y llangc yr hwn oedd yn dwyn ei arfau ef, tyret, ac awn trosodd at sefyllfa y rhai dienwaededic hyn, ond odid fe a weithia’r Arglwydd gyd a ni: canys nid rwystr i’r Arglwydd 2.Cron.14.11.waredu drwy lawer neu drwy ychydig.
7A chlududd ei arfau ef a ddywedodd wrtho ef, gwna’r hyn oll yn dy galon: cerdda rhagot, wele fi gyd a thi fel y mynnech.
8Yna y dywedodd Ionathan wele pan elom ni trosodd at y gwyr ac ymddangos iddynt,
9Os dywedant fel hyn wrthym, arhoswch nes i ni ddyfod attoch chwi: yna y safwn, yn ein lle, ac nid awn i fynu attynt hwy.
10Ond os fel hyn y dywedant, deuwch i fynu attom ni, yna’r awn i fynu, canys yr Maca.4.30.Arglwydd ai rhoddes hwynt yn ein llaw ni: a hyn yn argoel i ni.
11Felly’r ymddangosasant ill dau i sefyllfa y Philistiaid, yna y Philistiaid a ddywedasant wele’r Hebræaid yn dyfod allan o’r tyllau y rhai y llechasant ynddynt.
12A gwŷr y sefyllfa a attebasant Ionathan, a chlududd ei arfau ef, ac a ddywedasant: deuwch i fynu attom ni fel yr yspysom beth i chwi: yna y dywedodd Ionathan wrth glududd ei arfau, tyret i fynu ar fy ôl, canys yr Arglwydd ai rhoddes hwynt yn llaw Israel.
13Felly Ionathan a aeth i fynu ar ei ddwylo, ac ar ei draed, a chlududd ei arfau ar ei ôl ef, a hwy a syrthiasant o flaen Ionathan: ei eswyn hefyd oedd yn lladd ar ei ôl ef.
14A oedd y blâ gyntaf yr hon y tarawodd Ionathan a chlududd ei arfau ynghylch vgain-wr: megis o fewn yng-hylch hanner cyfer dau o dir.
15A bu fraw yn y gwerssyll, yn y maes, ac ym mysc yr holl bobl, y rhai a aethent o’r sefyllfa i anrheithio: hwythau hefyd a ddychrynnasant: y ddaiar hefyd a grynnodd am ei bod a dychryn Duw.
16Yna disgwil-wŷr Saul yn Gibea Beniamin a edrychasant, ac wele y dyrfa a wascarodd, ac a aeth, a dan ymguro.
17Am hynny y dywedodd Saul wrth y bobl y rhai gyd ag ef: cyfrifwch yn awr, ac edrychwch pwy a aeth oddi wrthym ni: pan gyfrifasant, yna wele Ionathan a chlududd ei arfau nid
18Yna y dywedodd Saul wrth Ahiah, dwg ymma Arch Dduw: canys yr oedd Arch Dduw y pryd hynny gyd a meibion Israel.
19A thra yr ydoedd Saul yn ymddiddan a’r offeiriad, yna y terfysc yr hwn yng-werssyll y Philistiaid gan fyned a aeth, ac a amlhaodd, am hynny y dywedodd Saul wrth yr offeiriad, tynn attat dy law.
20Yna yr ymgynhullodd Saul, a’r holl bobl y rhai gyd ag ef, ac a ddaethant i’r rhyfel: 2.Cron.2.23.(sic.)ac wele gleddyf pob vn yn erbyn ei gyfnesaf dinistr mawr odieth
21Yr Hebræaid hefyd oeddynt gyd a’r Philistiaid o’r blaen, y rhai a aethent i fynu gyd a hwynt i’r gwerssyll oddi amgylch: îe hwyntwy hefyd i fod gyd a’r Israeliaid y rhai gyd a Saul ac Ionathan.
22A holl wŷr Israel y rhai oeddynt yn llechu ym mynydd Ephraim a glywsant ffoi o’r Philistiaid: a hwy ai herlydiasant hefyd oi hôl yn y rhyfel.
23Felly yr achubodd yr Arglwydd Israel y dydd hwnnw, a’r rhyfel a aeth tros Beth-afen.
24A gwŷr Israel oeddynt wedi eu gorthrymmu y dydd hwnnw, o herwydd tynghedase Saul y bobl gan ddywedyd, melldigedic y gŵr yr hwn a fwyttao fwyd hyd yr hwyr, fel y dialwyf ar fyng-elynion: felly nid archwaithodd yr vn o’r bobl bwyd.
25Yna yr holl wlâd a ddaethant i goed, lle’r oedd mêl ar hyd wyneb y tîr.
26Er dyfod y bobl i’r coed, ie wele mêl yn diferu: etto ni choddodd law at ei enau, canys ofnase y bobl y llw.
27Ond Ionathan ni chlywse pan dynghedase ei dad ef y bobl, am hynny yr estynnodd efe flaen y wialen yr hon yn ei law ef, ac ai gwlychodd yn nil y mêl: ac a drôd ei law at ei enau, ai lygaid a oleuasant.
28Yna vn o’r bobl a fynegodd, ac a ddywedodd, gan dyngu y tyngodd dy dad ti y bobl gan ddywedyd: melldigedic’r gŵr yr hwn a fwyttu fwyd heddyw: a’r bobl oedd ddeffygiol.
29Yna y dywedodd Ionathan, fy nhâd a flinodd y wlâd heddyw, gwelwch yn awr fel y goleuodd fy llygaid o herwydd i mi archwaethu ychydig o’r mêl hwn.
30Pa faint mwy, pe bwyttase’r bobl heddyw o anrhaith eu gelynion, yr hon a gawsant hwy, oni buase yn awr fwy y dinistr ym mysc y Philistiaid?
31A hwy a darawsant ar y Philistiaid y dydd hwnnw o Micmas Aialon: a’r bobl a lwyr ddeffygiodd.
32A dychwelodd y bobl at yr anrhaith, ac a gymmerasant y defaid, a’r gwarthec, a’r lloi, ac ai lladdasant ar y ddaiar: a’r bobl a fwyttaodd * gyd a’r gwaed.
33Pan fynegasant hwy i Saul gan ddywedys, wele y bobl sy’n pechu yn erbyn yr Arglwydd gan fwytta yng-hyd a’r gwaed: yna efe a ddywedodd, trosseddasoch, treiglwch attafi heddyw faen mawr.
34Dywedodd Saul hefyd, ymwascerwch ym-mysc y bobl, a dywedwch wrthynt, dygwch attafi bob vn ei ŷch, a phob vn ei lwdn dafad, a lleddwch ymma, fel y bwyttaoch, ac na phechoch yn erbyn yr Arglwydd, gan fwytta yng-hyd a’r gwaed: a’r bobl oll a ddugasant bob vn ei ŷch yn ei law y noswaith honno, ac ai lladdasant yno.
35Yna’r adailadodd Saul, allor i’r Arglwydd: hon a ddechreuodd efe hadailadu yn allor i’r Arglwydd.
36A dywedodd Saul, awn i wared ar ôl y Philistiaid liw nôs, ac ysclyfaethwn oddi arnynt hyd oni oleuo’r boreu, ac na ollyngwn ymmaith vn o honynt, hwythau a ddywedasant gwna yr hyn oll da yn dy olwg: yna y dywedodd yr offeiriad, nessawn ymma at Dduw.
37Yna y gofynnodd Saul i Dduw, a â fi i wared ar ôl y Philistiaid? a roddi di hwynt yn llaw Israel? ond nid attebodd efe y dydd hwnnw
38Yna y dywedodd Saul, Barn.20.1.dynesswch ymma holl bennaethiaid y bobl: mynnwch ŵybod hefyd, ac edrychwch ym mhwy y mae y pechod hwn heddyw.
39Canys mai byw yr Arglwydd yr hwn sydd yn gwaredu Israel, pe bydde hyn yn Ionathan fy mab, diau y llwyr roddid ef i farwolaeth: ac nid attebodd o’r holl bobl ef.
40Dywedodd efe hefyd wrth holl Israel, chwi a fyddwch ar y naill du, minne hefyd, ac Ionathan fy mab fyddwn ar y tu arall: a dywedodd y bobl wrth Saul, gwna dâ yn dy olwg.
41Yna y dywedodd Saul wrth Arglwydd Dduw Israel, dod oleufyneg: a daliwyd Ionathan, a Saul, ond y bobl a aethant allan.
42Dywedodd Saul hefyd, bwriwch rhyngofi, ac Ionathan fy mab: a daliwyd Ionathan.
43Yna y dywedodd Saul wrth Ionathan, mynega i mi beth a wnaethost, ac Ionathan a fynegodd iddo ef, ac a ddywedodd: gan archwaithu yr archwaithais ychydig o fêl ar flaen y wialen yr hon yn fy llaw, wele fi, a fyddafi farw?
44Dywedodd Saul hefyd, felly gwneled Duw ac felly y chwaneged, onid gan farw y byddi di farw Ionathan.
45Yna y dywedodd y bobl wrth Saul, a leddir Ionathan yr hwn a wnaeth yr ymwared mawr hyn yn Israel? na atto Duw: byw yr Arglwydd o syrth o wallt ei benn ef i’r ddaiar, canys gyd a Duw y gweithiodd efe heddyw: a’r bobl a waredâsant Ionathan, fel na lladdwyd ef.
46A Saul a ddaeth i fynu oddi ar ôl y Philistiaid, a’r Philistiaid a aethant iw llê eu hun.
47Felly y cynhaliodd Saul y frenhiniaeth ar Israel, ac yr ymladdodd oddi amgylch yn erbyn meibion Ammon, ac yn erbyn Edom, yn erbyn brenhinoedd Zobah hefyd, ac yn erbyn y Philistiaid, ac yn erbyn pwy bynnac yr ŵynebodd, efe ai gorchfygodd
48Cynnullodd lû hefyd a tharawodd Amalec, ac a waredodd Israel o law ei anrheithudd.
49A meibion Saul oeddynt Ionathan, a Iessui, a Malchusiah: dymma henwau ei ddwy ferched ef, enw yr hynaf Merab, ac enw yr ieuangaf Michol.
50Ac enw gwraig Saul Ahinoam merch Ahimaaz: ac enw tywysog ei filwriaeth ef Abner mâb Nêr, ewythr frawd ei dad i Saul.
51Cis hefyd dad Saul: a Nêr tad Abner fab Abiel.
52A bu ryfel caled yn erbyn y Philistiaid holl ddyddiau Saul: a Saul a wele bôb gŵr glew, a phôb mab nerthol, ac ai cymmere atto ei hun.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.