1.Petr 4 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IIII.Cynghor i ymado â phechod, ac na threuliom mwy o amser mewn camwedd 7 I fod yn sobr, ac yn hywaith i weddio, 8 I garu ei gilydd. 12 I ddioddef trallod, 15 I ymogelyd rhag bod i neb ddioddef fel dryg-ddyn, 16 Eithr fel Cristion.

1Am hynny gan ddioddef o Grist trosom ni yn y cnawd, chwithau hefyd arfogwch eich hunain âr vn rhyw feddwl, sef peidio o hwn a ddioddefodd yn y cnawd â phechod.

2Fel na byddo iddo o hyn allan (tros yr hyn sydd yng-weddill o’r amser y cnawd) fyw ar ôl trachwantau dynnion, eithr ar ôl ewyllys Duw.

3Canys Diwedd pôb peth sydd yn nesau: am hynny byddwch sobr, a gwiliadwrus i weddio.

8Ym mlaen pob peth bydded cariad twymn yn eich plith: Dihar.10.12.canys cariad a guddia liaws o bechodau.

9 Ruf.12.13.|ROM 12:13. heb.13.2. Byddwch leteugar bawb iw gilydd yn ddirwgnach.

10Pawb Ruf.12.6.|ROM 12:6. phil.2.14.megis ac y cafodd rodd bydded iddo gyfrannu â’i gilydd, fel daionus orchwylwŷr amryw râs Duw.

11Os dywed neb, megis gair Duw, os gweini a wna neb, hynny megis o’r gallu y mae Duw yn ei roddi, fel y molianner Duw ym mhôb peth trwy Iesu Grist, i’r hwn y mae gogoniant, ac arglwyddiaeth yn oes oesoedd. Amen.

12Oh rai annwyl, na fydded dieithr gennwch y prawf sydd arnoch trwy dân, yr hwn a wnei er profedigaeth i chwi, fel pe digwydde iwch ryw beth dieithr:

13Eithr llawenhewch, gan eich bod chwi yn gyfrannog o ddioddefaint Crist, fel y galloch pan eglurer ei ogoniant ef, fod yn llawen, ac yn hyfryd.

14Os Math.5.10.dirmygir chwi er mwyn enw Crist, dedwydd ydych, canys Yspryd y gogoniant, ac Yspryd Duw a orphywys arnoch: yr hwn ar eu rhan hwynt a geblir, ac ar eich rhan chwi a foliennir.

15Eithr na fydded i neb o honoch oddef, fel llofrudd, neu leidr, neu drwy ddrwg-weithredwr, neu fel vn a fyddo yn ymmyryd â materion rhai eraill:

16Eithr os fel Cristion, na fydded gywilydd ganddo, eithr molianned Dduw yn hynny o ran.

17Canys yr amser a ddaeth y bydd rhaid i’r farn ddechreu ar dŷ Dduw: ac os ydyw yn gyntaf yn dechreu arnom ni, pa ryw ddiwedd i’r rhai ni chredant Efengyl Dduw?

18Ac Dihar.2.21.os prin y bydd y cyfiawn gadwedig pa le yr ymddengys yr anwir a’r pechadur?

19Ac am hynny y rhai sy yn goddef ar ôl ewyllys Duw, ymroant eu heneidiau trwy wneuthur yn dda, megis i’r creawdydd ffyddlon.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help