Zacharias 11 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XI.1 Dinistr y Deml. 4 y Tad yn gorchymyn, ei ddefaid i Grist ein bugail ni. 7 Gweledigaeth yn erbyn Ierusalem, ac Iuda.

1Libanus agor dy ddorau, ac yssed y tân dy cedr-wŷdd.

2Y ffynnidwydd vdwch, canys cwympodd y cedr-wydd, difwynwyd y rhai ardderchoc, vdwch dderw Basan, canys syrthiodd y goedwic gaeedic.

3[Clywir] llêf vdfa y bugeiliaid, am ddifwyno eu hardderchawgrwydd, llef rhuad y llewod ieuaingc, am ddifwyno balchder yr Iorddonen.

4Fel hyn y dywed yr Arglwydd fy Nuw; portha ddefaid y lladdfa.

5Y rhai a ddarfu iw perchennogion eu lladd, ac ni phechent, ai gwerth-wŷr a ddywedant, bendigedic’r Arglwydd am fyng-hyfoethogi, ai bugeiliaid nid arbedasant hwynt.

6Am hynny nid arbedaf mwyach drigolion y wlâd medd yr Arglwydd, ond wele fi yn rhoddi y dŷnion, bob vn i law ei gymmydog: ac i law ei frenin: a phan darawant y tîr, nid achubaf oi llaw hwynt.

7Canys mi a borthaf ddefaid y lladdfa, trueniaid y praidd: a chymmerais i’m ddwy ffon, vn a elwais Hyfrydwch, ac vn a elwais Rhwymau, felly mi a borthais y praidd.

8A thorrais ymmaith dri bugail mewn vn mis, a’m henaid ai ffieiddiodd hwynt, ai henaid hwytheu a alarodd arna finne.

9Dywedais hefyd, ni phorthaf chwi, a fyddo farw, bydded farw: ac a fetho, methed, a’r gweddill a yssant bob vn gnawd y llall.

10A chymmerais fy ffon Hyfrydwch, a thorrais hi, i dorri fyng-hyfammod yr hwn a ammodaswn a’r holl bobl.

11A’r dydd hwnnw y torrwyd hi, ac felly y gwybu trueniaid y praidd, (y rhai oeddynt yn ystyr o honof) mai gair yr Arglwydd hyn.

12A dywedais wrthynt, os gwelwch yn dda dygwch fyng-hyflog, ac onid ê, peidiwch: a’m cyflog Math.27.9.a bwysasant yn ddêc ar hugain o arian.

13A dywedodd yr Arglwydd wrthif, bwrw i’r crochenydd yr ardderchog brîs i’m prissiwyd ganddynt: a chymmerais y dêc ar hugain o arian, a bwriais hwynt i dŷ’r Arglwydd i’r crochenudd.

14Yna mi a dorrais fy ail ffon, Rhwymau, i dorri y brawdoliaeth rhwng Iuda ac Israel.

15A’r Arglwydd a ddywedodd wrthif, cymmer etto it offer bugail ffôl.

16Canys wele fi yn codi bugail yn y tîr ni ofwya y rhai cuddiedic, ni chais y rhai ieuaingc, ni feddiginiaetha y rhai briwedic: a fyddo safadwy ni faetha, ond bwyttu gîg yr vn brâs, ac efe a ddryllia eu hewinedd hwynt.

17Gwae’r eilun bugail yn gadael y praidd, y cleddyf ar ei fraich, ac ar ei lygad deheu: ei fraich gan wywo a wywa, ai lygad deheu gan dywyllu a dywylla.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help