Genesis 38 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXXVIII.2 Iuda yn priodi. 7 Drygioni Er, ac Onan, a dialedd Duw arnynt hwy. 18 Iuda yn gorwedd gyd a Thamar. 24 Ac yn barnu Thamar iw llosci am Odineb. 29 39 Ganedigaeth Phares, a Zarah.

1Ac yn y cyfamser hwnnw, y darfu i Iuda ddescyn oddi wrth ei frodyr, a throi at ŵr o Adulam, ai henw Hirah.

2Ac yno y canfu Iuda ferch gŵr o Ganaan, ai enw ef Sua; ac ai cymmerodd hi, ac a aeth atti hi.

3A hi a feichiogodd, ac a escorodd ar fâb, ac efe a alwodd ei 1.Cron.2.3.enw ef Er.

4A hi a feichiogodd eil-waith, ac a escorodd ar fâb, a hi a alwodd ei enw ef Onan.

5A thrachefn hi a escorodd ar fâb, ac a alwodd ei enw ef Selah: Ac yn Cezib yr oedd pan escorodd hi ar hwn.

6Yna Iuda a gymmerth wraig i Er ei gyntaf-anedic: ai henw hi Thamar.

7Ac Num.26.19.yr oedd Er cyntaf-anedic Iuda yn ddrygionus yng-olwg yr Arglwydd, am hynny y lladdodd yr Arglwydd ef.

8Yna Iuda a ddywedodd wrth Onan dôs at wraig dy frawd, a gwna iddi rann cyfathrach-wr, a chyfod hâd i’th frawd.

9Felly Onan a wybu nad iddo ei hun y bydde’r hâd: gan hynnya pan ele efe at wraig ei frawd, yna y colle efe ei ar y llawr, rhac rhoddi o honaw hâd iw frawd.

10A drygionus oedd yr hyn a wnaethe efe yng-olwg yr Arglwydd: am hynny efe ai lladdodd yntef.

11Yna Iuda a ddywedodd wrth Thamar ei waudd ef, trig yn weddw nhŷ dy dâd, hyd oni chynnyddo fy mâb Selah: oblegit efe a feddyliase rhac lladd hwnnw hefyd fel ei frodyr ef: felly Thamar a aeth, ac a drigiodd nhŷ ei thad.

12Ac wedi llawer o ddyddiau, marw a wnaeth merch Sua gwraig Iuda yna Iuda a gymmerth gyssur, ac a aeth i fynu i Thimnath, at gneif-wyr ei ddefaid, ef ai gymydog Hirah yr Adulamiad.

13Mynegwyd hefyd i Thamar, gan ddywedyd: wele dy chwegrwn yn myned i fynu i Thimnath, i gneifio ei ddefaid.

14Hithe a ddioscodd ddillad ei gweddwdod oddi am deni, ac a orchguddiodd a moled, ac a ymwiscodd, ac a eisteddodd yn nrws Enaim yr hwn ar y ffordd i Thimnath: o blegit gweled yr oedd hi fyned o Selah yn fawr, ac na roddasid hi yn wraig iddo ef.

15Felly Iuda ai canfu hi, ac a dybiodd hi yn buttain, o blegit gorchguddio o honi ei hwyneb.

16Ac efe a droawdd atti hi i’r ffordd, ac a ddywedodd tyret atolwg, gad i mi ddyfod attat: o blegit nid oedd efe yn gwybod mai ei waudd ef hi: hithe a ddywedodd, beth a roddi i mi, ôs cei ddyfod attaf?

17Yntef a ddywedodd, mi a hebryngaf fynn gafr o y praidd: hithe a ddywedodd ôs rhoddi wystl hyd oni hebryngech.

18Yntef a ddywedodd, beth y gwystl yr hwn a roddaf i ti? hithe a ddywedodd dy sêl, a’th gochl, a’th ffonn, yr hon yn dy law di. ac efe ai rhoddes iddi, ac a aeth atti; a hi a feichiogodd o honaw ef.

19Yna y cyfododd hi ac a aeth ymmaith, ac a ddioscodd ei moled oddi amdeni, ac a wiscodd ddillad ei gweddwdod.

20Ac Iuda a hebryngodd fynn gafr yn llaw’r Adulamiad ei gymydog ef, i gymmeryd y gwystl o law y wraig: ond ni chafodd hi.

21Ac efe a ymofynnodd a gwŷr y frô honno gan ddywedyd: pa le y buttain honno yr yn Enaim wrth y ffordd? hwythau a ddywedasant ni bu yma buttain.

22Yna efe a ddychwelodd at Iuda, ac a ddywedodd, ni chefais hi, a gwŷr y frô honno hefyd a ddywedasant ni bu yma buttain.

23Ac Iuda a ddywedodd, cymmered iddi hi, rhac ein bod ni yn watworgerdd: wele, mi a hebryngais y mynn hwn, a thithe ni chefaist hi.

24Ac ynghylch pen tri mis y mynegwyd i Iuda, gan ddywedyd: Thamar dy waudd di a butteiniodd, ac wele, hi a feichiogodd hefyd mewn godineb: yna y dywedodd Iuda dygwch hi allan, a lloscer hi.

25Yna hi, (pan ddygwyd hi allan) a anfonodd at ei chwegrwn, gan ddywedyd: o’r gŵr yr hwn fydd eiddaw y rhai hyn yr ydwyfi yn feichiog: hefyd hi a ddywedodd, adnebydd, attolwg eiddo pwy yr sêl, a’r gochl, a’r ffonn ymma.

26Yna Iuda a adnabu ac a ddywedodd: cyfiawnach yw hi na’m fi, o herwydd na roddais hi i’m mâb Selah: ac ni bu iddo ef a wnaeth a hi mwy.

27Ac yn amser ei hescoredigaeth hi, wele efeillion yn ei chroth hi.

28Bu hefyd pan escorodd hi, i roddi law: a’r fyd-wraig ai cymmerth ac a rwymodd am ei law ef gôch gan ddywedyd: hwn a ddaeth yn gyntaf allan.

29A phan dynnodd efe ei law yn ei hôl, yna wele ei frawd ef a ddaeth allan, a hithe a ddywedodd, pa ham y rhwygaist arnat rwygiad? a’m hynny y galwyd ei 1.Cron.2.4. Mat.1.3.enw ef Phares.

30Ac wedi hynny ei frawd ef a ddaeth allan, yr hwn gôch am ei law: a galwyd ei henw ef Zarah.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help