1Ac etifeddiaeth llwyth meibion Iuda oedd yn ôl eu teuluoedd: Num.34.3.tua therfyn Edom, anialwch Num.33.36.Zin tua yr dehau o’r cwrr dehau.
2A therfyn y dehau oedd iddynt hwy o gwrr y môr hêli: o’r graig yr hon sydd yn wynebu tua’r dehau.
3Ac yr oedd yn myned allan o’r dehau hyd riw Acrabim, ac yr oedd yn cyredd i Zin, ac yn myned i fynu o du’r dehau i Cades Barna: ac yn myned hefyd i Hesron, ac yn escynn i Adarah, ac yn amgylchynu i Garcaa.
4Ac yn cyredd i Asmon, ac yn myned tu ag afon yr Aipht, a chyrrau y terfyn hwunw oeddynt tua’r gorllewyn: hyn fydd i chwi yn derfyn tua’r dehau.
5A’r terfyn tua’r dwyrain’r môr hêli hyd eithaf yr Iorddonen: a’r terfyn o dû’r gogledd o graig y môr o gwrr ŷr Iorddonen.
6A’r terfyn hwn oedd yn myned i fynu i Bethhogla, ac yn cyredd o’r gogledd hyd Beth-Arabah: a’r terfyn hwn oedd yn myned i fynu at faen Bohan mab Ruben.
7A’r terfyn hwn sydd yn myned i fynu i Dabir o ddyffryn Achor, a thua’r gorllewyn yn edrych tua Gilgal, yr hon o du’r dehau i’r afon: y terfyn hwn hefyd sydd yn myned hyd ddyfroedd Ensemes, ai gwrr eithaf sydd wrth 1.Bren.1.9.En-rogel.
8Yna’r terfyn hwn sydd yn myned i fynu ddyffryn meibion Hinnom gan ystlys y Iebusiaid o du’r dehau, honno Ierusalem: y terfyn hwn hefyd sydd yn myned i fynu i benn y mynydd yr hwn o flaen dyffryn Hinnon tua’r gorllewyn, yr hwn yng-hwrr glynn Rephaim tua’r gogledd.
9Felly y terfyn hwn sydd yn amgylchu o benn y mynydd hyd ffynnon y dyfroedd Nephthoah, ac sydd yn myned allan i ddinasoedd mynydd Ephron: y terfyn hwn hefyd sydd yn tueddu i Baala honno Ciriath-Iearim.
10Yna y terfyn hwn sydd yn amgylchynu o Baala tua’r gorllewyn i fynydd Seir, ac y sydd yn myned rhacddo at ystlys mynydd Iearim o du’r gogledd, honno Chesalon: felly y mae yn descyn i Bethsemes, ac yn myned i Thimnah.
11A’r terfyn hwn sydd yn myned i ystlys Ecceron tua’r gogledd, y terfyn hwn sydd yn tueddu i Sichron, ac yn myned rhacddo i fynydd Baala, ac yn cyrheuddyd Iabneel: a chyrrau eithaf y terfyn hwn ydynt y môr.
12A therfyn y gorllewyn’r môr mawr ai derfyn: dymma derfyn meibion Iuda o amgylch drwy eu teuluoedd.
13Ac i Galeb fab Iephun y rhoddodd efe ran ym mysc meibion Iuda yn ol gair yr Arglwydd wrth Iosuah: sef Ios.14.15.caer Arba (yr hwn oedd] dad yr Anaciaid) yw] Hebron.
14A Chaleb a Barn.1.10.yrrodd oddi yno dri mab Anac: Sesai, ac Ahiman, a Thalmai meibion Anac.
15Ac efe a aeth i fynu oddi yno at drigolion Dabir: ac enw Dabir o’r blaen Ciriath Sepher.
16Yna y dywedodd Caleb, pwy bynnac a darawo Ciriath Sepher, ac ai hennill hi: iddo ef y rhoddaf Achsah fy merch yn wraig.
17Ac Othniel mab Eenaz brawd Caleb ai hennillodd hi: yntef a roddodd Achsah ei ferch iddo ef yn wraig.
18A phan ddaeth hi i mewn yna hi ai annogodd ef i geisio gan ei thad faes, Barn.1.14.ac a ddescynnodd oddi ar yr assyn: a dywedodd Caleb wrthi, beth arnat?
19Yna hi a ddywedodd dyro i mi rôdd, canys gwlâd y dehau a roddaist i mi, dyro i mi hefyd ffynhonnau dyfroedd: a Chaleb a roddodd iddi y ffynhonnau vchaf, a’r ffynhonnau isaf.
20Dymma etifeddiaeth llwyth meibion Iuda drwy eu teuluoedd.
21A’r dinasoedd o du eithaf i lwyth meibion Iuda tua therfyn Edom ar du’r dehau oeddynt: Cabzeel, ac Eder, ac Iagur.
22Cinah hefyd, a Dimonah, ac Adadah.
23Cedes hefyd, a Hazor, ac Iethnan.
24Ziph hefyd, a Thelem, a Bealoth.
25Hazor hefyd, Haddatta, a Chiriath Hesron honno Hazor.
26Amam, ac Sema, a Molada.
27Hazar hefyd, Gadah, a Hesmon, a Bethphaleth.
28Hasarsual hefyd, a Beer-seba, a Baziotha.
29Baala, ac Iim, ac Azem.
30Eltholad hefyd, a Chesil, a Horma.
31Siglag hefyd, a Madmandah, a Sansanna.
32Lebaoth hefyd a Silhim, ac Ain, a Rimmon: yr holl ddinasoedd naw ar hugain, ai trefydd.
33Ac yn y gwastadedd: Esthaol, Zarea, ac Asenah.
34Zanoah hefyd, ac Engannim, Thapua, ac Enam.
35Iarmuth, ac Adulam, Socoh, ac Azecah.
36Saaraim hefyd, ac Adithaim, Gederah hefyd a Gederothaim: pedair ar ddec o ddinasoedd, ai trefydd.
37Zenan, a Hadazah, a Migdal-gad.
38Dilean hefyd, a Mispeh, ac Iecthel.
39Lachis, a Basecath, ac Eglon.
40Cabbon hefyd, a Lachmas, a Chithlis.
41Gederoth hefyd, Beth-dagon, a Naama, a Maccedah: vn dinas ar bymthec ai trefydd.
42Libnah, ac Ether, ac Asan.
43Iphthach hefyd, ac Asnah, a Nezib.
44Ceila hefyd, ac Achzib, a Maresah: naw o ddinasoeddai trefi.
45Ecceron, ai phentrefydd, ai threfydd.
46Ecceron hyd y môr: yr holl rhai ger llaw Asdod, ai trefydd.
47Asdod ai phentrefydd ai threfydd, Azza ai phentrefydd ai threfydd hyd afon yr Aipht: a’r môr mawr, ai derfyn.
48Ac yn y mynydd-dîr: Samir, ac Iathir, a Socoh.
49Dannah hefyd, a Chiriath Sannah, honno Dabir.
50Anab hefyd, ac Esthemoh, ac Anim.
51Gosen hefyd a Cholon, a Giloh: vn ddinas ar ddec ai trefydd.
52Arab, a Dumah, ac Efan.
53Ianum hefyd, a Bethtaphua, ac Apecah.
54Humtah hefyd, a Ios.14.15.chaer Arba, honno Hebron, a Sior: naw dinas ai trefydd.
55Maon, Carmel, a Ziph, ac Iutta.
56Iezrael hefyd, ac Iocdeam, a Zanoah.
57Cain, Gibea, a Thimnah: dec o ddinasoedd ai trefydd.
58Halchul, Bethsur, a Gedor.
59Naarah hefyd, a Bethanoth, ac Elthecon: chwech o ddinasoedd ai trefydd.
60Ciriath Baal, honno Ciriath Iearim, a Rabbah: dwy ddinas ai trefydd.
61Yn yr anialwch Beth-harabah, Midin a Secacah.
62Mibsan hefyd, a dinas yr halen, ac Engedi: chwech o ddinasoedd ai trefydd.
63Ond ni allodd meibion Iuda eu gorescyn hwynt, sef y Iebusiaid trigolion Ierusalem: am hynny y trigodd y Iebusiaid gyd a meibion Iuda yn Ierusalem hyd y dydd hwn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.