Psalmau 26 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. xxvj.Iudica me Domine.Psalm Dafydd.

1Barn fi Arglwydd, o herwydd rhodio o honof mewn perffeithrwydd, ac ymddyried o honof yn yr Arglwydd, ni lithraf.

2Hôla fi Arglwydd, a phrawf di fi: chwilia fy arennau, a’m calon.

3Canys dy drugaredd o flaen fy llygaid: am hynny y rhodiais yn dy wirionedd.

4Nid eisteddais gyd â dynnion celŵyddoc: a chyd a’r rhai dichellgar nid aethum.

5Casseais gynnulleidfa y drygionus: a chyd a’r annuwolion nid ydwyf yn eistedd.

6Golchaf fy nwylo mewn gwiriondeb: a’th allor ô Arglwydd a amgylchŷnaf,

7I draethu mewn llef clodforedd: ac i fynegu dy holl ryfeddodau.

8Arglwydd hoffais drigfan dy dŷ: a llê presswylfa dy ogoniant.

9Na chascl fy enaid gyd a’r pechaduriaid: na’m bywyd gyd a’r dynnion gwaedlyd:

10Y rhai scelerder yn eu dwylo: ai deheu-law yn llawn gobr.

11Eithr mi a rodiaf yn fy mherffeithrwydd: gwaret fi, a thrugarhâ wrthif.

12Fy nhroed sydd yn sefyll mewn iniondeb: yn y cynnulleidfaoedd i’th glodforaf ô Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help