Psalmau 99 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. xcix.

1Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu a ymderfysco y bobloedd: eistedd y mae y Cerubiaid a ymsiglo y ddaiar.

2Mawr Arglwydd yn Sion, a derchefedic yw efe goruwch yr holl bobloedd.

3Moliannant dy enw mawr ac ofnadwy, sanctaidd yw.

4A nerth y brenin a hoffa farn, ti a ddarperaist iniondeb, barn, a chyfiawnder a wnaethost ti yn Iacob.

5Derchefwch yr Arglwydd ein Duw, ac ymgrymmwch o flaen ei stôl draed ef, sanctaidd efe.

6Moses ac Aaron ym mhlith ei offeiriaid ef: a Samuel ym mysc y rhai a alwent ar ei enw, galwasant ar yr Arglwydd, ac efe ai gwrandawodd hwynt.

7Llefarodd wrthynt mewn colofn o niwl, cadwasant ei destiolaethau, a’r ddeddf roddodd efe iddynt.

8Gwrandewaist arnynt ô Arglwydd ein Duw: Duw oeddit yn eu harbed, pan ddielit am eu gweithredoedd.

9Derchefwch yr Arglwydd ein Duw, ac ymgrymmwch ar ei fynydd sanctaidd, canys sanctaidd’r Arglwydd ein Duw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help