1Ac yn
5A’r drydedd rann yn nhŷ’r brenin, a’r drydedd rann yn y porth pennaf: a’r holl bobl yng-hynteddau tŷ’r Arglwydd.
6Ac na ddeled i dŷ’r Arglwydd, onid yr offeiriaid, a’r gwenidogion o’r Lefiaid, deuant hwy i mewn, canys sanctaidd ydynt: a’r holl bobl a gadwant wiliadwriaeth yr Arglwydd.
7A’r Lefiaid a amgylchynant y brenin, pôb vn ai arfau yn ei law, a’r hwn a ddelo i’r tŷ lladder ef: a byddwch gyd a’r brenin pan ddelo efe i mewn, a phan ddelo efe allan.
8A’r Lefiaid a holl Iuda a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchymynnase Iehoiadah yr offeiriad, a hwy a gymmerasāt bawb eu gwŷr y rhai a oeddynt yn dyfod i mewn y Sabboth: gyd a’r rhai oeddynt yn myned allan y Sabboth (canys ni ryddhause Iehoiadah’r offeiriad y dosparthiadau)
9Ac Iehoiadah’r offeiriad a roddodd i dywysogion y cantoedd y gwaiw-ffyn, a’r tariannau, a’r estylch y rhai yn eiddo y brenin Dafydd: y rhai yn nhŷ Dduw.
10Ac efe a 2.Bren.11.11.gyfleuodd yr holl bobl, a phob vn ai gleddyf yn ei law, o’r tu dehau i’r tŷ hyd y tu asswy i’r tŷ, yng-hylch yr allor, a’r tŷ, wrth y brenin oddi amgylch.
11Yna y dugasant allan fab y brenin, a rhoddasant y goron arno ef, a’r destiolaeth, ac ai hurddasant ef yn frenin: Iehoiahah hefyd ai feibion ai heneiniasant ef, ac a ddywedasant, byw fyddo’r brenin.
12Pan glybu Athaliah drŵst y bobl yn rhedeg, ac yn moliannu y brenin: yna hi a ddaeth at y bobl i dŷ’r Arglwydd.
13Pan edrychodd hi, yna wele y brenin oedd yn sefyll yn ei lê wrth y ddyfodfa, a’r tywysogion, a’r vdcyrn o amgylch y brenin, a holl bobl y wlâd yn llawen, ac yn lleisio mewn vdcyrn, a’r cantorion ag offer gerddgar, a’r rhai a fedrent foliannu: yna Athaliah a rwygodd ei gwiscoedd, ac a ddywedodd, bradwriaeth, bradwriaeth.
14Ac Iehoiadah yr offeiriad a barodd i dywysogion y cantoedd, swyddogion y llû fyned allan, ac a ddywedodd wrthynt, dygwch hi allan o’r rhessau, a’r hwn a ddelo ar ei hôl hi lladder ef a chleddyf: canys dywedase’r offeiriaid, na ladder hi yn nhŷ’r Arglwydd.
15Am hynny y gosodasant ddwylo arni hi, a hi a ddaeth tu a’r porth y deue y meirch i dŷ y brenin, ac yno y lladdasant hwy hî.
16Ac Iehoiadah a wnaeth gyfammod rhyngddo ei hun a’r holl bobl, a’r brenin: i fod yn bobl i’r Arglwydd.
17Yna’r holl bobl a ddaethant i dŷ Baal, ac ai destruwiasant ef, ai allorau, ei ddelwau hefyd a ddrylliasant hwy: felly y lladasant hwy Mathan offeiriad Baal o flaen yr allor.
18Ac Iehoiadah a osododd swyddogiō nhŷ’r Arglwydd tann law y Lefiadaidd offeiriaid y rhai a ddosparthase Dafydd yn nhŷ yr Arglwydd i offrymmu poeth offrymmau i’r Arglwydd, Num.28.3.fel y mae yn scrifennedic yn llyfr Moses mewn llawenydd a chân: fel y trefnase Dafydd.
19Ac efe a gyfleuodd y porthorion wrth byrth tŷ’r Arglwydd: fel na ddêle i mewn yr hwn aflan mewn dim oll.
20Cymmerodd efe hefyd dywysogion y cantoedd, a’r pendefigiō, a’r rhai oeddynt yn arglwyddiaethu ar y bobl, a holl bobl y wlâd, ac efe a barodd i’r brenin ddyfod i wared o dŷ’r Arglwydd, a hwy a ddaethāt i fewn porth vchaf tŷ y brenin: a chyfleuasant y brenin ar orseddfa y frenhiniaeth.
21A holl bobl y wlâd a lawenychasant, a’r ddinas a fu lonydd wedi lladd o honynt hwy Athaliah a’r cleddyf.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.