1.Esdras 7 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VII.Esdras trwy gennad y brenin yn dyfod i Ierusalem. 27 Ac yn moliannu Duw yno.

1Ac wedi y pethau hyn yn nheyrnasiaid Artaxerxes brenin Persia Esdras mab Saraia, fab Asaria, fab Helcia,

2Fab Salum, fab Zador, fab Ahitob.

3Fab Amaria, fab Asaria, fab Meraioth,

4Fab Zeraiah, fab Uzzi, fab Bucei,

5Fab Abusia, fab Phinehes, fab Eleazar, fab Aaron yr offeiriad pennaf.

6Yr Esdras hwn a aeth i fynu o Babilon, ac efe yn scrifennudd cyflym yng-hyfraith Moses yr hon a roddase Arglwydd Dduw Israel, a’r brenin a roddes iddo ef (fel yr llaw’r Arglwydd ei Dduw arno ef) ei holl ddymuniad.

7A a aethant i fynu o feibion 197 Israel, ac o’r offeiriaid, a’r Lefiaid, a’r cantorion, a’r porthorion, a’r Nethinaid, i Ierusalem, yn y seithfed flwyddyn o’r brenin Artaxerxes.

8Ac efe a ddaeth i Ierusalem yn y pummed mis, hynny yn y seithfed flwyddyn i’r brenin.

9Canys ar y cyntaf o’r mîs cyntaf efe yn achos i ddyfod i fynu o Babilon, ac ar y cyntaf o’r pummed mis y daeth efe i Ierusalem fel daionus law ei Dduw gyd ag ef.

10Canys Esdras a osodase ei galon ar geisio cyfraith yr Arglwydd, ac ar wneuthur, a dyscu yn Israel ddeddfau, a barn.

11Ac dymma ystyr y llythr yr hwn a roddodd y brenin Artaxerxes i Esdras yr offeiriad a’r scrifennudd, scrifennudd geriau gorchymynnion yr Arglwydd, ai ddeddfau ef i Israel.

12Artaxerxes brenin y brenhinoedd at Esdras yr offeiriad, scrifennudd deddf Duw y nefoedd yn anfon annerch.

13Myfi a osodais orchymyn, mai pwy bynnac yn fy nheyrnas i o bobl Israel, yr offeiriaid, a’r Lefiaid sydd ewyllyscar i fyned i Ierusalem, a gaiff fyned gyd a thi.

14Am hynny i’th yrryr oddi wrth y brenin a saith o gynghorriaid i ymweled ag Iuda, ac ag Ierusalem, wrth gyfraith dy Dduw yr hon yn dy law di:

15Ac i ddwyn arian, ac aur yr hwn a offrymmodd y brenin ai gynghoriaid o honynt eu hunain i Dduw Israel, (yr hwn[y mae] ei bresswylfa yn Ierusalem)

16A’r holl arian, a’r aur yr hyn a geffech di yn holl dalaith Babilon o wirfodd y bobl a’r offeiriaid, y rhai a offrymmant o honynt eu hunain tu ag at dŷ eu Duw yn Ierusalem,

17Fel y prynech yn ebrwydd a’r arian hynny ychen, hyrddod, ŵyn, ai bwyd offrymmau, ai diod offrymmau, ac offrwm hwynt ar allor tŷ eich Duw yn Ierusalem.

18A’r hyn a fyddo dâ gennit ti, a chan dy frodyr wneuthur a’r rhan arall i’r arian, ac i’r aur, gwnewch yn ôl ewyllys eich Duw.

19A’r llestri y rhai a roddwyd it tua gwasanaeth tŷ dy Dduw, dod ti adref o flaen dy Dduw Ierusalem.

20A’r rhan arall o anghenrhaid tŷ dy Dduw’r hyn a ddigwyddo it ei roddi, a roddi dio dryssor-dŷ’r brenin.

21A myfi y brenin Artaxerxes ydwyf yn gosod gorchymyn i holl dryssor-wŷr tu hwnt i’r afon, beth bynnac a geisio Esdras (offeiriad, scrifennydd Deddf Duw’r nefoedd) gennych, gwneler yn ebrwydd.

22Hyd gant talent o arian, ac hyd gant Corus o wenith, ac hyd gant Bath o win, ac hyd gant Bath o olew, a hâlen heb fesur.

23Beth bynnac wrth gyfraith Duw yr nefoedd, gwneler yn ebrwydd i dŷ Duw’r nefoedd, fel na byddo ef lidiawgrwydd ef yn erbyn teyrnas y brenin ai feibion?

24Yr ydym yn yspyssu i chwi hefyd yr holl offeiriaid, Lefiaid, psalmyddion, porthorion, Nethiniaid, a gwenidogion y tŷ Duw hwn na ellir bwrw arnynt doll, teyrn-ged, na thrêth,

25Tithe Esdras yn ôl doethineb dy Dduw yr hon yn dy law, gosot farn-wŷr, ac ynadon i farnu’r holl bobl o’r tu hwnt i’r afon, o’r rhai oll a fedrant gyfraith dy Dduw: a dyscwch y rhai ni fedrant.

26Pwy bynnac ni fyddo’n cadw cyfraith dy Dduw, a chyfraith y brenin, gwneler barn yn ebrwydd am dano ef, y naill ai i farwolaeth, ai i herwriaeth, ai i ddirwy o dda, neu i garchar.

27Bendigedic yw Arglwydd Dduw ein tadau’r hwn a roddes fel hyn yng-halon y brenin, i adailadu tŷ’r Arglwydd yr hwn yn Ierusalem.

28Ac a barodd i mi drugaredd, o flaen y brenin, ai gynghoriaid, ac o flaen holl gedyrn dywysogion y brenin, a mi a gynnorthwywyd (fel llaw yr Arglwydd fy Nuw arnafi) a chesclais bennaethiaid Israel i fyned i fynu gyd a mi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help